Clint Iguana
Aelod o’r Bwrdd Seinio
Rwy’n fachgen o’r Cymoedd ac yn hoff o bopeth creadigol. Ar hyn o bryd rwy’n cynllunio fy ffordd o fy swydd anghreadigol, ar ôl deugain mlynedd.
Roedden nhw’n arfer dweud bod cerddoriaeth bop yn gyfnod rydych chi’n mynd drwyddo pan rydych chi’n ifanc. Ond dydw i ddim wedi tyfu allan ohono. Rwy’n meddwl efallai bod ieuenctid wedi bod yn gyfnod yr aeth cerddoriaeth bop drwyddo. Dwi wrth fy modd yn gwrando arni, yn darllen amdani, yn blogio amdani ac yn tynnu paragraffau ohoni.
Rwy’n undebwr llafur ac yn actifydd cymunedol gydol oes. Rwy’n edrych ymlaen at gyfleoedd i gael gwneud rhywbeth creadigol yn y gymuned ac annog cymunedau i wneud pethau creadigol.
Efallai fy mod wedi penderfynu o’r diwedd beth rwyf am ei wneud pan fyddaf yn hŷn.