Ailfeddwl am y theatr – Daniel Sintim-Aboagye

Cyn clywed am Common Wealth (CW) a’r prosiect Public Interest (PI), pan oeddwn i’n meddwl am ‘theatr’, y lluniau canlynol oedd yn neidio i’r meddwl: Llwyfan mawr, crand; seddi meddal, cyfforddus, i’r ‘noddwyr’; ac aelodau staff yn edrych fel y dylent, wedi gwisgo’n ffurfiol ac yn gain. Wrth gwrs, mae’r delweddau hyn yn aml yn gysylltiedig â phrofiadau theatr y dosbarth canol ac uwch; mannau unigryw nad ydyn nhw bob amser yn teimlo’n hygyrch i bawb. Felly, pan holodd rhywun a fyddwn yn fodlon cyfrannu at y prosiect hwn a phan ddysgais am genhadaeth ac ethos CW (yn fyr, gwneud theatr yn fwy hygyrch drwy gynnwys cymunedau dosbarth gweithiol), roeddwn i’n chwilfrydig ac yn teimlo’n gyffrous am y posibilrwydd o weithio gyda sefydliad mor flaengar.

 

Ffitio i’r dim / Cwrdd â phobl lle maen nhw, wyneb yn wyneb

Pan ofynnwyd i mi fod yn Weithiwr Cymorth Therapiwtig ar gyfer y prosiect, roeddwn i’n gwybod bod hyn yn berffaith i mi a bod yn rhaid i mi gymryd rhan. Nid yn unig roeddwn i’n ffitio i’r dim, roedd yr amseru’n berffaith hefyd. Cyn i mi gael cynnig y cyfle hwn, roedd fy nghyfnod ymddiswyddo yn y gwaith yn dod i ben, ac roeddwn i’n paratoi i ddechrau fy PhD. Diolch byth, roedd popeth i weld yn cyd-fynd yn ddi-dor, gan ei gwneud hi’n bosibl i mi dderbyn y rôl hon. Fel y soniais uchod, roeddwn i wrth fy modd gyda’r posibilrwydd o ymuno â chwmni theatr wleidyddol mor radical; cwmni sy’n deall pwysigrwydd tegwch a chwrdd â phobl lle maen nhw. Er enghraifft, yr hyn a’m trawodd am CW oedd pa mor benderfynol oedden nhw i recriwtio pobl ifanc, dosbarth gweithiol, i’r prosiect. Roedd eu dull ystyrlon a bwriadol o ymestyn allan at y gymuned yn herio’r myth enllibus, sarhaus a chywilyddus a elwir yn ‘grwpiau anodd eu cyrraedd’ – ymadrodd y byddwn i’n aml yn ei glywed yn fy ngwaith fel gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl. Nid yn unig bod CW wedi mynd at bobl ifanc yn gorfforol, aethant hefyd i ble roeddent yn emosiynol ac yn feddyliol.

 

Cwrdd â phobl lle maen nhw, yn emosiynol ac yn feddyliol

Yn fy ngwaith, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae pobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol a/neu gefndiroedd ethnig amrywiol yn aml yn gadael i bwysau cymdeithasol ac allanol gael effaith negyddol ar eu lles a’u hiechyd meddwl. Roedd CW yn deall hyn ac yn cydnabod bod angen mwy o gefnogaeth; dyna pam y cefais fy nghynnwys. Wedi dweud hynny, nid oeddwn i ar fy mhen fy hun. Roeddwn i’n rhan o dîm anhygoel, yn gweithio’n agos gydag aelodau staff ymroddedig a oedd yn hawdd mynd atynt, yn ddeallus, ac yn barod i helpu waeth pa mor uchel oedden nhw. Er enghraifft, mewn ymgynghoriad â mi, fe wnaethon nhw/ni addasu’r amgylchedd (e.e., ymarferion a sioeau) i ddiwallu anghenion aelodau’r cast, gan geisio manteisio ar gryfderau pob aelod o’r cast. Un ffordd ymarferol o wneud hyn oedd drwy sicrhau bod aelodau niwroamrywiol o’r cast (e.e., y rhai ag ADHD) yn cael seibiannau rheolaidd. 

 

Datblygiad, gwydnwch, a dihangfa greadigol

A dweud y gwir, roedd yn arbennig iawn gweithio’n agos gyda grŵp mor anhygoel o bobl ifanc drwy gydol y prosiect hwn. Ar eu pen eu hunain ac ar y cyd, gwelais nhw’n magu hyder ac yn meithrin perthnasoedd cryf â’i gilydd. Roedden nhw’n griw gwydn hefyd, llawer ohonyn nhw’n wynebu anawsterau a rhwystrau y tu allan i’r ymarferion ac wythnosau’r sioe. I lawer, daeth y prosiect yn ddihangfa o’u bydoedd personol ac yn lle i dyfu a herio eu hunain yn greadigol.

 

Grym y celfyddydau o safbwynt iechyd meddwl ac i’r gwrthwyneb

Chwaraeodd y celfyddydau ran enfawr wrth i mi wella o iselder tua degawd yn ôl. O ganlyniad, rwy’n eiriolwr mawr dros ymgorffori’r celfyddydau mewn darpariaeth iechyd meddwl ac i’r gwrthwyneb. Gymaint felly, rwy’n neilltuo’r 3 blynedd nesaf o fy mywyd yn cyfrannu at ymchwil ysgolheigaidd yn y maes diddordeb hwn (h.y., sut y gall cerddoriaeth Rap a Grime wella iechyd meddwl a lles ymhlith cymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd). Ar wahân i hyn, atgyfnerthodd fy amser yn gweithio ar y prosiect bŵer a phwysigrwydd defnyddio’r celfyddydau i ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol a/neu gefndiroedd ethnig amrywiol. Roedd ymrwymiad, egni ac angerdd y cast dros y prosiect yn ysbrydoledig. Fe wnaethant ddangos sut y gall celf, pan gaiff ei chymryd o ddifrif a’i chefnogi’n briodol, fod yn arf pwerus ar gyfer twf personol, adeiladu cymunedau a chodi ymwybyddiaeth. O ran yr olaf, fe wnaeth y prosiect hwn hefyd ddyfnhau fy nealltwriaeth o fenter ar y cyd fel math o ddeddfwriaeth.

 

Menter ar y cyd / Agosrwydd annisgwyl

Un o fy hoff olygfeydd yn y sioe yw’r chweched olygfa, lle defnyddir cyfatebiaeth bêl-droed i gyfleu pa mor anghyfiawn y gall menter ar y cyd fod. Yn yr olygfa, mae dau aelod o’r cast yn cyfleu’r darlun drwy egluro bod chwaraewr yn gwneud tacl erchyll ac yn cael cerdyn coch – ond mae’r dyfarnwr hefyd yn anfon ei gyd-chwaraewr oddi ar y cae am fethu â’i atal, er ei fod ‘ar ochr arall y cae’ ac nad oedd ganddo unrhyw ffordd o ymyrryd. Mae’r dyfarnwr yn parhau, gan chwifio cardiau coch i gyd-chwaraewyr, a hyd yn oed cefnogwyr; y rhai a oedd wedi dod i wylio, gan bortreadu pawb fel petaent yn dreisgar neu’n euog oherwydd eu bod yn rhannu’r un crys, cefndir, dosbarth, hil, neu grŵp cymdeithasol. Mae’r gymhariaeth bêl-droed hon yn ffordd wych o gyfleu annhegwch menter ar y cyd, lle gellir (ac mae’n aml yn digwydd) rhoi bai ar y cyd waeth beth fo’r bwriad neu’r weithred bersonol. Wrth wireddu’r ddeddfwriaeth hon, tua diwedd y prosiect cefais brofiad nad oeddwn wedi’i ragweld wrth gytuno i ymgymryd â’r rôl. Rhoddais gefnogaeth emosiynol i fachgen ifanc yr oedd ei dad wedi cael ei ddyfarnu’n euog o lofruddiaeth o dan fenter ar y cyd. Roedd recordiad fideo o nain y bachgen ifanc wedi’i gynnwys yn rhan o’r sioe, ac wrth glywed ei nain yn sôn sut yr oedd y gollfarn wedi effeithio ar ei bywyd hi a’i theulu, roedd golwg ofidus ar y bachgen ifanc ac, wrth adael yr ystafell, torrodd ei galon yn fy mreichiau. Mae’r profiad torcalonnus hwn yn cadarnhau’r effaith ddofn, ac anweledig yn aml, mae’r gyfraith hon yn ei chael ar deuluoedd a chymunedau.

 

Edrych yn ôl

Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda CW. Fel y soniais eisoes, mae’n enghraifft o’r hyn mae’n ei olygu o ran meddwl yn deg, cael gwared ar rwystrau, a thrin pobl ag urddas. I mi, roedd yn gyfle i ddefnyddio fy mhrofiad iechyd meddwl mewn lleoliad creadigol, manteisio ar fy sgiliau, a gweld sut y gall cefnogaeth o’r fath a’r celfyddydau ddod at ei gilydd. I’r tîm gwych yn CW: diolch! Ac i’r holl bobl ifanc y bûm yn gweithio gyda nhw: ni fyddai effaith a llwyddiant y prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb eich cyfraniad chi. Diolch yn fawr!