Gan @DiffwysCriafol
Diolch i Peter Davies am olygu’r darn hwn yn graff. Diolch hefyd i Rhiannon White a Ffion Wyn am greu’r cyfle prin i ystyried y testun Dosbarth a’r Iaith Gymraeg gyda’u prosiect We No Longer Talk.
Yng Nghaerdydd, mae siaradwyr Cymraeg yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel mewnfudwyr dosbarth canol. A yw’r Gymraeg yn rhywbeth sy’n cael ei orfodi gan bobl o’r tu allan felly? Ai math o foneddigeiddio ieithyddol ydyw yn y cyd-destun hwn? Os edrychwn ar hanes, yn 1850, byddai 80% o bobl Caerdydd wedi bod yn Gymry Cymraeg – ac o gofnodion hanesyddol dyma oedd iaith y bobl gyffredin. Mae’r llyfr, The Welsh Language in Cardiff, yn drysorfa o hanes ieithyddol y ddinas hon. Mae’r awdur, sy’n ŵr o Gaerdydd ei hun, yn tynnu sylw at y myth na fu Caerdydd erioed yn ddinas Gymraeg ei hiaith, gyda hyd yn oed Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn arddel hyn.
Heddiw fodd bynnag – does dim gwadu cysylltiad rhwng Cymry Cymraeg a’r dosbarth canol yng Nghaerdydd. O ble ddaeth y bobl hyn?
Bu bron iawn i’r pwysau ar y Gymraeg lwyddo i’w dileu cyn ei hadfywiad diweddar (neu o leiaf pan sefydlogodd niferoedd y siaradwyr yng nghyfrifiad 1991), wedi’i ysgogi gan y mudiad dros addysg Gymraeg a hawliau iaith. Mae’r frwydr gyfreithlon dros hawliau’r Gymraeg yn rhan o’r modd y gallai dosbarth ac iaith fod wedi mynd ddwyffordd yn ddaearyddol yng Nghymru. Caerdydd yn erbyn y Fro Gymraeg, lle mae rhagdybiaethau am yr iaith a’i chyfansoddiad o ran dosbarth yn wahanol iawn
Mae pobl ifanc wedi bod yn gadael ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn eu miloedd i ddod i Gaerdydd, ac mae hynny’n dal i ddigwydd. Mae’r dynfa economaidd a diwylliannol wedi bod mor gryf nes i ddemograffeg y Fro Gymraeg gael ei heffeithio’n fawr. Ar noson allan yng Nghaernarfon er enghraifft, mae’n amlwg bod llai o bobl yn eu 20au. Mae llawer o bobl yr oedran hwn a fyddai’n draddodiadol wedi bod yn weithgar yn eu cymunedau wedi cael eu tynnu i fannau eraill. Mae’r newid hwn mewn demograffeg mor amlwg fel ei fod yn arwain at ostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd “traddodiadol” gwledig, Cymraeg eu hiaith.
Gallwn briodoli twf y dosbarth canol Cymraeg ei iaith fel sgil-gynnyrch y frwydr dros hawliau’r Gymraeg. Mae’r mudiad hwn wedi ymgyrchu’n ddiflino er mwyn atal a hyd yn oed gwrthdroi dirywiad yr iaith. Mae hyn wedi arwain at ffurfio nifer o sefydliadau megis S4C, a’r cwmnïau preifat sy’n cynhyrchu rhaglenni teledu, Comisiynydd y Gymraeg, Mentrau Iaith, nifer o gwmnïau cyfieithu yn cefnogi ymlyniad cyrff cyhoeddus i fesur y Gymraeg, y ddarpariaeth Gymraeg ar y BBC ac ati. Caerdydd yw’r brifddinas wleidyddol a gweinyddol, mae’r gwasanaeth sifil a’r Senedd yma, sydd hefyd yn cyfrannu at hyn, gan wneud y ddinas yn ganolbwynt y dosbarth canol Cymraeg.
Yn aml roedd y weledigaeth ar gyfer y sefydliadau hyn yn seiliedig ar gymuned ac yn ddemocrataidd, ond mewn gwirionedd, nid oedd gan yr ymgyrchwyr, yr oedd llawer ohonynt wedi gorweithio, fawr o ddylanwad ar ffurf y sefydliadau hyn yr oeddent yn ymladd drostynt. Llyncodd y patrwm neo-ryddfrydol yr enillion radical hyn a daethant yn rhan o’n celfi cyfalafol diweddar yn hytrach nag yn rhan o’r chwyldro dros hawliau a rhyddid yr oeddent yn deillio ohonynt.
Roedd yn anochel i’r sefydliadau newydd hyn ddod yn fodelau trefniadaeth gwladwriaethol a chyfalafol. Yn dilyn y rhesymeg neoryddfrydol hon, daeth canolbwynt y rhan fwyaf o’r sefydliadau hyn i’r brifddinas. Bu ymdrech fwy diweddar i newid hyn wrth i S4C symud ei phencadlys i Gaerfyrddin yn 2014, ond a oedd hyn ychydig yn rhy hwyr?
Collodd cymunedau gwledig Cymraeg y gorllewin a’r gogledd eu pobl ifanc Cymraeg eu hiaith wrth iddyn nhw heidio i Gaerdydd i chwilio am waith. Caeodd canolfannau diwydiannol y chwareli yn y 60au ac nid yw ffermio a thwristiaeth yn cynnig gwaith cyson, sy’n talu’n dda, drwy gydol y flwyddyn. Nid plant dosbarth canol yn unig oedd hyn chwaith – dwi’n nabod digon o bobl oedd yn crafu byw yng ngogledd Cymru ond a ddaeth o hyd i ffordd o symud i Gaerdydd, lle mae cael dau ben llinyn ynghyd yn teimlo ychydig yn haws. Mae swyddi ar gael yn haws drwy gydol y flwyddyn, mae gwasanaethau’n fwy hygyrch, ac mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi datblygu llawer mwy.
Mae’n amlwg nad ffurfio dosbarth elitaidd Cymraeg oedd y bwriad erioed. Yn hanesyddol, mae Cymdeithas yr Iaith yn sefydliad radical ar lawr gwlad (edrychwch ar eu Maniffestos hanesyddol) ac yn gyson ar flaen y gad yn y frwydr i amddiffyn cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith.
Mae gan siaradwyr Cymraeg faterion cymdeithasol a seicolegol ynghylch parchusrwydd. Mae hwn yn amlygiad unigryw o’r rhaniad gweithgynhyrchu rhwng y dosbarth gweithiol parchus / dosbarth canol uchelgeisiol a’r “is-ddosbarth” heb wreiddiau (dosbarth gweithiol di-waith tymor hir/methu gweithio). Mae awduron fel D. Hunter, Kathi Weeks ac Owen Jones wedi archwilio’r syniadau hyn yn helaeth yn eu llyfrau.
Mae gan hyn rywbeth i’w wneud efallai â moesoli anghydffurfiol, ond hefyd â digwyddiad a adawodd graith ddofn yn eneidiau’r Cymry sy’n dyddio’n ôl i 1847 – Brad y Llyfrau Gleision. Mae hyn yn cyfeirio at adroddiad a gynhaliwyd gan y wladwriaeth Brydeinig i ymchwilio i pam roedd aflonyddwch yng Nghymru yn dilyn cyfres o derfysgoedd dan arweiniad gweithwyr a thlodion. Daeth canlyniadau’r adroddiad i’r casgliad fod y Cymry yn llac eu moesau – a bod y Gymraeg yn ffactor o bwys yn hyn o beth.
Dywedwyd hefyd yn yr adroddiad bod y “Gymraeg yn … rhwystr amryfal i gynnydd … masnachol y bobl”. Wedi hynny, cyflwynodd Llywodraeth Prydain Ddeddf Addysg 1870 a oedd yn gwneud Saesneg yn orfodol mewn ysgolion. Arweiniodd hyn at y “Welsh Not” a oedd fel mater o drefn yn rhoi cosb gorfforol i blant oedd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol, ac yn eu hannog i achwyn ar ei gilydd i osgoi cael eu curo. Arweiniodd hyn yn gyflym at ddirywiad yn nifer y siaradwyr uniaith Gymraeg, ac roedd yn enghraifft grotésg o ymgais i chwalu undod cymunedol a gorfodi rhwyg a rheolaeth.
Mewn llenyddiaeth Gymraeg, mae llawer o bethau’n cael eu hesbonio fel adwaith i’r “brad” hwn. Gwelwn yn aml mewn llenyddiaeth Gymraeg fwlch rhwng y tlodion a gaiff eu cyfleu fel pobl uwch yn ddiwylliannol ac yn foesol – y tlawd haeddiannol; mewn cyferbyniad â’r rhai sy’n yfed alcohol, yn gamblo, yn curo eu gwragedd, ac yn anfoesol yn gyffredinol. Nid yw hon yn ffenomen fodern ond mae wedi bod yn rhan o dacteg rhannu a rheoli’r sefydliad ers amser maith.
Mae crynhoad ffenomen y siaradwr Cymraeg dosbarth canol yng Nghaerdydd yn creu rhith o siaradwyr Cymraeg fel pobl elitaidd dosbarth canol, homogenaidd. Mae hyn yn dileu profiad pobl ddosbarth gweithiol Cymraeg eu hiaith.
Mae yna anrhefn ddaearyddol ar waith. Mae’r garfan o siaradwyr Cymraeg sydd wedi aros yn y cymunedau gwledig sy’n dirywio’n economaidd yn wahanol iawn i’r rhai a adawodd. Tra bod y genhedlaeth flaenorol efallai wedi gweithio mewn chwareli neu ar ffermydd, mae eu plant yng Nghaerdydd yn symud i fyny’n gyflym.
Mae Owen Jones yn ysgrifennu’n fanwl yn Chavs am y broses hon o ddinistrio diwydiant, a ddinistriodd yn ei dro bŵer y dosbarth gweithiol a’r diwylliant cyfunol o undod a oedd wedi’i gadarnhau yn yr undebau llafur a’r cymunedau a oedd yn seiliedig ar ddiwydiannau trwm. Datblygodd hyn naratif a oedd yn bodoli eisoes o dlodion haeddiannol ac anhaeddiannol a oedd â’i wreiddiau yn oes Fictoria – “Deddf y Tlodion” a sefydlodd y Tlotai. Cafodd y naratif cyhoeddus o feio’r dioddefwr ei annog ymhellach gan Thatcher – a oedd yn hyrwyddo’r idioleg unigolyddiaeth rhemp, ac ar ôl cau’r pyllau glo roedd pobl naill ai’n mynd ar y dôl neu’n sâl. Yr amodau economaidd anobeithiol hyn mewn cymunedau glofaol oedd y catalydd perffaith ar gyfer dibyniaeth a phroblemau iechyd meddwl i’w thrigolion. Tynnwyd eu grym a’u statws economaidd a dosbarth oddi arnynt dros nos wrth i’r pyllau gau.
Mae pobl leol dosbarth gweithiol wedi gwneud y pwynt bod Cymry Cymraeg yn dod yn “ormeswr” yng Nghaerdydd. Mae siaradwyr Cymraeg yn cymryd rhan yn y broses wrthdro o’r hyn sy’n digwydd yn eu cymunedau gwledig eu hunain. Mae tai haf, busnesau Airbnb a’r mathau o bobl sy’n “dianc i’r wlad”o Loegr yn boneddigeiddio cymunedau’r Cymry Cymraeg, tra mae tynfa swyddi Cymraeg a chyffro bywyd y ddinas yn aml yn denu rhai o unigolion mwyaf breintiedig yr ardaloedd hyn i Gaerdydd lle maen nhw yn eu tro yn gwneud yr ardal leol yn anfforddiadwy i’r rhai gafodd eu magu yn y ddinas. Er cymaint yr wyf yn cytuno bod hyn yn anghywir, mae hwn yn fater systemig nad oes ganddo atebion hawdd ac a fyddai’n gofyn am newidiadau gwleidyddol ac economaidd radical.
Parasitiaid yw landlordiaid Airbnb a pherchnogion tai haf a dwi’n credu nad oes ganddyn nhw’r hawl i ddefnyddio cartrefi fel asedau neu at ddiben hamdden – serch hynny nid ydw i’n siŵr a yw apelio at euogrwydd gwyn unigolion a chodi cywilydd ar bobl er mwyn iddynt beidio â symud i lefydd maen nhw’n cael eu tynnu iddynt yn effeithiol yn economaidd. Mae gan bobl hawl i herio boneddigeiddio – ond nid yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon. Mae angen atebion systemig ar faterion systemig.
Rwy’n cael trafferth deall fy hunaniaeth fel siaradwr Cymraeg dosbarth gweithiol gyda phrofiadau bywyd isddosbarth sydd wedi’u stigmateiddio. Mae llenyddiaeth a diwylliant Cymru yn adrodd stori am gymuned glos, gydag elfen o ymddiriedaeth oherwydd ein bod yn lleiafrif mewn byd mawr wedi’n llethu gan ddylanwadau Eingl-Americanaidd. Fel yng nghân enwog Dafydd Iwan Yma o Hyd rydyn ni wedi goroesi’r cyfan ac rydyn ni’n dal i sefyll gyda’n gilydd fel pobl.
Yn erthygl hynod ddiddorol Paul O’Leary, caiff y termCrachach ei ystyried – mae’r ffaith bod ystyr y gair hwn wedi “newid” dros y ganrif ddiwethaf yn tystio i’r newid yng ngwneuthuriad y dosbarth o siaradwyr Cymraeg. Ar un adeg, roedd yn air oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bradwyr diwylliannol (a gwleidyddol). Mae bellach yn cyfleu pobl elitaidd lleiafrifol canfyddedig a chanddynt ormod o ddylanwad ar lywodraeth a chymdeithas sifil.
Dwi wedi bod mewn gigs lle byddai’r prif fand, Derwyddon Dr Gonzo – yn canu cân gyda’r frawddeg “Ti’n f*ycin afiach, chaviach”. Ond nid yw hyn yn ffenomen gan Gymry dosbarth canol yn unig – roedd yn ddiddorol darllen yn llyfr Owen Jones Chavs sut mae cân y Kaiser Chiefs “I Predict a Riot”, o’r un cyfnod, yn cynnwys geiriau echrydus y gellir ond eu disgrifio fel casineb dosbarth:
“I tried to get to my taxi, The man in a tracksuit attacks me, He said that he saw it before me, And wants to get things a bit gory. Girls scrabble ’round with no clothes on, To borrow a pound for a condom, If it wasn’t for chip fat they’d be frozen…”
Tua’r adeg yma tra roeddwn yn y brifysgol roedd yna draddodiad hynod wahaniaethol o glwb yfed i siaradwyr Cymraeg. Roedd y Gym Gym (y Gymdeithas Gymraeg) yn cynnal nosweithiau lle byddai pobl yn gwisgo fel chavs. Mewn geiriau eraill roedden nhw’n gorwneud y dillad y byddai fy nheulu a ffrindiau yn eu gwisgo yn ein bywyd bob dydd. Fe wnaeth i mi deimlo’n anghyfforddus ar y pryd, er na allwn bwyntio bys pam.
Eto yn ôl Chavs Owen Jones, roedd hyn hefyd yn digwydd ym mhrifysgolion elitaidd Lloegr tua’r un amser.
Mae’n ymddangos i’r agwedd hon ddod yn gyffredin ymhlith y dosbarth canol ledled y DU yn ystod cyfnod pan oedd y prif weinidog ar y pryd, David Cameron yn sôn dro ar ôl tro yn y cyfryngau am “Broken Britain”. Roedd hwn yn fyth yr oedd ef yn gyfrifol am ei anfarwoli ac yr oedd ei blaid yn elwa ohono. Cyfrannodd ei ragflaenwyr yn y blaid Lafur a Thatcheriaeth cyn hynny at y myth hwn, gan roi’r bai am ein gwendidau cymdeithasol ar yr unigolion o gymunedau a gafodd eu dinistrio gan ddiweithdra a ddaeth yn sgil dinistr y diwydiant trwm. Gwelwyd enghraifft o hyn tra’r oedd John Redwood yn ysgrifennydd Cymru yn y 1990au pan greodd banig moesol am famau sengl yn ardal Llaneirwg, Caerdydd.
Nid dim ond y Cymry Cymraeg oedd yn cyfleu’r dirmyg a’r casineb yma at y dosbarth gweithiol, ac nid dim ond i’r Gymraeg oedd yn broblem. Fodd bynnag, ac ystyried bod siaradwyr Cymraeg yn aml yn pleidleisio dros asgell chwith Plaid Cymru, a’n bod yn aml yn gweld ein hunain fel lleiafrif gorthrymedig, mae agweddau dosbarth-ffobig symudedd cymdeithasol ymhlith y dosbarth canol Cymraeg dim ond un genhedlaeth yn ddiweddarach yn ymddangos yn gyffredin.
Un enghraifft gywilyddus o Gymry Cymraeg yn ystyried eu bod dan orthrwm yw cân bync Gymraeg o’r 1980au o’r enw “N**** Cymraeg” gan y band poblogaidd ‘Y Trwynau Coch’. Mae’r gân hon yn gwneud cymhariaeth grotésg a chwerthinllyd rhwng siaradwyr Cymraeg â’r gormes y mae pobl dduon yn ei wynebu, gan feddiannu sarhad nad oedd ganddyn nhw erioed yr hawl i’w “gymryd yn ôl”. Yn anffodus, mae’r cymariaethau hiliol ac idiotig amlwg hyn yn symptomau o agweddau yn gyffredinol.
Mae meritocratiaeth a dyhead unigol yn ddwy o brif elfennau ideoleg neoryddfrydol gyfoes. Maen nhw’n hybu’r syniad y gall unrhyw unigolyn sy’n gweithio’n ddigon caled fod yn llwyddiannus a chael gwared ar yr hyn y mae Llafur yn ei alw ar hyn o bryd yn “class ceiling”. Mae’n ymddangos nad oes unrhyw ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r syniad na all pawb fod yn Brif Swyddog Gweithredol neu’n gyfreithiwr (ac nad yw pawb yn dymuno hynny). Yn sicr mae’r egwyddor o frwydro ar y cyd i wella sefyllfa’r dosbarth gweithiol cyfan, ni waeth pa swydd y maent yn ei gwneud, wedi’i gwrthod.
Yn yr un modd o fy mhrofiad ymarferol i, y cyfan y gallaf ei gasglu yw bod pris bod yn rhan o’r dosbarth canol Cymraeg ei iaith yn rhoi bwlch eang rhyngoch chi ac unrhyw un a allai eich llusgo i lawr yr ysgol gymdeithasol. Os nad ydych chi’n addas, rydych chi allan o’r clwb.
Pam mai fel hyn mae pethau? Rwy’n teimlo bod cywilydd yn rhan fawr o’r rheswm. O Frad y Llyfrau Gleision, a’r diwylliant y bu’n gymorth i’w greu, ochr yn ochr ag anghydffurfiaeth, mae cywilydd wastad wedi bod yn amlwg yn niwylliant Cymru. Mae’r cywilydd o golli ein hiaith i’r fath raddau, a’n cyfraniad ni’n hunain at hynny, wedi gadael craith ar enaid y Cymry Cymraeg.
Yn union fel yn oes Fictoria, tynnir llinell rhwng y tlawd haeddiannol ac anhaeddiannol, y parchus a’r cywilyddus. Mae Salem, yn ddarn eiconig o gelf Gymreig, lle mae gwraig yn cyrraedd yn hwyr i’r capel mewn siôl hardd sydd, o edrych yn agosach, yn edrych fel y diafol yn sbecian. Mae cywilydd patriarchaidd a rhywedd a dosbarth wrth graidd y llun hwn. Mae’n awgrymu y dylem i gyd gael mwy o gywilydd, ac mai bod yn falch o’i siôl yw pechod pennaf yr hen wraig.
Mae’r tensiwn rhwng fy nghefndir fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf a menyw dosbarth gweithiol gyda phrofiad bywyd is-ddosbarth yn teimlo fel rhywbeth y mae angen i mi ei drafod yn barhaus i ddeall fy mywyd. Mae amodau dosbarth ein bywydau yn pennu’n llwyr ein gallu i weithredu a chyrraedd ein potensial mewn unrhyw beth rydyn ni’n ceisio ei wneud – rwy’n archwilio hyn yn y blog “Class: It’s not what you think”.