Bradford

Mae Common Wealth wedi’i leoli yn Bradford ers 2011 lle rydyn ni’n gwneud cynyrchiadau theatr mewn tai, campfeydd bocsio, canolfannau ieuenctid a llwythi o leoedd eraill. Evie Manning, y Cyd-gyfarwyddwr Artistig, sy’n gyfrifol am ein harwain yn Bradford, ac rydyn ni’n rhan o Bortffolio Cenedlaethol Cyngor Celfyddydau Lloegr. Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar Peaceophobia, ein darn newydd sy’n archwilio islamoffobia a diwylliant ceir mewn maes parcio yn Bradford.

Dysgu mwy am Peaceophobia

Yn Bradford rydyn ni’n cefnogi Speakers Corner, casgliad gwleidyddol, creadigol o fenywod ifanc sy’n creu ymgyrchoedd ac yn gweithredu ar faterion cyfiawnder cymdeithasol sy’n bwysig iddynt. Ein cartref yw Common Space, cyn ganolfan cyflogaeth ieuenctid yng nghanol y ddinas, sy’n ganolfan gelfyddydau/maes chwarae dysgu i bobl ifanc, grwpiau cymunedol, gweithredwyr ac artistiaid yn Bradford.

Ewch i’r fersiwn Saesneg o’n gwefan i gael gwybod am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn lleol yn Bradford.

An image of a man with a mega-phone from the first political event of Peacophobia, staged with a modified car club in protest against Islamophobia.