Y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt: Symud y cydbwysedd a chyd-greu newid cymdeithasol
Sut mae artistiaid yng Nghymru a thu hwnt yn galluogi newid cymdeithasol?
Beth yw cyd-greu? Beth mae’n olygu? Sut mae gwneud?
All y celfyddydau weithredu trwy gariad?
Sut mae gwneud celf gyda, gan ac i bobl?
Ymunwch gyda ni 15 Ionawr 2021 ar gyfer Yr Wyl Mae’r Dyfodol Yma, digwyddiad diwrnod ar lein yn archwilio sut y medrwn ni ddefnyddio celf sydd wedi’i gyd-greu fel arf am newid cymdeithasol.
Disgwyliwch glywed wrth artistiaid ac ymarferwyr o Gymru a thu hwnt sy’n gweithio mewn ffyrdd anhygoel, trwy weithio gyda, gan ac i bobl. Mae’r dyfodol yma!
Sut mae archebu?
Mae tocynnau’n rhad ac am ddim a gellir eu harchebu trwy Eventbrite: wedi i chi archebu, byddwch yn derbyn dolen Zoom yn agosach at ddyddiad y digwyddiad.
Rydym am wneud y digwyddiad hwn yn un sy’n agored i gymaint o bobl â phosib, ac yn deall bod cymryd rhan weithiau angen cefnogaeth ychwanegol. Os oes angen cymorth arnoch er mwyn ymuno anfonwch ebost i [email protected] . Gallwn gynnig capsiynau byw, BSL a chyfieithu ar y pryd a chymorth ariannol tuag at ofal plant neu gostau WiFi.
Beth allaf ei ddisgwyl?
Cynhelir y digwyddiad ar Zoom. Dyma fydd yn digwydd:
10am – 11am Anogaeth Agoriadol, Cwestiwn ac Ateb i ddilyn
Rhoddir anogaeth y dydd gan Sita Thomas (Cyfarwyddwr Cyd-Artistig, Cyfnod Mamolaeth, Common Wealth), a Kirtis Clarke (Artist a Chynhyrchydd).
11am – 11:15am Egwyl
11:15am – 12:15pm Aurora Trinity Collective (Caerdydd)
12:15pm-12:30pm Egwyl
12:30pm – 1:30pm Darren Pritchard & Chantal Williams (Rent Party, Caerdydd)
1:30pm-2pm Cinio
2pm-3pm Fragments Theatre (Jenin, Palesteina)
3pm – 3:15pm Egwyl
3:15pm – 4:15pm Albany Park Theater Project (Chicago)
4:15pm – 5:15pm Egwyl
5:15pm – 6:15pm Anogaeth Glo: Binta Ayofemi (California)
Sita Thomas
Sita yw Cyfarwyddwr Cyd-Artistig newydd (Cyfnod Mamolaeth) ‘Common Wealth’. Mae’n artist aml-ddisgyblaethol yn gweithio mewn teledu, ffilm a theatr ac â diddordeb mawr mewn gwella cynrychiolaeth gan gymunedau sydd ar y cyrion. Mae gan Sita arbenigedd mewn sain, digidol a gwaith safle-benodol, ac yn ymroddedig i fentora a rhannu sgiliau gydag artistiaid ar ddechrau eu gyrfa.
Mae ei gwaith yn cynnwys cyfarwyddo ‘Under The Mask’, drama sain deuglust am y GIG ar gyfer ‘Tamasha’ a ‘Oxford Playhouse’, ‘We Are Shadows: Brick Lane’, antur safle-benodol i ‘Tamasha’, a ‘The Rose and the Bulbul’, cynhyrchiad promenâd awyr agored safle-benodol a gynhyrchwyd gan ‘Kadam’. Mae Sita’n arwain Rhaglen Cyfarwyddwyr ‘Tamasha’.
Mae Sita yn meddu ar ddoethuriaeth o Brifysgol Warwick a gradd Meistr mewn ‘Movement Direction’ o’r ‘Royal Central School of Speech and Drama’. Mae hefyd yn gyflwynydd ar ‘milkshake!’ Sianel 5. Mae’n eistedd ar fyrddau ‘Emergency Exit Arts’ a ‘Young Vic’, ac yn rhan o Grwp Ymgynghorol Wythnos Ffoaduriaid.
Kirtis Clarke
Mae Kirtis Clarke yn artist ac yn gynhyrchydd gyda chefndir mewn celf gweledol ac yn gweithio mewn ffilm, cerflunio a dylunio. Ar hyn o bryd mae Kirtis wedi’i leoli yn yr Iseldrioedd ac yn eistedd fel un o aelodau Craidd y Rhwydwaith Cyd-greu Newid fel artist llawrydd. Mae’n rhywun sy’n hyrwyddo fframweithiau cyd-greu newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli ac yn gweithio tuag at hyrwyddo dulliau amgen o weithio gyda chymunedau ac unigolion. Mae’n ymwneud yn rheolaidd â chyfnewid gwybodaeth am lle a sut mae cyd-greu yn bodoli oddi fewn i’r sector celfyddydol, a sut all artistiaid hefyd gynnwys cyd-greu fel rhan o’u prosesau gwaith.
http://kirtisclarke.co.uk/
Aurora Trinity Collective
Mae Aurora Trinity Collective yn grwp o artistiaid sy’n ymroddedig i greu diwylliant o gynhwysiant a chreadigrwydd sy’n gweld gwerth ym mhwysigrwydd caredigrwydd a gofal, yn rhannu ymarfer tecstiliau ac ymarfer seiliedig ar gelf mewn gofod diogel a chadarnhaol.
Yn y sesiwn hwn, bydd y grwp yn rhannu eu profiadau o gweithio gyda’i gilydd er mwyn adeiladu gofod cynhwysol, cadarnhaol a chreadigol, gyda rhai gweithgareddau a gweithredoedd yn ymwneud â hunan ofal.
Fragments Theatre
“Mae Fragments yn cynrychioli ein teimladau o fod hollol ar wahân. Rydym yn chwilio am undod trwy gysylltu artistiaid gyda’i gilydd, gyda’r gymuned leol, gyda golygfeydd eraill ym Mhalesteina a gyda gweddill y byd trwy ddefnyddio’r cyfryngau a chelf.”
Darren Pritchard & Chantal Williams (Rent Party)
Yn wreiddiol o Fanceinion, mae Darren yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd, coreograffydd, ac yn fam i dy ‘vouge’. Mae gan Darren 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau ffasiwn, theatr, teledu a’r celfyddydau perfformio. Yn ogystal â’i arweiniad yn yr enwog ‘House of Ghetto’ a’r ymdrechion arloesol gyda ‘Black Pride MCR’, mae Darren hefyd yn gyfarwyddwr cyd-artistig i fudiad celfyddydol ‘Gold Arts’ a leolir ym Manceinion.
Bydd Darren yn sgwrsio gyda Chantal Williams o Common Wealth am Rent Party, sioe a gyd-gynhyrchwyd sy’n dod i Gaerdydd yng ngwanwyn 2021. Bydd y sesiwn yn edrych ar sut i gyd-greu a sut y medrir creu model i fynd ar daith tra’n ymateb i ddinas newydd a pherfformwyr newydd. Sut mae mynd â sioe a grëwyd ym Manceinion, a’i hail ddychmygu i gynrychioli Cymru yn 2021?
Mae ‘Common Wealth’ yn gwmni theatr safle-benodol a leolir yng Nghaerdydd a Bradford. Mae’r gwaith yn wleidyddol a chyfoes – yn seiliedig ar y presennol – yn yr yma a nawr. Mae ‘Common Wealth’ yn creu gwaith sy’n berthnasol ac yn mynd i’r afael â phryderon ein cyfnod.
Chantal Williams yw Cynhyrchydd Cymunedol Common Wealth’ Mae’n gweithio er mwyn cysylltu pobl a mudiadau, yn cynnal pobl, sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu ac annog perthnasoedd cryf a chefnogol rhwng ‘Common Wealth’ a’r gymuned.
Albany Park Theater Project
Sefydlwyd ym 1997 yn un o gymodogaethau mewnfudwyr mwyaf amrywiol yn ddiwylliannol yn yr Unol Daleithiau, mae prosiect Theatr ‘Albany Park’ yn creu profiadau trawsnewidiol sy’n ffurfio cymuned gynhwysol o artistiaid ifanc, artistiaid sy’n oedolion a chynulleidfaoedd i geisio rhagweld ac adeiladu byd mwy cyfiawn, cyfartal a llawen. Mae artistiaid ifanc a hÿn yn gweithio ynghyd i greu theatr gwreiddiol o safon sy’n rhoi llais ac yn tynnu sylw i leisiau a phrofiadau ein mewnfudwyr a’n cymuned cenhedlaeth gyntaf o fewnfudwyr.
Bydd y gweithdy yn drochiad cyflym yn y broses mae prosiect theatr ‘Alabny Park’ yn ei ddefnyddio i greu perfformiad aml-ddisgyblaethol a ysbrydolir gan straeon o fywyd go iawn. Trwy weithio gyda straeon a rennir gan gyfranogwyr y gweithdy, bydd yn archwilio ffyrdd o gyfuno testun, symudiad a sain i greu perfformiad sy’n gywir, dwfn, yn syndod, llawen a gobeithiol. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am rai o’r dulliau y mae APTP yn eu defnyddio i adeiladu ensemble a chymuned a bydd gofyn am ddewrder i chwarae y tu allan i’r hyn sy’n gyfforddus.
Binta Ayofemi
Mae Binta Ayofemi yn artist gweledol a leolir yn California ac yn llunio ffurfiau trefol newydd o ddeunyddiau trefol. Mae Ayofemi’n defnyddio safleoedd segur, o gae trefol i siop gornel a ail-grëwyd, er mwyn awgrymu stâd o drawsnewid. Agorwyd gwaith celf adeiladau Ayofemi, COMMONS, GUILD, a YARD yng Ngwanwyn 2021.
Bydd anogaeth glo Ayofemi yn mynd i’r afael gyda sut mae ei gwaith yn newid y naratif am lefydd gwag trefol, strwythurau sy’n ymddangos fel eu bod wedi’u gadael, a dadleoli economaidd, tra’n archwilio syniadau yn ymwneud â ffoi, rhyddid, parhad a dychymyg Du radical.