DYDYN NI DDIM YN SIARAD DIM MWY
Prosiect a ariannwyd gan Llais y Lle oedd We No Longer Talk; fe ganiataodd i’n Cyfarwyddwr Artistig Rhiannon White a’r artist Ffion Wyn Morris archwilio’r gwahanol berthnasoedd â’r Gymraeg mewn cymunedau dosbarth gweithiol yng Ngogledd a De Cymru.
Fe wnaeth Rhiannon a Ffion ragweld cysylltiad, empathi a chwilfrydedd yn eu gwaith, ac mae’r ffilm hardd a hiraethus hon yn cyfleu’r ysbryd hwn. Mae’r ffilm yn defnyddio Arabeg, Saesneg, Somali a Chymraeg i archwilio perthynas rhwng iaith, lle a chymuned. Mae’r ffilm Llais y Lle yn edrych yn deimladwy ar unioni’r cyfleoedd coll i ddysgu Cymraeg; y cysylltiad rhwng ein hafonydd hynafol a’n hanes chwyldroadol; a phwysigrwydd cloddio’n ddyfnach na’r sloganau arwynebol ar nwyddau anghynaladwy yn y siop anrhegion.
Proses
Dechreuodd ein prosiect gyda chyfres o gyfweliadau gydag artistiaid ac ymgyrchwyr o ardaloedd dosbarth gweithiol Caerdydd; Llaneirwg, Trelái a Butetown. Cawsom sgyrsiau eang am ein perthynas â’r Gymraeg a’n profiadau uniongyrchol o geisio defnyddio’r Gymraeg – neu ddiffyg cyfle i wneud hynny. Buom yn trafod hanes Cymru, gan gynnwys y bylchau yn ein gwybodaeth a’r hyn yr hoffem ei wybod, a sut yr hoffem i’r Gymraeg fod yn rhan o’n bywydau.
Buom yn trafod sut y gallem herio’r rhagdybiaethau y gallai pobl yng Nghaerdydd eu cael am y Gymraeg, gan gynnwys y rhagdybiaeth fod siarad Cymraeg yn arwydd o fraint dosbarth yng Nghaerdydd. Canfu ein hymchwil y gall hyn fod yn wir mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, defnyddiodd Dr Siôn Llewelyn Jones ddata ar ddarparu prydau ysgol am ddim i ddangos bod gan ysgolion cyfrwng Cymraeg yn Ne-ddwyrain Cymru lai o ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim. Yn 2021 cadarnhaodd y cyfrifiad fod 12.2% o bobl Caerdydd yn siarad Cymraeg, sy’n gynnydd o 1.1% ar y cyfrifiad diwethaf. Fodd bynnag, fe wnaeth ein hymchwil hefyd ganfod newidiadau yn y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yng Nghaerdydd, gyda chyfwelwyr yn dweud eu bod wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad mewn ardaloedd nad ydynt yn draddodiadol yn cael eu galw’n gadarnleoedd y Gymraeg yng Nghaerdydd, fel Grangetown. Dangosodd cyfrifiad 2021 gynnydd mewn pobl Ddu a Brown sy’n siarad Cymraeg, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae hyn yn dangos bod y berthynas rhwng y Gymraeg a’r ddinas yn newid.
Nesaf, fe wnaethom gyfweld pobl yng Ngogledd Cymru i gyfleu darlun o’r berthynas rhwng iaith a dosbarth yng Ngogledd Cymru. Fe wnaethom ddysgu am foneddigeiddio a’r rôl y mae gwasanaethau llety tymor byr yn ei chwarae o ran eithrio siaradwyr Cymraeg o’u cymuned, a sut maent yn cyfrannu at ddileu’r Gymraeg, hunaniaeth a diwylliant. Dywedodd ein cyfwelwyr wrthym am bwysigrwydd enwau Cymraeg ar leoedd a sut maen nhw’n diflannu, yn aml ar ôl i fannau gael eu hail-enwi gan bobl sy’n symud o Loegr i Gymru. Yn aml, mae gan yr enwau gwreiddiol ystyron sy’n cysylltu pobl â’u tirwedd drwy ddisgrifio ei nodweddion, neu sy’n ymwneud â straeon hynafol sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Fe wnaethom raglennu cyfres o weithdai wedi’u cynllunio i drafod y themâu a ddaeth i’r amlwg o’n cyfweliadau. Cymerodd dros 75 o bobl ran.
- Bu’r hanesydd Chris Parry a’r arlunydd gweledol Jon Pountney yn archwilio hunaniaeth, tirwedd Cymru a’n perthynas â’i gorffennol radical, ôl-ddiwydiannol.
- Cynhaliodd yr awdur Patrick Jones a Phillip Prosser o Grŵp Hanes Cymorth Meddygol Tredegar weithdy a ymchwiliodd i syniadau radical y gorffennol er mwyn mynegi syniadau ar gyfer nawr a’r dyfodol drwy ysgrifennu creadigol.
- Cynhaliodd yr arlunydd Bedwyr Williams weithdy Lluniadu Blin a oedd yn caniatáu i’r rhai oedd yn cymryd rhan archwilio’r pethau sy’n eu cythruddo.
- Cynhaliodd yr actifydd Sarah Bowen a’r awdur Taylor Edmunds weithdy ysgrifennu creadigol a hanes cyfoes i ddathlu ffigurau dosbarth gweithiol allweddol o Gaerdydd.
Fe wnaethom groesawu pobl leol i’n clwb llyfrau yn ein swyddfa yn Llanrhymni, gan ddarllen Brittle with Relics gan Richard King. Hanes Cymru rhwng 1962 a 1997 yw Brittle with Relics. Yn ogystal â’n clwb Saesneg, rydyn ni wedi sefydlu clwb darllen Cymraeg, Clwb Llyfrau Cymraeg, i’n cefnogi i ymarfer ein Cymraeg gyda’n gilydd.
Fe wnaethon ni hefyd baru tri artist o Gaerdydd sydd ddim yn siarad Cymraeg gyda thri artist Cymraeg eu hiaith ym Methesda. Buon nhw’n gweithio ym Methesda am dri diwrnod, gan ddod o hyd i gysylltiadau. Fe wnaethon nhw greu gwaith mewn ymateb i’r sgyrsiau hyn, a gafodd eu perfformio yn ein ffilm fer a grëwyd gan Gavin Porter.
Ar gyfer ein gwefan fe wnaethon ni gomisiynu dau flog am Gymraeg a’r dosbarth o safbwynt siaradwr Cymraeg dienw. Mae’r blogiau hyn, Y Gymraeg a’r Dosbarth: Paradocsau a Gwrthddywediadau, a Iaith, Dosbarth a Chywilydd, wedi ysgogi sgyrsiau pwysig iawn ar-lein.
Rhestr gydnabod
Hoffem ddiolch i’r holl bobl sydd wedi ymgysylltu â ni ar y prosiect hwn, gan roi eu hamser a’u creadigrwydd i ni, a rhannu myfyrdodau personol iawn gyda ni: Common Wealth Bwrdd Seinio, Ieuan Wyn, Heledd Williams, Beverley and Finlay, Darnell Williams, Li Harding, Serena, Annest, Rhys Mwyn a y bobl a ddaeth i’r gweithdai.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Ffilm gan Gavin Porter.
Cysyniad a Chyfarwyddo gan Rhiannon White and Ffion Wyn Morris.
Cyfansoddiad gan Gwen Siôn.
Wedi’i dyfeisio, ei hysgrifennu a’i pherfformio gan Ali Goolyad, Bedwyr Williams, Jude Thoburn Price, Liws, Rhys Trimble a Thaer Al-Shayei,
Caiff Dydyn ni ddim yn siarad dim mwy ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llais y Lle a’i gefnogi gan Common Wealth.