Eugenia Taylor
Hwylusydd Cymunedol Creadigol
Ymunodd Eugenia Taylor â Common/Wealth yn 2025 fel Hwylusydd Cymunedol Creadigol yng Nghaerdydd. Maen nhw’n artist amlddisgyblaethol cwiar balch y mae eu hymarfer yn cyfuno symudiad, theatr, ffilm a’r celfyddydau gweledol i archwilio creadigrwydd fel adnodd ar gyfer cysylltu, iacháu a newid cymdeithasol.
Mae eu gwaith wedi’i wreiddio mewn cyd-greu a chynhwysiant, gan ganolbwyntio’n aml ar gymunedau y mae eu lleisiau’n cael eu tangynrychioli. Maen nhw wedi hwyluso prosiectau celfyddydau a lles gyda sefydliadau gan gynnwys Rubicon Dance, Oasis Caerdydd, Parc Arts, Theatr Hyjinx, ysgolion Caerdydd, House of Deviant a The Talent Shack.
Drwy gydol haf 2025, Eugenia oedd Cydlynydd y Cast Cymunedol ar gyfer Demand the Impossible yng Nghaerdydd, cynhyrchiad Common/Wealth. Cafodd eu ffilm fer, a ddatblygwyd drwy weithdai cymunedol cwiar a gynhaliwyd ym Mhontypridd, ei rhoi ar restr fer Gŵyl Ffilm Cwiar Chapter, oedd yn dathlu straeon am hunaniaeth a gwrthwynebiad.
Cyn ailhyfforddi mewn Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru, treulion nhw bedair blynedd yn ITV Cymru fel Newyddiadurwr Cynhyrchu a Chynhyrchydd Cynorthwyol, ac maen nhw’n parhau i weithio’n llawrydd yma, gan ddatblygu eu hangerdd dros adrodd straeon a chymunedau.
Mae ymarfer artistig Eugenia wedi’i seilio ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cael ei lywio gan drawma, wedi’i ysbrydoli gan gyfuniad o gelf, ymgyrchu, a grymuso drwy greadigrwydd.