Who we are

Michelle Wren

Dylunydd Setiau

Ymhlith llawer o bethau eraill, mae Michelle Wren yn artist, yn weithredwraig ac yn adeiladwr setiau. Mae ei gwaith yn ddoniol gan fod celf a hiwmor yn arfau pwerus. Mae’n gweithio gyda sawl cyfrwng o osodiadau mawr wedi’u gwneud o ddelweddau, gwrthrychau, cardbord ac unrhyw beth arall y gall droi ei llaw ato, i adfer gwrthrychau bach i wneud sioeau sbecian. Yn ogystal â gweithio ar ei phen ei hun mae Michelle yn cydweithio ag artistiaid a sefydliadau eraill i ddylunio ac adeiladu setiau, mapio fideo ei chelf a gwneud ffilmiau.