Ail-gyfleu Us Here Now – dewch draw, ymlacio gyda’ch gilydd a bod yn rhan o’r gwaith celf nesaf!

An image of a walkway with large photographs of people in the windows. The words

Yr haf hwn, mae Common Wealth yn gweithio gyda phobl leol yn Nwyrain Caerdydd a’r artist Helen Bur i ddod â gwaith celf newydd i Laneirwg, wrth ymyl Tesco. Mae Helen Bur yn artist ac yn arlunydd o Brydain sy’n gwneud paentiadau uchelgeisiol, hardd o bobl a hynny ar waliau. Mae hi wedi creu gweithiau awyr agored ledled y byd – yn Ewrop a’r DU, yn ogystal ag yn America, Senegal ac India.

Mae Helen yn defnyddio ffotograffau o bobl i baentio. Mae Common Wealth yn eich gwahodd i ddod i Gaeau Tesco ddydd Sul yma am ychydig o gerddoriaeth, picnic a sesiwn tynnu lluniau torfol, yn dathlu popeth rydyn ni’n ei garu am Laneirwg. Gwisgwch eich dillad mwyaf lliwgar, dewch â phicnic, dewch i ymlacio gyda’ch gilydd a byddwch yn barod i orwedd ar y glaswellt, ar gyfer sesiwn tynnu lluniau torfol o’r awyr. Bydd Helen yn defnyddio’r delweddau hyn i greu gwaith celf newydd ar gyfer y wal, a fydd yn cael eu gosod ddiwedd yr haf.

Sesiwn tynnu lluniau torfol ymlaciol
Caeau Tesco
30 Gorffennaf 2023
Picnic a thynnu lluniau: 1pm – 3pm
(Casglu sbwriel – 12.30pm)

Bydd y sesiwn tynnu lluniau yn dibynnu ar y tywydd, felly edrychwch ar gyfryngau cymdeithasol Common Wealth yn y bore. Ni allwn warantu y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael eu cynnwys yn y gwaith celf terfynol.

https://www.facebook.com/CommonWealthTheatreCo/
https://twitter.com/common_wealthhq
https://www.instagram.com/common_wealthhq/