Rhiannon White
Cyd-gyfarwyddwr Artistig
Mae Rhiannon yn gyd-sylfaenydd a Chyd-gyfarwyddwr Artistig Common Wealth.
Yn ein swyddfa yng Nghaerdydd, mae Rhiannon yn arwain y rhaglen artistig Gymreig a Rhwydwaith Teithio Moving Roots (gyda Chanolfan Gelfyddydau Battersea, Restoke, Old Courts a Jumped Up).
Mae Rhiannon yn cydweithio’n aml gyda’i chyd-gyfarwyddwr Evie ar weithiau ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Maent wedi gwneud gwaith ym Mhalesteina, Chicago, Perth, Helsinki a’r Almaen.
Ymhlith y sioeau sy’n cael eu datblygu mae The Sea is Mine a phrosiect cydweithio rhwng menywod yng Nghaerdydd a Jenin, Palesteina ynglŷn â theithio y tu hwnt i’ch amgylchiadau a Mynnu’r Amhosibl, sioe am effaith plismona cudd yn y DU.
Mae Rhiannon yn aelod o fwrdd Pafiliwn Grange ac yn aelod o Banel Cynghori Celfyddydau Aberystwyth.