Who we are

Alexander Eley

Actor

Mae Alexander Eley yn un o Gyn-filwyr y Fyddin Brydeinig a fu’n gwasanaethu am 10 mlynedd, gan ymrestru yn 2007.

Bu’n gweithio fel rhan o’r Signalau Brenhinol sy’n arbenigo mewn cyfathrebu a gwaredu bomiau, gan fynd ar 2 daith o Affganistan, yn 2010 a 2013, ac mae wedi cyflawni dyletswyddau gwrthderfysgaeth arbenigol.

Ar ôl cael ei ryddhau o’r fyddin yn 2017, bu’n gweithio yn y diwydiant dur am flwyddyn nes iddo ddod o hyd i Common Wealth, sy’n stori ynddi’i hun!
Heb unrhyw brofiad actio blaenorol, cafodd ei ddewis i gyd-serennu yn I Have Met the Enemy (and the enemy is us) a oedd yn gyflawniad aruthrol, ar ôl gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth am 4 blynedd cyn hynny fel DJ Tecno. Mae ganddo brofiad gyda chynulleidfaoedd ac ym maes datblygu creadigol.
Mae Alex wrth ei fodd yn cael cyfle i barhau â’i waith ym maes drama a’r celfyddydau ac mae’n credu ei fod wedi dod o hyd i’w bwrpas.