Mae Common Wealth wedi’i leoli yn Bradford a Chaerdydd ac yn gweithio ledled y byd. Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau theatr sy’n benodol i safleoedd ac sy’n cwmpasu sain electronig, dulliau newydd o ysgrifennu, dylunio gweledol a chynnwys gair am air. Mae ein gwaith yn wleidyddol ac yn gyfoes – ac yn seiliedig yn y presennol – yn y fan a’r lle. Rydyn ni’n gwneud gwaith sy’n berthnasol ac yn mynd i’r afael â phryderon ein cyfnod.
Yr haf hwn, byddwn yn mynd i Ŵyl Fringe Caeredin gyda Payday Party a Peaceophobia! Mae 8 mlynedd wedi mynd heibio ers i Common Wealth fynd â sioe ar daith i’r ŵyl hon ac rydyn ni mor falch o ddod â’r ddwy sioe i chi gyda chefnogaeth This is Wales a Horizon Showcase.