Artist Ffion Campbell-Davies looks towards the camera.

MAE PAWB YN ARTIST – CHWARAE – PEINTIO – DEFODAU

mwy

MAE PAWB YN ARTIST – CHWARAE – PEINTIO – DEFODAU

Ymunwch â’r artist Ffion Campbell-Davies ar gyfer gweithdy creadigol yn archwilio chwarae, gwneud celf a defodau.
Byddwn yn gweithio gyda symudiadau ysgafn i gynhesu ein meddyliau a’n cyrff – ac arbrofi gan ddefnyddio ein cyrff i beintio (bydd pethau’n mynd yn flêr – yn y ffordd orau bosibl!).
Mae Ffion Campbell-Davies yn actifydd ac yn artist amlddisgyblaethol sy’n gweithio gydag ystod amrywiol o ffurfiau artistig, gan gynnwys celf ffilm a pherfformio.
PWY: Cyfranogwyr 6 oed a hŷn (rhaid i oedolyn ddod gyda phlant dan 16 oed).
PRYD: Dydd Sadwrn 5 Hydref
AMSER: 1pm i 3pm ond mae croeso i gyfranogwyr aros a chreu tan 4pm
BLE: Hyb Llaneirwg, Caerdydd CF3 0EF.
Mae angen blaendal o £5, bydd hyn yn cael ei ad-dalu ar ôl dod i’r gweithdy Dolen archebu MYNEDIAD: Mae#39;r lleoliad yn gwbl hygyrch gyda lle i barcio ceir a beiciau ar y safle. Mae bysiau
44 a 45 yn stopio gerllaw.
I drafod unrhyw ofynion mynediad, cysylltwch â [email protected]
Bydd dŵr, te a choffi ar gael.
Mae Ffion yn artist amlddisgyblaethol ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt House of Absolute. Wedi eu geni a’u magu yng Nghymru, mae Ffion yn siarad Cymraeg, yn anneuaidd, yn rhyweddhylilfol, gyda threftadaeth Grenadaidd gymysg.

A hwythau’n ymarferydd qigong ac yn lleisydd, maen nhw’n cyflwyno moddion holistaidd i berfformiadau a defodau.

Mae Ffion hefyd yn gweithio gyda ffilm, dylunio sain a chelf perfformio yng nghyd-destun actifiaeth ac iachâd.

Insta: @ffioncampbelldavies

Gwefan: Ffion Campbell-Davies | houseofabsolute.