Two artists in a pool with DEEP BREATHS spelled out in the water with pool noodles.

Mae Pawb yn Artist: Seeing This Place Differently gyda Craig McCorquodale

mwy

Mae Pawb yn Artist: Seeing This Place Differently gyda Craig McCorquodale

Ymunwch â’r artist Craig McCorquodale o Glasgow mewn cyfres o berfformiadau awyr agored, gan ddefnyddio’r ardal leol fel ein cynfas a’r strydoedd fel ein llwyfan. Drwy gyfres o dasgau chwareus, byddwn yn defnyddio testun, delweddau a theithiau cerdded cyffredin i amharu ar rythmau arferol gofod cyhoeddus a deall sut y gall ymyriadau artistig roi ystyr newydd i rywle cyfarwydd. 

O deithiau cerdded grŵp i hunanbortreadau yn y coed, i theatr safle-benodol yn Tesco, bydd y gweithdy hwn yn gyfle cofiadwy i roi cynnig ar rywbeth newydd a gwneud i’r math o bethau y gallem eu hystyried yn amhosibl ddigwydd – hyd yn oed am eiliad. 

Ac yntau’n agored i bob oed, mae digwyddiad Seeing This Place Differently yn eich gwahodd i ystyried eich cysylltiad personol â’r lle rydych chi’n byw ynddo, ac yn annog ffordd fwy anturus o gysylltu â rhywle cyfarwydd.

PWY: Unrhyw un 14 oed a hŷn.

PRYD: Dydd Mawrth 9 Medi

AMSER: 10am tan 2pm

BLE: Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, Llanrhymni, CF3 4JJ

MYNEDIAD: Er y gallai fod rhai cyfyngiadau o ran hygyrchedd yn ein gweithdy awyr agored, byddwn yn gwneud newidiadau i ddarparu ar eich cyfer lle bynnag y bo modd. E-bostiwch [email protected] gydag unrhyw ofynion mynediad sydd gennych, e.e. dod â chadair i chi.

Mae angen blaendal o £5, a bydd hwn yn cael ei ad-dalu wrth ddod i’r gweithdy. Archebwch drwy Eventbrite

Mae Craig McCorquodale yn creu gwaith ar gyfer y theatr a gofod cyhoeddus. Mae’n gwahodd pob math o bobl i’w brosiectau ac yn gobeithio y gallai’r foment fyw ein helpu i herio’r canfyddiadau sydd gennym o’n gilydd, gan holi sut byddai theatr ddinesig newydd yn edrych.

Mae ei waith 24 Things to Tell You yn waith celf parhaol lle mae ymyrraeth wahanol yn digwydd mewn gofod cyhoeddus bob awr o’r dydd, gan gynnwys drwy’r nos, lle mae’n gweithio gyda phobl leol i droi’r ardal leol yn oriel fyw. Mae’n mynd â’i waith ar daith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac mae’n edrych ymlaen at weld sut y gall bywydau preifat feddiannu gofod cyhoeddus.

Mae Pawb yn Artist wedi cael ei gefnogi’n garedig trwy grant gan Sefydliad Raymond Williams.