Yr Iaith Gymraeg a Dosbarth: Paradocsau a Gwrthddywediadau

Llun o fynyddoedd

Mae ysgrifennu’r blog yma’n anodd. Nid yn unig oherwydd ei fod yn gyfle ‘sgwennu prin i ble caf fy nhalu, a dwi’n poeni na fydd yn ddigon da, ond oherwydd y bore yma cefais ffrae arall gyda fy landlord. Does dim ots ganddo fod carthion amrwd yn llifo i lawr ochr y tŷ ac i’r ardd. Ar ben hyn, mae fy Nhad wedi gofyn od gasll fy mrawd aros yn fy nhŷ cyn iddo gael ei ddedfrydu, lle mae’n debygol y bydd yn mynd yn ôl i’r carchar am rai blynyddoedd. Mae ceisio delio â mherthynas gyda fy mrawd yn boenus ar hyn o bryd, yn ogystal ag unrhyw beth i’w wneud a’m teulu.

Boreau fel y rhain yr wyf yn teimlo fel bod fy system nerfus ar dan. Gen i poen yn fy mol, fy nghalon yn carlamu, fy nwylo’n crynu. Serch hynny, mewn gwirionedd yr unig gyflwr rwy’n dioddef ohono yw fy nghyflwr dosbarth, nid patholeg anhwylder pryder. Pan nad yw pethau fel hyn yn fy mhoenydio, dwi’n iawn ar y cyfan. Ond yn anffodus, mae’r pyliau hyn yn fy mhlagio’n aml.

Mae eistedd ac ‘sgwennu ar ddiwrnodau fel hyn yn teimlo’n amhosib. Sut y gallaf ‘sgwennu unrhyw beth pan fydd fy meddwl yn sownd mewn cylch dieflig yn amgylchynu’r cwestiwn – sut rwy’n mynd i ddatrys y ffaith ein bod yn sownd mewn llety anaddas? Sut mae’r argyfwng diweddaraf i’n nharo am effeithio ar fy merch yn y pen draw?

Ymdrechaf i sadio’m hyn, rhag i’m system nerfol dyrmlwythog fy arwain i or-ymateb a gwylltio gyda’r rhai o’m cwmpas. Pera hyn i mi feddwl am bobl “is-dosbarth” – y modd maent yn aml yn cael eu portreadu fel pobl ymosodol. Mae’r baich meddyliol, ddydd i ddydd o ysgwyddo’r cyflwr (is)ddosbarth yn anferthol. Anochel yw y byddai hyn yn cael effaith ar allu unrhyw un i fod yn amyneddgar a chwrtais.

Mae’r ymgais i deall y berthynas rhwng dosbarth a’r Gymraeg yn obsesiwn dolurus. Dyma anaf sy’n cael ei aflonyddu yn ailadroddus. Yn feunyddiol, wrth i mi ddod ar draws sefyllfaoiedd sy’n fy atgoffa bod pethau’n fwy heriol nag y maent angen bod, mae’r briw yn cael ei agor. Rydym yn byw mewn mympwy o gynllyn pyramid dosbarth.

Llun o Lyn

Anos yw intergreiddio fy mhrofiad o hunaniaeth dosbarth ac iaith yng Nghaerdydd. Y dryswch o fod yn siaradwr Cymraeg brodorol gyda rhieni o Wynedd, yn byw mewn ardal sydd wedi ei foneddigeiddio gan “gogs” dosbarth canol, i fod wedi cael fy magu am 8 mlynedd gyntaf fy mywyd yng Nghymoedd y de, yr un cyfnod ag yr oedd John Major yn cau’r pyllau glo olaf.

Dwi’n teimlo’n ansicr ynghylch fy mherthynas â dosbarth ac iaith a dweud y lleiaf. Beth bynnag “ydw i”, un peth rwy’n ei wybod yw fy mod yn teimlo diffyg llwyr o ran unrhyw beth sy’n dod yn agos at adlewyrchu fy mhrofiadau gan yr hyn y mae’r diwylliant Cymraeg presennol yn ei gyfleu fel siaradwr Cymraeg. Heb gynnwys ambell i eithriad absoliwt o flynyddoedd lawer yn ôl sy’n profi’r rheol, megis Sgint gan Bethan Marlow ac anhrefn tlodi a bod â rhiant â salwch meddwl difrifol yn Un Nos Ola Leuad.

Yn Saesneg mae darnau o waith cyfoes yma ac acw o’r hyn y gallaf uniaethu â nhw; o weithiau hunangofiannol Stephanie Land, D. Hunter a Nicole Rose i gyhoeddiadau Lumpen. . Fodd bynnag, nid yw’r gweithiau hyn yn mynd dan groen y rhan ohonof sy’n siarad Cymraeg chwaith – rhan sy’n ymwneud â normau diwylliannol cymhleth ac unigryw. Mae dosbarth yn broblem mewn cyhoeddiadau Saesneg hefyd, ond gyda llawer o filiynau o siaradwyr Saesneg yn y byd yn ystadegol mae mwy o bobl o’r dosbarth gweithiol (ac is) am oresgyn y rhwystrau a chanfod llais.

Mae diwylliant Cymraeg ei hiaith yn cyfleu cymuned glos o gymunedau. Amrywia hyn o gyd-safiad taer, i’r yr eithaf arall o neigarwch llwyr. Rhybeth yr wyf wedi bod yn dyst iddo mewn rhai llefydd. Wrth gwrs, mae neigarwch yn bodoli yn y byd Saesneg elitaidd, ond tydi’r byd yma ddim mor weladwy i ni.

Y Cymry – pobl sydd wedi brwydro dros barhad ein mamiaith, a thros eu hawl i fodoli gan wynebu gwaerchae gan un o wladychwyr diwylliannol mwyaf grymus y Byd (gan gymryd rhywfaint o ran mewn gwladychu ar yr un pryd). Etifeddiaeth o gannoedd o bobl wedi mynd i’r carchar a blynyddoedd lawer o frwydro dros yr iaith. Cael ein magu heb ddysgu ein hanes mewn ysgolion a chael ein hiaith wedi’i diystyru, yn ogystal â bod yn destun gwawd mewn diwylliant poblogaidd – mae’n gorfodi rhywbeth i egino o hyn oll.

Barddoniaeth Cerdd Dant,yrUrdd, yrYsgol Sul a’r dwsinau o fynegiannau diwylliannol Cymreig eraill. Pobl o bob cenhedlaeth yn dod at ei gilydd ac yn creu gofod i ddiwylliant a chymuned yn y Gymraeg. Mae yna gred gyffredin ein bod ni’n rhan o rywbeth, ein bod yn wahanol. Yr ydym yn dal ein gafael ar rai gwerthoedd sy’n amgen i rai ymerodraeth a phrynwriaeth. Mae heddychiaeth, cerddoriaeth a llenyddiaeth yn bileri i beth bynnag yw hyn. A beth bynnag yw hyn – mae’r egwyddorion canmoladwy sydd ynghlwm wrth hyn yn teimlo fel rhai sy’n golygu na ddylem gefnu ar bobl nag eu ymylu.

Coed ar gefnen

Y gwir amdani – dyma’r teimlad sydd gen i. Mae hyn i’r fath raddfa ble mae sgwennu rhei pethau yn y Gymraeg yn teimlo’n rhy heriol – mae rhwystr seicolegol. Yr wyf yn teimlo diffyg ymddiriedaeth yn fy nghynulleidfa ddychmygol Gymraeg ei hiaith sy’n gwrthod derbyn hyn. Mae rhai pobl yn cael eu gadael ar ôl – nid yw ein diwylliant yn cynrychioli holl sbectrwm cymdeithas, er gwaethaf ymdrechion ofer y Cymry dosbarth canol ac uwch i lenwi’r bwlch hwn – yn enwedig o ran nofelau Cymraeg. Awduron fel Llwyd Owen, Dewi Prysor aCynan Llwydi enwi rhai

Mae bodolaeth y dosbarth gweithiol yn y llyfrau hyn yn barodi o ffilm gangster yn amlach na pheidio. Nid ydym yn gweld cymhlethdod, anhrefn a thynerwch bywyd dosbarth gweithiol (ac is-ddosbarth). Gwyddom ni all awduron dosbarth canol sy’n ceisio cyfleu bywyd dosbarth gweithiol lwyddo (oni bai bod ymchwil helaeth, cyfweliadau ac ati wedi’u cynnal fel y digwyddodd yn achos Sgint Bethan Marlow). Pam felly eu bod nhw’n dal i wneud hyn? Pam bod hyn yn digwydd, yn hytrach na ymgais i ddatrys y broblem o ddiffyg lleisiau dosbarth gweithiol yn ein disgwrs diwylliannol?

Mae llawer i’w archwilio yma – dyma gipolwg cyflym ar sefyllfa hynod gymhleth. Rwy’n gwybod fodd bynnag fod dosbarth a’m diwylliant Cymraeg yn hanfodol bwysig i fy nheimlad i o ddieithrwch o ran ysgrifennu.

Rwy’n teimlo brad pan ar un llaw mae fy niwylliant yn honni ei fod yn un o werthoedd cymunedol, ond mae fy mhrofiad i wedi datgelu i mi mor amodol yw bod yn aelod o’r gymuned honno mewn gwirionedd.

Is-ddosbarth. Lumpen Proletariat. Pobol Goman… Mae gwahanol bobl yn eu galw’n bethau gwahanol.

Mae’r adain chwith awdurdodaidd yn nawddogi, ag yr chwith libertaraidd yn eu rhamanteiddio, mae’r ddau yn defnyddio’r lumpen proletariat fel propiau ac nid ydynt yn cymryd y grŵp yma o bobl o ddifrif. Mae’r adain dde ar y llaw arall yn enllibio’r isddosbarth. Mewn byd lle mae dosbarth a’i ormesau croestoriadol, hil, rhyw, anabledd yn cael eu gwneud yn anweledig a’u normaleiddio, pwy sydd ar fai am gyflwr truenus yr isddosbarth ond y bobl hynny eu hunain – wedi’r cyfan, rydyn ni’n byw mewn meritocratiaeth onid ydym?

Chavs” gan Owen Jones yn taflu goleuni ar hyn. Rhoddodd y llyfr hwn, heb ormodiaith – gyd-destun i fy mywyd a’r frwydr yr wyf wedi ceisio bod yn rhan ohoni am y 15 mlynedd diwethaf. Pam fod brwydr dosbarth mor wahanol nawr? Pam ei fod yn teimlo mor amherthnasol i gynifer ohonom? O ble y daeth y pwyslais patholegol hwn yn ein cymdeithas ar feritocratiaeth?

Gall unrhyw un sydd â thalent “lwyddo” cyn belled â’ch bod chi’n gadael eich cymuned ar ôl. Yn anterth yr oes diwydianol – yr oedd pobl yn brwydro ynghyd i wella eu sefyllfa fel dosbarth, fel cymuned. Ar ôl i ddamcaniaeth treisgar Thatcher gael ei gorfodi ar y boblogaeth, daeth tlodi, colli hunaniaeth a chymuned yn norm i filiynau – ni wnaethon fel dosbarth fyth adfer ar ol yr ymosodiad hyn. Mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol daeth diweithdra a’r holl broblemau cymdeithasol a ddaw yn ei sgil yn nodwedd bywyd bob dydd – a daeth y “Chav” a’r isddosbarth i’w gweld fel bygythiad enbyd.

Bu’r cyhuddiad o fyw ar draul eraill, y “scrounger” yno bob erioed. Fel plentyn dwi’n cofio fy Mam yn beichio crio ar ôl bod am ryw fath o ‘brawf’ i weld a ddylai hi ddal i gael y budd-daliad anabledd. Bu raid iddi gael ei chroesholi ynglŷn â’i gallu i ymdopi gyda diagnosis o salwch meddwl difrifol. Roedd hi’n troedio’r ffin rhwng bod digon sâl i fod â hawl i’r budd-dal ond ddim yn ddigon sâl i haeddu ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol (daeth y gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o’n bywydau yn ein harddegau ta waeth). Roedd yn rhaid iddi ildio popeth y bu’n brwydro amdano o ran ei sefydlogrwydd meddyliol am fymryn o ddim gan y llywodraeth. Bu’n rhaid iddi ddatod yr holl waith caled yr oedd wedi’i wneud i fod yn iach er mwyn ymgorffori’r fersiwn salaf o’i hunain – er mwyn profi bod angen y budd-dal arni.

P’un ai a oedden nhw’n famau sengl neu’n “yobs”, yn bobl anabl ar fudd-dal anabledd / PIP – fe ddefnyddiodd y Torïaid ’r naratif o’r bobl yma fel dihirod er mwyn cyfiawnhau llymder. Dyma’r darlun a lunewyd ganddynt gyda chymorth y cyfryngau prif ffrwd er mwyn enill cydsyniad cryn helaeth o’r boblogaeth ar gyfer y diwygiadau dinistriol ar ein system les sy’n golygu nad oes dim byd yn gweithio mwyach erbyn heddiw yn 2024, a bod cymaint o sefydliadau ddim yn gallu gweithredu mewn unrhyw fodd ystyrlon rhagor.

Rwy’n siarad o brofiad yn sgil gorfod delio â gwasanaethau prawf, gwasanaethau cymdeithasol, gofal iechyd ac ati ar ran teulu a ffrindiau. Nid oes unrhyw swyddi da, mae tâl ac amodau yn sal, beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud yn y pen draw. Mae pobl yn neidio o un peth i’r llall, gan obeithio y bydd modd goddef rhywbeth i ennill bywoliaeth. Mae Dan Evans yn portreadu hyn yn fyw yn ei lyfr diweddar ar ddosbarth – “A Nation of Shopkeepers”.

Fe weithiodd – mae propaganda ddoe yn synnwyr cyffredin heddiw. Mae’n debyg nad yw materion ein cymdeithas yn rhai strwythurol – maen nhw’n deillio o fethiannau moesol y rhai nad ydynt yn ymddangos i ymdopi’n dda yn y gymdeithas hon. Dyma’r enghraifft eithaf o feio dioddefwyr. Mae cyfalafiaeth, patriarchaeth, goruchafiaeth pobl wyn ayyb i gyd yn gorgyffwrdd ac yn arwain at ganlyniad lle mae merched, pobl o liw, pobl anabl a’r tlotaf yn cael eu gweld fel meistri eu tranc eu hunain, gan lusgo pawb arall i lawr gyda nhw.

……………………………………..

Llun of lyn gyda mynydd

Beth sydd arnom ni i’n gilydd?

Roedd fy Mam i mewn ac allan o ysbytai seiciatrig ers pan oedd hi yn ei hugeiniau cynnar. O’r darnau bach o wybodaeth rwyf wedi’u cael dros y blynyddoedd, cafodd ei thrin yn ofnadwy. Gwnaeth ei gorau i ofalu amdanom gydag ychydig iawn o gefnogaeth, wrth iddi ddioddef o salwch meddwl difrifol. Rai blynyddoedd yn ôl bu’n rhaid iddi roi’r gorau i bob meddyginiaeth oherwydd fod y crynodiad y meddyginiaethau seiciatrig yn ei iau yn beryglus o uchel, ac ers hynny mae ei hiechyd meddwl wedi dirywio’n aruthrol.

Mae’r “episodau” mae’n eu cael yn frawychus ac yn ddryslyd. Ar ôl i’w rhieni farw, torrodd 3 o’i 4 brawd gysylltiad â hi. Roedd hi’n byw mewn tŷ cyngor mewn pentref gwledig, ac yn cael trafferth ymdopi. Ar ôl cael ei sancsiynu yn y ganolfan waith ar ôl dweud mewn niwl seicotig ei bod yn berchen ar sawl tŷ, dywedodd wrthyf ei bod yn cael trafferth bwyta. Ceisiais roi arian iddi. Byddai hi’n gweiddi arna i oherwydd bod yr union ffordd wnes i roi’r arian iddi yn “anghywir”.

Ro’n i’n cael trafferth fy hun, yn enwedig o ran fy sefyllfa dai ac arian yn gyffredinol. Ar adegau pryd doedd dim ceiniog goch gen i, ro’n i’n dwyn bwyd o archfachnadoedd. I fy Mam, roedd derbyn help, er y byddai’n amharod iawn i wneud hynny, yn gwneud iddi wylltio, a byddai’r gwylltineb hwnnw wedi’i gyfeirio ataf i fel arfer. Mae fy Mam yn symptom o’r gymdeithas unigolyddol, gyfalafol hon a’i gadawodd i ofalu amdani’i hun tra’i bod yn ddifrifol wael – ni ddewisodd hi fod fel hyn.

Nid yw fy Mam wedi cael gwres canolog ers dros 6 mlynedd, mae hi wedi troi ei theledu i wynebu’r wal gan ei bod ofn cael ei dal heb dalu’r ffi trwydded deledu. Felly yn ei phen hi, ni fyddent yn gwybod ei bod yn defnyddio’r teledu “petaen nhw’n galw heibio”. Yr holl amser hwn roedd fy mrawd i mewn ac allan o’r carchar, yn anafu ei hun ac yn ceisio lladd ei hun, gan ildio frwydro gyda’i gaethiwed i gyffuriau.

Ar ôl i mi gael rhywfaint o iawndal yn sgil cael fy arestio gan yr heddlu prynais wresogydd arbed ynni i Mam na fyddai’n rhy ddrud i’w redeg, Dyson oedd o ac yn ddrud. Roedd rhyw baranoia neu ddicter tuag ataf yn golygu mai’r tro nesaf y gwnes i ymweld â hi gwelais fod y gwresogydd £400 hwn wedi cael ei daflu i’r glaswellt hir, gwlyb yn ei gardd flaen.

Mae ceisio ei helpu yn teimlo’n amhosib. Dydy hi ddim eisiau fy help. O’r ffordd roedd hi’n siarad mae’n ymddangos ei bod hi wedi meddwl fy mod i wedi rhoi gwenwyn yn y gwresogydd. Wrth gwrs, seicosis yw hyn, mae hi’n sâl ac ni ddylwn ei gymryd yn bersonol – ond mae’r ffaith ei bod yn meddwl y byddwn i eisiau brifo hi yn fy ypsetio.

Llun o mynydd

Wrth i amser fynd yn ei flaen, parhaodd ei brodyr a dwsinau o’i chefndryd a’i chyfnitherod â’u bywydau mewn tref fechan wledig arall yng Ngwynedd, ychydig oriau i ffwrdd. Roedd ganddyn nhw deuluoedd, roedden nhw’n adnewyddu ac yn adeiladu tai ac yn rhedeg busnesau. Yn fy marn i doedden nhw ddim eisiau gwybod am ein brwydr ni fel teulu, ond roedden nhw wedi clywed rhai pethau gan yr un fodryb oedrannus a oedd yn cadw rhyw gysylltiad â fy Mam. Bob hyn a hyn byddai dau o blant fy modryb yn ymweld â hi hefyd ac rwy’n hynod ddiolchgar am hynny. Ond roedd angen llawer mwy arni.

Es i at bob gwasanaeth iechyd sawl gwaith. Roedd cael gwasanaethau i helpu yn amhosibl oherwydd nid yw Mam yn ffitio’n daclus i mewn i focs, ac ni fyddai’n cydweithredu . Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn oedd ei thrawma meddygol yn y gorffennol o gael ei lleoli mewn ysbytai lloches a seiciatryddol y 70au, yr 80au a’r 90au. O ran iechyd meddwl, oni bai eich bod ar fin lladd eich hun neu rywun arall yn fuan, nid oes unrhyw gymorth ar wahân i bethau amlwg fel 6 sesiwn cwnsela gan y meddyg teulu.

Ro’n i’n byw mewn anobaith. Cefais fy nghyfeirio mewn cylch dieflig o un sefydliad i’r llall. Ni allent fy helpu ond byddent yn cymryd fy amser i dicio eu bocsys a fy “nghyfeirio” at y lle nesaf. Fe wnaethon nhw wastraffu fy amser ar gyfer eu hadroddiadau cyllid eu hunain. Gwnaeth hyn fi’n fwy blin.

Ni fydd dim yn gwella iddi, dim gwasanaeth statudol, nid oes unrhyw elusen yn fodlon gwneud unrhyw beth ac rwy’n ei chael hi’n fwyfwy anodd credu y bydd fy mrawd yn dod o hyd i unrhyw ddiogelwch ac adferiad, ac yntau’n mynd i’r carchar yn fuan am y 4ydd tro.

Byddai fy niwylliant Cymraeg yn gwneud i mi feddwl bod teuluoedd yn helpu ei gilydd, neu fod yna gymuned i ddisgyn yn ôl arni. Yn wahanol i’r egwyddorion anglo-americanaidd-neoryddfrydol-unigoliaeth sy’n graidd i ddiwylliant prif ffrwd yr iaith Saesneg, mae rhai o hen egwyddorion undod yn parhau. Nid dyna fy realiti.

Mae’n teimlo i mi fod y cyflwr dim gwreiddiau yn glefyd ffyrnig, a bydd yn lledaenu’n gyflym i unrhyw un sy’n dod yn rhy agos atom. Doeddwn i ddim yn disgwyl i deulu fy Mam ein “hachub” ni, na hyd yn oed fi, ond byddai neges destun yn gofyn a oeddwn yn iawn, neu ryw bryder am fy Mam a’m brawd wedi golygu llawer. Cefais fy magu yn mynd i’w tai, yn gwneud cacennau ac yn gwylio ffilmiau yn eu hystafelloedd byw a’u ceginau glân, cynnes. Nid oeddent eisiau cadw’r cysylltiad pan oeddwn yn oedolyn, rhag i mi ddod â phroblemau fy nheulu iddyn nhw.

Mae ambell i eithriad yn gwrthbrofi’r rheol, mae’r rheini yn y teulu sydd agosaf atom o ran dosbarth wedi rhoi cynnig arni. Mae ochr fy nhad o’r teulu, lle mae’r rhan fwyaf o’r cefndryd wedi cael problemau gyda’r heddlu ac wedi treulio cyfnodau yn y carchar yn delio â’u pethau eu hunain, mae bob amser wedi teimlo fel petaen nhw eisiau ein hadnabod, maen nhw wedi cydymdeimlo â ni, er nad oedd ganddyn nhw’r adnoddau i roi unrhyw gymorth ymarferol.

Mae caethiwed (igyffuriau, alcohol) yn gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich gwrthod. Bydd y sawl sy’n gaeth, sy’n trin ei boen ei hun bob amser yn dewis yr hyn y mae ei system nerfol yn crefu amdano, yn hytrach na ni. Mae deall caethiwed fel rhyw cyffelyb i gyflwr OCD wedi fy helpu i ddeall hyn, fel rhywun oedd ag OCD fy hunain. Mae caethiwed yn ymddygiad cymhellol ac mae meddwl y gallai rhywun “stopio” o’i ddewis ei hun yn feddygol anghywir.

Mae briw dibyniaeth fy nheulu ar alcohol a chyffuriau yn boenus iawn, ac nid yw’n mynd yn haws. Rwyf wedi treulio llawer o nosweithiau yn methu cysgu, yn crio. Yn ysu i’w helpu ond heb wybod beth i’w wneud. Rwy’n teimlo nad oes ganddyn nhw ddim byd ond brwydr a phoen.

Llun o Lyn

Hyd yn oed yn ystod rhai o adegau gorau fy mywyd, gall y boen deimlo’n groyw, es i ar daith a gweld tirwedd mor syfrdanol o hardd nes i mi grio. Ro’n i’n llawn euogrwydd a galar na fydd fy mrawd a Mam byth yn cael profi unrhyw beth fel hyn.

Mae hyn yn brifo, ond mae’n gwneud synnwyr yn rhesymeg caethiwed. Yr hyn na allaf ei esbonio ac sy’n brifo cymaint yw fy nieithrwch o ran fy mherthnasau. Dydy caethiwed ddim yn esgus iddyn nhw, pam nad ydyn nhw eisiau fy adnabod i?

Pam nad ydyn nhw’n poeni beth sy’n digwydd i ni? Efallai bod ymwneud â mi wedi gwneud iddyn nhw deimlo cywilydd neu wedi taflu goleuni ar eu hansicrwydd – atgof o ba mor agos ydyn nhw at yr hyn y maen nhw wedi treulio gydol eu hoes yn ceisio mynd mor bell oddi wrtho â phosibl.

Beth sydd gan y Gymraeg i’w wneud â hyn?

Mae’n gymhleth.

Mae diwylliant yn cael ei weld fel ffordd o godi uwchlaw rhywbeth. Y wobr uchaf yn niwylliant yr iaith Gymraeg yw ennill cadair yr Eisteddfod am waith mewn barddoniaeth gaeth. “Wylit,Wylit Lywelyn, Wylit waed pe gwelit hyn’. Yn aml rydw i wedi meddwl tybed petawn i wedi bod yn llwyddiannus wrth ysgrifennu neu greu barddoniaeth, a fyddai fy nheulu estynedig eisiau fy hawlio fel eu tylwyth? Rwyf wedi aeddfedu i sylweddoli nad yw hynny’n bwysig. Alla i ddim gorfodi pobl i fod eisiau bod yn deulu i mi drwy geisio bod yn llwyddiannus yn y pethau y maen nhw’n eu parchu.

Byddai diwylliant Cymreig, sydd â sylfaen wleidyddol asgell chwith o ddiwylliant Eingl-Americanaidd, yn gwneud i chi gredu y dylai pobl ofalu am ei gilydd. Rwy’n meddwl mai dyma lle rwy’n cael y teimlad o frad. Rydych i fod i helpu’r rhai sydd mewn trwbl, pobl anabl a’r rhai â salwch meddwl, y tlawd, pobl ifanc, y rhai sydd ar fin bod yn ddigartref. Ond y gwir yw, yn aml nid yw pobl yn gwneud hynny. Nid yw ein chwedlau diwylliannol yng Nghymru yn cyd-fynd â realiti. Nid yw fy ymddiriedaeth yn yr hyn rydyn ni i gyd yn ei ddweud wrth ein hunain ac wrth ein gilydd mewn disgwrs cyhoeddus, mewn llenyddiaeth – nid yw’n bodoli, mae’n teimlo fel rhethreg wag.

. .

Dwi’n llawn chwerwder a phoen wrth i mi weld aelodau dosbarth canol fy nheulu yn cefnu ar eu chwaer anabl, o’r isddosbarth, a’i mab cyffelyb – a’m gadael i ddelio â’u sefyllfa heb unrhyw gefnogaeth. Ni allwn i ddal y cyfrifoldeb yma, yn feddyliol nac yn faterol, ac mae’r euogrwydd yn fy llorio.

Nid oeddwn wedi bwriadu i’r darn hwn fod mor bersonol, na mor drwm ei annobaith. Yr wyf wedi bod yn ysgrifennu am y pwnc yma er mwyn deall y paradocsau a’r gwrthddywediadau sy’n diffinio fy mhrofiad o fod yn Gymraes “dosbarth gweithiol”. Ni all ‘sgwennu gau’r cylch, ond efallai bod rhannu’r rhwystredigaeth – yn y gobaith gall eraill uniaethu, yn gam tuag at cymodi croesdoriad dwy fodd o fodoli sydd o dan bwysau aruthrol.