Who we are

Mae dyn yn sefyll yn yr haul gyda mynyddoedd y tu ôl iddo

Jon Pountney

Artist

Mae Jon Pountney yn artist sy’n byw yn Ne Cymru. Mae’n adnabyddus am ei ffotograffiaeth, ond mae hefyd yn gweithio mewn nifer o gyfryngau, peintio’n bennaf. Mae themâu ei waith wedi’u seilio ar syniadau o le a chymuned, ac yn archwilio pam mae pobl yn teimlo cysylltiad neu’n cael eu denu at dir neu fannau. Mae wrth ei fodd yn gweithio mewn cymunedau i ddatgelu ac ail-ddehongli straeon, gan adeiladu naratifau unigryw o le.

Mae wedi arddangos gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Senedd, Canolfan Mileniwm Cymru, Ffotogallery, Chapter, Academi Frenhinol Gorllewin Lloegr, Oriel Colwyn, ac oriel TEN. Mae cleientiaid yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Age Cymru, BBC, Common Wealth, Gwobr Iris, Peak Cymru, a Cadw.