Tim Martin
Aelod o’r Bwrdd Seinio
Fy enw i yw Tim, ac rwy’n Artist Perfformio yng Nghaerdydd. Astudiais Ddrama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac rwyf wedi perfformio yng Nghaerdydd ac yn rhyngwladol. Mae fy ymarfer yn canolbwyntio ar y perthnasoedd sydd gennym gyda’n cyrff, a sut mae’r perthnasoedd hyn yn cael eu gwthio a’u hymestyn drwy salwch, anhrefn a brwydrau.
Rwyf wedi gweithio o’r blaen mewn Uned Cyfeirio Disgyblion yng Nghaerdydd, yn gweithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau sydd wedi’u gwahardd o addysg brif ffrwd oherwydd anawsterau ymddygiad. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ymgysylltu â chymunedau lleol drwy theatr a pherfformiad, gan archwilio materion go iawn sy’n effeithio ar fywyd bob dydd pobl y ddinas. Rwy’n credu bod theatr yn caniatáu i ni ddeall y byd a’n profiad dynol – mae’r potensial yn ddi-ben-draw!