
Peaceophobia
Mae Peaceophobia yn ymateb heb ymddiheuriad i Islamoffobia cynyddol ledled y byd. Gydag elfen o sioe car ac elfen o theatr, mae’r sioe yn gofyn sut ydych chi’n dod o hyd i heddwch mewn byd sy’n dweud wrthych pwy ydych chi?
A hwythau wedi cael eu magu yng nghysgod Terfysgoedd Bradford, 9/11 ac aflonyddu gan yr heddlu, mae ceir a ffydd yn noddfa, yn ddihangfa, yn fynegiant i dri dyn Moslemaidd Pacistanaidd. Ali, Sohail and Casper are taking control of the narratives around their religion, their city, and their cars.
Wedi’i lwyfannu mewn maes parcio gyda Supra, Golf a Nova clasurol, mae Peaceophobia yn dod â cheir a theatr ynghyd gyda goleuadau sinematig a sgôr sain electronig.
Mae’r sioe wedi’i chyfarwyddo gan fenywod ifanc oSpeakers Corner, cydweithfa gymdeithasol yn Bradford a chwmni theatr llwyddiannus Common Wealth. Mae’r sioe wedi’i hysgrifennu ar y cyd gan y dramodydd enwog Zia Ahmed a’r Bradford Modified Club, cyd-gynhyrchiad â Fuel.
Fideos
“Chwalu Stereoteipiau: cynhyrchiad uchelgeisiol, medrus, i ymgolli ynddo, sy’n cyd-fynd â chymuned, diwylliant a cheir, ac yn gwrthod y stereoteipiau”
The Stage
“Mae’n gofyn i ni weld y tu hwnt i’r peiriannau swnllyd a’r llinell fas ddirgrynol o’r systemau sain i weld y bobl y tu ôl i’r llyw”
North West End
Rhaglen Ddigidol
Eisiau mwy o wybodaeth? Darllenwch y Rhaglen Ddigidol lawn ar-lein.
Dyddiadau’r Daith
Mae Peaceophobia yn mynd ar daith yn 2022!
Dewch i weld y sioe fythgofiadwy hon yn:
Gŵyl Ryngwladol Norwich a Norfolk – 18-21 Mai, edrychwch ar wefan NNF i archebu tocynnau
Gŵyl Brighton, o 25-29 Mai – edrychwch ar wefan Gŵyl Brighton am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau
i brynu tocynnau Cadwch lygad am fwy o newyddion gan y bydd Peaceophobia yn dychwelyd i Bradford ac yn teithio i Ŵyl Caeredin ym mis Awst 2022!!
Tîm Creadigol
Perfformio– Mohammad Ali Yunis, Casper Ahmed, a Sohail Hussainn
Ysgrifennu Zia Ahmed gyda Mohammad Ali Yunis, Casper Ahmed, and Sohail Hussain
Cyfarwyddo Evie Manning, Iram Rehman, Sajidah Shabir, Rosema Nawaz, Mariyah Kayat, Madeyah Khan and Maleehah Hussain
Dylunydd – Rosie Elnile
Dylunydd Sain a Chyfansoddwr – Wojtek Rusin
Partneriaid
Wedi’i greu ar y cyd gan Bradford Modified Club, cydweithfa Speakers Corner a Common Wealth. Cyd-gynhyrchwyd gan Common Wealth a Fuel
Cefnogir Peaceophobiagan Bradford 2025, Blueprint: Cronfa Fuddsoddi Ymchwil a Datblygu Without Walls, Co-Creating Change, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Sefydliad Paul Hamlyn, Sefydliad Pears ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton.
Eisiau mwy o wybodaeth? Darllenwch y Rhaglen Ddigidol lawn ar-lein.