Young boy writing at a desk

Gweithdai Ffilmiau a Rhaglenni Dogfen Byr

mwy

Gweithdai Ffilmiau a Rhaglenni Dogfen Byr

At sylw bob cynhyrchydd ffilmiau ifanc: Tyrd i’n Gweithdy Ffilmiau a Rhaglenni Dogfen Byr!

Oes gen ti stori i’w hadrodd? Wyt ti’n barod i wneud dy farc ym myd y ffilmiau? Mae ein gweithdy trochi yn berffaith i gynhyrchwyr ifanc fel ti!

Beth i’w ddisgwyl:

  • Sesiynau llawn ysbrydoliaeth: Dechrau gyda chyflwyniad 2 awr yn swyddfa Common Wealth, ac yna dwy sesiwn datblygu syniadau 4 awr. Byddi di’n dysgu sut i wneud ffilmiau gan weithwyr proffesiynol profiadol.
  • Ffilmio ar leoliad: Treulio tri diwrnod cyffrous yn saethu ar leoliad yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Byddi di’n cyfleu dy stori gyda phrofiad go iawn.
  • Dysgu ymarferol: O daflu syniadau i saethu a golygu, fe fyddi di’n cymryd rhan ym mhob agwedd ar gynhyrchu ffilm. Byddi’n dysgu sgiliau ymarferol ac yn dangos pa mor greadigol wyt ti.
  • Bydd bwyd a chostau teithio yn cael eu darparu: Byddwn yn talu am dy gostau teithio ac yn darparu prydau bwyd ar y tri diwrnod ffilmio.

Amserlen y gweithdy:

  • Sesiwn Cyflwyno:
    • Dyddiad: 13.07
    • Amser: Sesiwn 2 awr
    • Lleoliad: Swyddfa Common Wealth, Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, CF3 4JJ
  • Sesiynau datblygu syniadau:
    • Dyddiadau: 20.07 a 23.07
    • Amser: Dwy sesiwn 4 awr
    • Lleoliad: Swyddfa Common Wealth, Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, CF3 4JJ
  • Diwrnodau ffilmio:
    • Dyddiadau: 02.08, 03.08, 04.08
    • Lleoliad: Caerdydd a’r cyffiniau

Pwy sy’n cael ymuno:
Pobl ifanc 14-18 oed sy’n teimlo’n angerddol am ffilmiau ac adrodd straeon. Does dim angen profiad blaenorol—dim ond dy frwdfrydedd a dy greadigrwydd!

Pam y dylet ti ddod:
Datblygu sgiliau: Dysgu sut i adrodd straeon, gwneud ffilmiau technegol, a rheoli prosiectau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.

Datblygu portffolio: Creu ffilm neu raglen ddogfen i arddangos dy dalent. Perffaith ar gyfer cyfleoedd addysgol a gyrfaoedd yn y dyfodol.

Cymuned greadigol: Cydweithio gyda chyfoedion o’r un anian, gwneud ffrindiau newydd, ac adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau creadigol

Os wyt ti eisiau cymryd rhan yn y gweithdy hwn e-bostia [email protected] Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly gwna’n siŵr dy fod yn archebu.