Take Your Place
Mae Take Your Place yn brosiect celfyddydau ac actifiaeth newydd sy’n cysylltu ac yn datblygu pobl ifanc dosbarth gweithiol 14-18 oed.
Mae Take Your Place ar gyfer pobl sy’n breuddwydio, yn adeiladu, yn meddwl, pobl sydd â rhywbeth i’w ddweud, sy’n teimlo’n rhwystredig am y byd, ac sy’n barod i lunio ac adeiladu dyfodol newydd. Mae’n golygu herio’r systemau presennol a dychmygu ffyrdd newydd o fyw. Mae’n golygu symud pethau, a phobl ifanc yn herio’r hyn nad yw’n addas i’r diben a bod yn ddigon dewr i ofyn am rywbeth gwell. Mae’n golygu pobl ifanc yn dod o hyd i’w lle, yn herio camsyniadau, ac yn gadael eu hôl.
🌟 Ydych chi’n 14 -18 oed? Oes gennych chi rywbeth i’w ddweud?
🌟 Ydych chi eisiau cymryd rhan a siapio’r dyfodol?
🌟 Eisiau meithrin cyfeillgarwch a rhwydweithiau newydd a chyfnewid gwybodaeth a syniadau gyda phobl wych sy’n meddwl ac yn breuddwydio?
Rydyn ni’n chwilio am ddwy garfan o bobl ifanc 14-18 oed i gymryd rhan – yng Nghaerdydd ym mis Mai 2024.
CYMERWCH RAN!
Rydym yn chwilio am ddau grŵp o bobl ifanc 14-18 oed i gymryd rhan mewn cyfres ysbrydoledig o weithdai ymarferol a sgyrsiau.
Dan arweiniad Amira Hayat a Fahadi Muluku gyda’r artistiaid gwadd Ibby Abdi, Bianca Ali, Sundas Raza ac eraill, bydd y sesiynau hyn yn rhoi hwb i’ch hyder, yn eich helpu i fod yn berchen ar eich hunaniaeth, i wybod eich hawliau, i ddatblygu gobaith, gwrthwynebiad a gofal ac yn hogi eich sgiliau siarad cyhoeddus.
Take Your Place – cwrs 1 diwrnod
Dim ond merched
28 Mai 2024
10am – 4pm
Take Your Place – cwrs 3 diwrnod
Yn agored i bob rhyw
29, 30, 31 Mai 2024
10am – 4pm bob dydd
Lleoliad bob cwrs:
Vis-Lab (Ystafell 1.17)
sbarc|spark
Heol Maindy,
Caerdydd, CF24 4HQ
Os ydych yn fenyw ac yn gallu cymryd rhan mewn grŵp cymysg yna rydyn ni’n argymell eich bod yn gwneud cais am y cwrs 3 diwrnod.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael cyflog o £15 y diwrnod
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â [email protected]
Sut mae gwneud cais: Cliciwch yma i lenwi ffurflen fer ar-lein
Dyddiad cau’r cais: 5 Mai 2024
Byddwn yn cadarnhau lleoedd erbyn 7 Mai 2024
Caiff Take your Place ei ariannu gan Gyngor Caerdydd mewn ymateb i’r adroddiad gan Dasglu Cydraddoldeb Hiliaeth Caerdydd
CWESTIYNAU CYFFREDIN
- Beth ydych chi’n ei olygu gyda dosbarth gweithiol?
Mae dosbarth gweithiol yn cyfeirio at bobl o gefndir incwm isel. Gall eich rhieni/gwarcheidwad weithio fel gweithwyr archfarchnad, plymwyr, trinwyr gwallt, gweinyddion, nyrsys neu lanhawyr. Gallant hefyd fod yn ddi-waith neu’n sâl yn yr hirdymor, i mewn ac allan o waith, neu’n gwneud gwaith sifft.
Efallai eich bod yn byw mewn tŷ neu fflat cyngor neu gymdeithas dai ac yn cael/wedi cael prydau ysgol am ddim.
- Sut byddaf yn cael fy nhalu?
Bydd angen i chi ddod â’ch manylion banc i’r digwyddiad.
Byddwn ni’n llenwi ffurflen fer ac yn eich talu:
Gwersyll 1 diwrnod i ferched: £15 ar y diwrnod
Gwersyll 3 diwrnod: £22.50 ar y diwrnod cyntaf a £22.50 ar eich diwrnod olaf.
Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad banc ac mae modd eu talu i’ch cyfrif eich hun neu gyfrif eich rhieni/gwarcheidwaid. Os nad oes gennych gyfrif banc neu os ydych chi’n poeni nad oes gennych ddigon o arian i ddod i’r diwrnod cyntaf, rhowch wybod i ni.
- Oes angen i mi baratoi unrhyw beth?
Does dim angen i chi baratoi dim byd – byddwn yn mynd amdani yn y sesiynau.
- Beth ddylwn i ei wisgo?
Gwisgwch rywbeth sy’n gyfforddus i symud o gwmpas.
- Beth fydd yn digwydd?
Yn ystod y gwersyll, bydd pobl yn siarad yn gyhoeddus, yn arwain, yn adrodd straeon, ysgrifennu creadigol ac yn cynnal sesiynau actifiaeth. Byddwn yn archwilio themâu gobaith, gwytnwch, bod yn aelod o’r dosbarth gweithiol, a Mynnu eich Lle. Bydd pob diwrnod yn gorffen gyda sgwrs gan siaradwr ysbrydoledig lleol a fydd yn trafod beth maen nhw’n ei wneud a sut. Ar y diwrnod olaf, byddwn yn gwahodd pobl ddylanwadol o Dde Cymru ac yn sgwrsio â nhw er mwyn datblygu ein rhwydweithiau a chreu cyfleoedd i’r dyfodol.
- – Dydw i ddim yn siŵr ble mae’r lleoliad?
Mae Mynnwch Eich Lle yn adeilad SBARC ar Heol Maendy.
Gallwch naill ai fynd yn syth i SBARC, neu gwrdd â ni tu allan i’r Amgueddfa Genedlaethol am 9.30am ac fe wnawn gerdded yno gyda’n gilydd.
- Dydw i ddim yn galw fy hun yn artist nac yn actifydd; ydy hyn yn addas i mi?
Does dim angen i chi fod yn artist nac yn actifydd i ddod i ddigwyddiad Mynnwch eich Lle. Mae’n addas i unrhyw un chwilfrydig. Byddwn yn gweithio gydag artistiaid ac actifyddion i lunio’r gwersyll a chyflwyno gwahanol ffyrdd o feddwl am y byd i chi a sut rydyn ni’n byw. Does dim angen sgiliau penodol arnoch ac mae croeso i chi fwynhau, derbyn a rhoi cynnig ar bethau newydd.
- Rydw i’n adnabod fy hun fel menyw. A yw’r diwrnod i ferched yn addas i mi?
Ar 28 Mai mae gennym ddiwrnod ar gyfer merched yn unig, i ferched sy’n teimlo’n fwy cyfforddus yng nghwmni dim ond merched. Mae’r gwersyll tri diwrnod yn agored i bawb, ond rydyn ni’n gofyn i chi wneud cais dim ond os ydych chi’n gyfforddus yn gweithio gyda dynion.
- Ydw i’n cael dod â fy ffôn?
Ydych, rydych chi’n cael dod â ffôn, ond rydym yn gofyn i chi ymrwymo’n llwyr i’r sesiynau a defnyddio eich ffonau yn ystod yr egwyliau pan fyddwn yn ymlacio.
- A fyddwch yn tynnu lluniau neu’n ffilmio yn y sesiwn/sesiynau?
Byddem yn hoffi tynnu lluniau a gwneud fideos byr yn y sesiynau i’w rhoi ar ein cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi’n fodlon i ni dynnu lluniau/ffilmio bydd yn rhaid i chi lofnodi ffurflen cyhoeddi lluniau fer. Mae’n iawn i chi beidio â chymryd rhan, a gallwch roi gwybod i ni ar y diwrnod. Yn y gwersyll, byddwn yn penderfynu fel grŵp os ydyn ni’n teimlo’n gyfforddus gyda phobl yn tynnu lluniau neu’n gwneud ffilmiau personol.
- Ga i ddod â ffrindiau?
Mae croeso i chi argymell hyn i bobl eraill, ond mae’n rhaid i bawb wneud cais ymlaen llaw i ddod.
- Ydy hyn yn addas i mi?
Os ydych chi wedi cyrraedd y cwestiwn hwn yn y rhestr, mae’n debyg ei fod! Rydyn ni’n awyddus i glywed gan bobl ifanc ledled Caerdydd sy’n ystyried eu hunain fel aelodau o’r dosbarth gweithiol, sydd â diddordeb mewn datblygu eu hunain ac sy’n chwilio am gyfleoedd. Does dim rhaid i chi fod wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen.
- Beth sy’n digwydd ar ôl y gwersyll?
Mae Mynnwch eich Lle yn ymwneud â meithrin perthnasoedd a rhwydweithiau ledled Caerdydd. Ar ôl y gwersyll, byddwch yn rhan o rwydwaith Common Wealth, a gallwn rannu cyfleoedd gyda chi gennym ni a’n ffrindiau. Rydyn ni’n gobeithio adeiladu ar lwyddiant Mynnwch eich Lle i gynnal mwy o bethau fel hyn ar gyfer pobl dosbarth gweithiol y ddinas.
- Gyda phwy y dylwn gysylltu gyda chwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Gavin, yr Artist Arweiniol/Rheolwr y Prosiect. Gallwch ei e-bostio yn [email protected]. Os byddai’n well gennych siarad ar y ffôn, ffoniwch Rhiannon ar 07895 030922