Patrick Jones
Bardd a Dramodydd
Bardd a dramodydd yw Patrick Jones y mae ei waith yn ymdrin â phryderon cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes megis hiliaeth, yr argyfwng amgylcheddol, ffiniau, y mudiad #MeToo, annibyniaeth Cymru ac effeithiau llymder.
“Meddylgar, pryfoclyd a heriol, mae’r cerddi hyn yn ennyn diddordeb ac yn cythruddo”
Peter Tatchell, ymgyrchydd hawliau dynol
“Negeseuon cryf iawn”
Harold Pinter
Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys Fuse/ Fracture (Poems 2001-2021), The Guerilla tapestry 1995, The Protest Of Discipline 1996. Mae’r gwaith sydd wedi’i berfformio yn cynnwys Everything Must Go (Theatr Sherman, Mawrth 1999, gyda thaith o amgylch y DU yn 2000), The Guerilla Tapestry a berfformiwyd yng nghyngerdd agoriadol ‘Lleisiau’r Genedl’ Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999.
Cydnabyddiaeth am y llun: Lucy Purrington