Gŵyl Mae’r Dyfodol Yma
Sut mae artistiaid yn creu newid cymdeithasol?
Beth yw cyd-greu? Beth mae’n ei olygu? Sut rydyn ni’n ei wneud?
A oes modd i’r celfyddydau weithredu ar sail cariad?
Sut y gellir gwneud celf gyda phobl, ac ar eu cyfer?
Dyma rai o’r cwestiynau a oedd yn ganolog i’r ŵyl Mae’r Dyfodol Yma, digwyddiad undydd ar-lein yn archwilio sut y gallwn ddefnyddio celf wedi’i gyd-greu fel adnodd ar gyfer newid cymdeithasol. Cynhaliodd Common/Wealth yr ŵyl hon mewn partneriaeth ag Artes Mundi a’r Rhwydwaith Cyd-Greu Newid.
Dangoswyd llawer o ddiddordeb a gwerthwyd 193 o docynnau i’r digwyddiad.
Roedd y diwrnod yn llawn siaradwyr gwadd anhygoel a sefydliadau o bob cwr o’r byd, gweithdai rhyngweithiol, cerddoriaeth, dawnsio, gwneud collage, rhannu a chysylltu.
Rhai sylwadau gan gyfranogwyr:
“Teimlo’n ddiolchgar, ailgysylltu â’m pwrpas ac yn llawn egni”
“Mae wedi bod yn ysbrydoledig ac yn llesol.”
“Wedi’i gynnal a’i roi at ei gilydd yn wych, diolch o galon. Edrych ymlaen at newidiadau’r dyfodol gyda chi i gyd”
Graphic Designer/Dylunydd Graffeg: Khalil Dase
Beth ddigwyddodd ar y diwrnod?
10am – 11am Anogaeth Agoriadol, Cwestiwn ac Ateb i ddilyn
Rhoddir anogaeth gan Sita Thomas (Cyfarwyddwr Cyd-Artistig, Cyfnod Mamolaeth, Common Wealth), a Kirtis Clarke (Artist a Chynhyrchydd).
11am – 11:15am Egwyl
11:15am – 12:15pm Aurora Trinity Collective (Caerdydd)
12:15pm-12:30pm Egwyl
12:30pm – 1:30pm Darren Pritchard & Chantal Williams (Rent Party, Caerdydd)
1:30pm-2pm Cinio
2pm-3pm Fragments Theatre (Jenin, Palesteina)
3pm – 3:15pm Egwyl
3:15pm – 4:15pm Albany Park Theater Project (Chicago)
4:15pm – 5:15pm Egwyl
5:15pm – 6:15pm Anogaeth Glo: Binta Ayofemi (California)