ADFER Y GOFOD – MURLUN AR GYFER EIN CYFNOD

Dim ond rhywbeth dros dro oedd arddangosfa Us Here Now. Roedd y wefr wedi bod mor wych roedd pobl leol wedi cysylltu â ni a’r busnesau cyfagos yn gofyn pwy oedd wedi cael gwared ar yr arddangosfa. Roedd pobl yn flin. Yn 2021 fe wnaethom arddangos Us Here Now yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd – adeilad hanesyddol a oedd yn rheoli’r dociau, y bobl yn mynd a dod (y byddai rhai ohonynt yn ymgartrefu yng Nghaerdydd) a’r cyfoeth a fyddai’n adeiladu’r ddinas. Adeilad sy’n agos iawn at Senedd Cymru lle mae’r rhai sydd mewn grym yn gwneud penderfyniadau ar ran ein cymunedau. Roedd yr agosrwydd hwnnw’n teimlo fel bod ein ffotograffau yn sgwrsio’n uniongyrchol â phŵer – achlysur prin, i weld pobl o Ddwyrain Caerdydd yn cael eu cynrychioli mewn ffordd gadarnhaol, bwerus a chyfartal.

Roedd y llu o geisiadau gan y gymuned leol i roi rhywbeth ar y wal yn ormod i ni beidio â thalu sylw. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Tesco (sy’n berchen ar y wal) fe ddechreuon ni sgyrsiau am artist stryd yn peintio murlun a fyddai’n cael ei greu gyda, gan ac ar gyfer y gymuned. Drwy broses o gasglu argymhellion artistiaid ac yna gweithio gyda’n Seinfwrdd (sy’n cynnwys trigolion lleol) i ddewis artist – aethom at Helen Bur, artist stryd rhyngwladol (a fu unwaith yn byw yng Nghaerdydd!) Roedden ni wrth ein bodd pan gytunodd Helen – roedd hi’n deall ar unwaith yr hyn yr oedden ni eisiau ei wneud ac erbyn gweld, roedd hi’n adnabod ac yn ffrindiau gyda Jon Pountney, ffotograffydd Us Here Now.

Daeth Helen draw i gyfarfod a dod i adnabod y gymuned. Fe wnaethom dreulio diwrnod wrth y wal – gyda sialc yn gwahodd pobl i ysgrifennu a thynnu llun yr hyn yr hoffent ei weld a’i ddathlu am y gymdogaeth. Fe wnaethom gynnal gweithdy gyda’r Clwb Ieuenctid – ail-greu Llaneirwg, beth sydd yno, a’r hyn y mae pobl yn falch ohono. Gwyddom o’n profiadau o gael ein magu yn y gymuned mai ysbryd, cyfeillgarwch a naws gymunedol Dwyrain Caerdydd oedd yn gwneud y lle. Roedden ni eisiau ei ddathlu, rhannu’r hud a herio’r naratif negyddol sydd wedi bod yn anodd cael gwared arno. Buom yn siarad am faint o natur oedd yna, ond pa mor anodd yw hi weithiau i fanteisio i’r eithaf arno – yn enwedig pan fo hanes y gorffennol yn dylanwadu cymaint ar y profiad rydyn ni’n ei gael. Y mannau hyn sy’n aml yn teimlo’n anniogel, ac yn ddigroeso neu sy’n gwneud cymunedau mor dywyll. Fe wnaethom feddwl am yr hyn y gallai adennill y gofod hwnnw ei olygu – sut y gallem greu atgofion a chysylltiadau newydd â’r lle.

Fe benderfynon ni ddefnyddio’r caeau tu ôl i Tesco, drws nesaf i’r goedwig i orwedd yno ac ymlacio mewn criw – gan gymryd ysbrydoliaeth o brotestiadau lle mae ymgyrchwyr yn gorwedd i adennill gofod/lle/ neu i brotestio. Fe wnaethom dreulio’r diwrnod yn cael picnic, gwahodd pobl leol i wisgo dillad llachar, a gorwedd ar y glaswellt er mwyn i ni allu eu dal ar gyfer y paentiad. Fe wnaethon ni dynnu llun 50 o bobl y diwrnod hwnnw. Pobl gyda’u plant, cŵn, plant y clwb ieuenctid. Daeth un nain yn ôl dair gwaith gyda gwahanol bobl – eu gollwng yn y car a gwylio wrth i ni dynnu llun. Roedd yn teimlo’n arbennig.

Gyda chymorth Jon, aeth Helen â’r lluniau gyda hi a chreu collage a oedd yn cynnwys rhai o’r bobl y gwnaethom dynnu eu lluniau. Am y 9 diwrnod diwethaf mae Helen a Camilla wedi bod yn peintio wal – yn gyntaf yn ei pheintio’n oren fel bod y lliwiau’n denu’r llygaid, yna’n braslunio’r bobl arni ac yna’n talu sylw i bob un wrth iddi ddod â nhw’n fyw.

Bob dydd mae pobl wedi stopio, siarad â ni, gofyn cwestiynau, gwneud sylwadau ac weithiau dim ond gwylio wrth i’r gwaith celf ddod yn fyw. Merched ifanc yn gwylio Helen wedi synnu, yn dweud eu bod nhw eisiau gwneud hynny hefyd, dynes yn ei 80au yn dweud pa mor bwysig yw lliw i gael bywyd iach a gweld y byd yn wahanol. Talu sylw i’r manylion – yr arbenigedd a’r gofal a’r ymrwymiad i wneud rhywbeth mor hynod bwerus.

Mae Camilla ein Cynhyrchydd yn dweud ei fod yn ymwneud â dychymyg – sut rydyn ni’n meithrin dychymyg, sut mae’n ein hysbrydoli, yn ein dysgu, yn ein helpu i feddwl yn wahanol am ein byd, ein hamgylchiadau, ein gilydd – ac yn ein herio i freuddwydio. Weithiau, pan fydd cymdogaethau’n cael eu hadeiladu maen nhw’n anghofio gwneud gofod a gofodau i freuddwydio – yn yr 80au pan adeiladwyd Llaneirwg mae mam yn cofio pa mor gyffrous oedd hi a chymaint o fraint oedd cael tai cyngor cystal. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld sut y gall esgeulustod, trachwant a diffyg sylw i’n cymdogion gael effaith niweidiol iawn a hirdymor ar bobl a hefyd ar ein dychymyg.

Mae Chantal, ein Cynhyrchydd Cymunedol, yn sylwi faint o bobl sy’n stopio, siarad, cael teimlad o falchder – ochr yn ochr â hel atgofion o’r gorffennol – cydnabyddiaeth i’r hanes a’r holl bobl wych sydd wedi gweithio’n galed i wneud i bethau ddigwydd. Y symudiadau a grëwyd gan y rhai sydd wedi buddsoddi yn yr ardal ac wedi gofalu amdani’n fawr.

Os ewch i’r murlun a cherdded rownd y gornel gallwch weld gweddillion y ganolfan gymunedol a gafodd ei dymchwel bron i bedair blynedd yn ôl. Does dim byd yn sefyll yno, dim ond rwbel, chwyn wedi gordyfu a ffens i atal pobl rhag mynd i mewn. Mae gennym ni Hyb Cymunedol newydd, mae’n wych – ond un y cyngor a’r gwasanaethau ydyw ac nid yw’n perthyn i’r gymuned yn yr un ffordd ag oedd yr hen un.

Yr hyn rydyn ni’n ei wybod er gwaethaf y cyfnod rydyn ni’n byw ynddo ac nad yw’r ganolfan gymunedol yno yw bod lleoedd i ddod at ein gilydd yn gyfyngedig. A yw’r dychymyg yna bob amser ac mae gan gymunedau fel Llaneirwg ddigonedd ohono, nid yw’n cael ei drafod yn y wasg nac mewn erthyglau nodwedd oherwydd mae canolbwyntio ar y ddrama’n gwerthu. Ar yr ymylon mae lle mae’r holl bethau gorau yn digwydd, lle maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn golygu rhywbeth i bobl – ac mae rhan o’r broses yn agor yr holl bethau hynny ac yn manteisio ar ddychymyg fel y gallwn ni i gyd fod yn rhan o freuddwydio.

Y diwrnod y gorffennodd Helen beintio cafwyd parti y tu allan i’r feddygfa. Roedd ymbarél o dafarn y Willows ar ben tŵr sgaffald yn gwneud iddi edrych fel llong môr-ladron – plât o gacennau a chaniau Pina Colada. Plant ar eu beiciau, pobl gyda’u trolïau, plant a babis yn chwarae ar y palmant. Roedd yn teimlo’n arbennig. Roedd yn teimlo’n arbennig. Peintiodd Helen am 9 diwrnod llawn a gwnaeth hynny gyda chymaint o ofal a chariad a dealltwriaeth o ba mor bwysig oedd hyn i’r gymuned. Ac yn awr mae wedi ei adael yn nwylo’r gymuned – ac wrth i mi ysgrifennu hwn mae fy chwaer yn dweud wrthyf fod yna griw o fechgyn hŷn yn eistedd yno gyda’r nos, tu allan i’r siop cyw iâr yn edrych arno – gwarcheidwaid y murlun.