Who we are

A woman in a black top rests her elbows on a table

Nia Morris

Ymarferwyr Theatr

Mae Nia yn Rheolwr Llwyfan, Cyfarwyddwr, Hwylusydd a chyfarwyddwr creadigol Theatre Maker. Y tro cyntaf iddi weithio gyda Common Wealth oedd ar The People’s Platform: Merthyr 2015 fel Dyfeisiwr a Hwylusydd ac ers hynny mae wedi gweithio gyda’r cwmni ar I Have Met the Enemy (a The Enemy is Us) 2018 ac fel Rheolwr Llwyfan ar Rent Party 2021.

Mae Nia yn ymarferydd sy’n siarad Cymraeg ac mae ganddi angerdd gwirioneddol at y theatr yng Nghaerdydd a Chymru. Roedd hi’n un o Gyfarwyddwyr Newydd National Theatre Wales yn 2018 ac yn rhan o raglen cyfarwyddwyr newydd Theatr Genedlaethol Cymru – Awenau 2019. Mae hi hefyd wedi mwynhau gweithio gydag August 012, Theatr Iolo, Operasonic, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Theatr Clwyd fel Rheolwr Llwyfan a Hwylusydd.