Who we are

Rachel Trezise

Awdur

Mae Rachel Trezise yn nofelydd, yn awdur straeon byrion ac yn ddramodydd o Gwm Rhondda. Enillodd ei chasgliad ffuglen fer cyntaf ‘Fresh Apples’ wobr ryngwladol gyntaf Dylan Thomas yn 2006 tra enillodd ei nofel gyntaf ‘In and Out of the Goldfish Bowl’ wobr Orange Futures Prize ac fe’i hychwanegwyd yn ddiweddar at gyfres Llyfrgell Cymru. Mae ei nofelau ffuglen eraill yn cynnwys ‘Dial M for Merthyr’ a ‘Cosmic Latte’. Enillodd ei drama gyntaf ‘Tonypandemonium’, a gynhyrchwyd gan National Theatre Wales yn 2013, wobr Beirniaid Theatr Cymru am y cynhyrchiad gorau yn 2014. Gweithiodd gyda Common Wealth a National Theatre Wales ar ‘We’re Still Here’.