St Mellons

Helpwch ni i greu sioe newydd am famolaeth, dosbarth a harddwch

Rydyn ni’n chwilio am 6 menyw i ymuno â’n tîm artistig dros ddau benwythnos, yma yn Llaneirwg. Gyda’n gilydd byddwn yn archwilio sut i wneud Sioe Gerdd: John Redwood.

Yn y 1990au, honnodd John Redwood, cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod menywod ifanc yn beichiogi er mwyn sicrhau tai cyngor. Dywedodd mai teulu o ddau oedolyn oedd y ffordd naturiol o fagu plant. Mae gwaddol y sylwadau niweidiol hyn yn dal i gael ei deimlo heddiw. Bydd ein sioe newydd yn herio’r stigma hwn ac yn cywiro’r hyn a ddywedodd. 

CYMRYD RHAN

Byddwn yn llunio’r sioe drwy sgwrsio, cynnal ymarferion creadigol ac archwilio’r ystâd gyda’n gilydd dros ddau benwythnos:  

Dydd Sadwrn 5 Medi, 12-5pm a dydd Sul 6 Medi, 10:30am-1pm; 

Dydd Sadwrn 19 Medi, 12-5pm a dydd Sul 20 Medi, 10:30am-1pm

TALIAD

£200 (gallwn weithio gyda chi a’ch amgylchiadau penodol)

GWNEUD CAIS

Rhowch wybod i ni pam mae’r stori hon yn bwysig i chi. Anfonwch e-bost at [email protected] neu neges llais i 07727 335 126 

erbyn 1pm ar 17 Awst. Does dim angen profiad theatrig 

SESIYNAU BLASU

Dewch i gwrdd â’r tîm a holi cwestiynau

Tafarn The Willows, 10 Awst, 12-2pm; Yr Hyb, 11 Awst, 12-2pm; 

The Hive, 12 Awst, 5:30-7:30pm

Methu cymryd rhan ond eisiau rhannu eich stori?

E-bostiwch ni ac fe wnawn ni drefnu cyfweliad. Bydd taleb £25 ar gael ar gyfer pob cyfweliad