DRAMÂU A’R BROSES YN YSTOD COVID-19

Mae cymaint wedi’i ysgrifennu am y cynnyrch, yr economi, yr arian y mae theatr yn ei wneud – fel fy mod i eisiau ysgrifennu rhywbeth am y broses.

Mae Common Wealth yn mynd i gynnal sesiwn ymchwil a datblygu yr wythnos nesaf a dod â thîm o 10 perfformiwr a phobl greadigol at ei gilydd. Mae ymchwil a datblygu yn gam o archwilio, actio a darganfod, ac yn aml mae llawer yn cael ei daflu o’r neilltu. Ni fyddai’n cael ei ystyried yn ‘hanfodol’ ond mae pob unigolyn creadigol yn gwybod pa mor hanfodol yw’r math hwnnw o amser drama ac amser artistig.

Rydym yn cynhyrchu ac yn ymarfer ein drama newydd Peaceophobia, drama sy’n cael ei pherfformio gan yrwyr o’r Bradford Modified Car Club fel ymateb i’r cynnydd cynyddol mewn Islamoffobia ac un o ddyheadau’r Speakers Corner Collective, cyfuniad o fenywod ifanc, yn gyntaf fel ymgyrch weithredu cyn i ni ragweld sut y gallai ddod yn ddarn theatr a dechrau gweithio gyda Fuel, ein cyd-gynhyrchwyr. Rydyn ni wedi cael un sesiwn ymchwil a datblygu hynod ddefnyddiol gyda’r awdur Zia Ahmed a’r 3 pherfformiwr yn gynnar ym mis Mawrth, 10 diwrnod cyn y cyfyngiadau symud.

Mae cynhyrchu theatr yn broses sensitif, mae bob amser yn daith. Dyna pam y gwnaethom benderfynu bwrw ymlaen â’n gwaith ymchwil a datblygu ddiwedd mis Mehefin. Doedden ni ddim eisiau agor cymaint ym mis Mawrth ac yna peidio â mynd yn ddyfnach ac adeiladu ar hynny. Y bwriad o’r cychwyn gyda’r sesiwn ymchwil a datblygu nesaf oedd ei bod yn un mwy ymarferol a thechnegol – bydd Peaceophobia yn cael ei berfformio mewn maes parcio a bydd y cyfansoddwr Wojtek Rusin yn creu ffyrdd o gyfleu’r ceir yn siarad â’i gilydd, sut mae’r gerddoriaeth a chwaraeir o geir yn dod yn rhyw fath o gerflun sain, bydd y dylunydd Rosie Elnile yn chwarae gyda syniadau am y set ac eiliadau gweledol, y syniad bod y car a’r corff yn un organeb. Bydd y sesiwn ymchwil a datblygu yn dechrau dangos i bob un ohonom sut mae’r sgyrsiau dwfn o fis Mawrth ynghylch pam mae’r perfformwyr yn hoffi gyrru’n gyflym, am yr adferiad ar ôl Terfysgoedd Bradford, y profiad o fyw ochr yn ochr ag 20 mlynedd o ‘ryfel ar derfysgaeth’ o fod yn blentyn bach i fod yn eich ugeiniau, ynglŷn â sut mae glanhau car am dair wythnos yn dod yn fath o therapi – sut y gall hyn i gyd ddod yn sioe theatr. Mae angen amser i feddwl ar y theatr a dyna beth fydd y sesiynau ymchwil a datblygu a’r ymarferion pellach ym mis Medi yn ei roi i ni – rydym wedi gohirio’r sioe tan 2021, felly nid yw’r pwysau amser yno ond mae cael yr amser hwn i actio, mynd i ffwrdd a myfyrio, dod yn ôl at ein gilydd ac adeiladu – yn teimlo’n hollbwysig fel proses wneud.

Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn Common Wealth yn tueddu i gynnwys pobl nad ydynt yn berfformwyr wedi’u hyfforddi ac adeiladu theatr wleidyddol gyda phobl gan ddefnyddio eu profiadau go iawn. Buom yn siarad â David Jubb yn ddiweddar a ddywedodd ei fod wedi gweld rhai o’n sioeau ac wedi gweld pa mor bwerus oedd y berthynas rhwng y cast a’r profiad yr oeddent wedi’i gael. Y peth yw, byddwn yn dweud bod y profiad pwerus hwnnw y mae pobl yn ei gael drwy’r broses o wneud theatr yn cael ei greu p’un ai a ydych yn grŵp o actorion proffesiynol neu’n bobl sy’n ei wneud am y tro cyntaf. Nid bob amser, ond mae’r rhan fwyaf o berfformwyr wedi profi’r hud hwnnw yn yr ystafell ymarfer lle mae bondiau ac ymddiriedaeth yn cael eu llunio ac mae’r grŵp yn mynd ar daith gyda’i gilydd, sy’n gwbl wahanol i fywyd normal – taith chwareus, feddylgar, fynegiannol. Mae llawer o actorion a phobl greadigol yn aros yn y diwydiant ansicr hwn oherwydd yr hud hwnnw. Ac mae’r hud hwnnw’n debyg o ran profiad i actorion proffesiynol a phobl sy’n newydd i’r theatr fel ei gilydd. Petai mwy o bobl/cynulleidfaoedd yn cael profi hud y broses hon yn hytrach na gwylio’r cynnyrch gorffenedig, byddai mwy o’r cyhoedd yn deall sut a pham mae theatr yn bwysig y tu hwnt i refeniw a chyfalafiaeth. Fel y gofynnodd David i ni, beth yw cymhorthdal cyhoeddus? Defnyddio celf a theatr fel profiad a mynegiant neu fwydo’r modelau masnachol (byddwn yn archwilio’r syniadau hyn ymhellach gyda David ar bodlediad, ar y ffordd yn fuan!),

Mae ymarfer ar adeg Covid-19 – dod â 10 o bobl at ei gilydd mewn lleoliad ymarfer, yn cyflwyno llawer o heriau. . Mae ein rheolwr cynhyrchu a’r tîm o’n cyd-gynhyrchwyr o Fuel wedi gwneud gwaith gwych o baratoi Asesiad Risg sydd mor drylwyr ac sy’n meddwl am bopeth, o sut y gallwn fynd i’r toiled yn ddiogel i ble a sut rydyn ni’n bwyta cinio, sut y gallwn baratoi’r ystafell ymarfer i gadw pellter.

Mae’n mynd i fod yn sesiwn ymchwil a datblygu cwbl wahanol i’r ffordd y byddem fel arfer yn gweithio, sydd fel y gŵyr pawb sy’n gweithio ym myd y theatrau fel arfer yn ymwneud ag agosrwydd a hwyl. Bob dydd rydyn ni’n mynd i wneud archwiliad iechyd – ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl. . I’r rhan fwyaf o’r grŵp, dyma fydd eu tro cyntaf mewn grŵp o bobl ers y cyfyngiadau symud ac rydyn ni am fod yn ymwybodol bob dydd o’r effaith y gallai hynny ei gael ar bryder pobl a sut y gallwn ni, fel grŵp, barchu gwahanol berthnasoedd ein gilydd â Covid-19 a faint mae’n effeithio ar bob unigolyn.

Fel arfer, byddai gennym bob amser sesiwn i rannu adborth gyda llawer o bobl sydd â chysylltiad â’r pwnc dan sylw, gweithredwyr, teulu, gyrwyr. Rydyn ni’n mynd i ffilmio rhyw fath o uchafbwyntiau’r sesiynau ymchwil a datblygu y byddwn yn eu dangos ar Zoom ac yna’n cynnal sesiwn Holi ac Ateb (ymunwch â ni ar gyfer hyn os gallwch) – mae hyn yn ein galluogi i dynnu rhywfaint o bwysau oddi ar ein hysgwyddau – fel arfer byddai hyn yn digwydd ar ddiwedd wythnos ddwys pan fydd pawb yn teimlo ychydig yn fregus. Awgrymodd Madeyah o Speakers Corner, oherwydd ei fod yn digwydd ar-lein, y gallwn gynnal y sesiwn adborth rhannu ymchwil a datblygu hon yr wythnos wedyn pan fydd y tîm i gyd wedi cael ychydig o seibiant – dyma’r math o bethau sy’n fendith yn y pen draw o gymryd rhan mewn proses ar hyn o bryd.

Rydyn ni’n mynd i weld beth sy’n digwydd, faint y gallwn barhau i’w ddarganfod a’i wneud wrth gadw pellter cymdeithasol, os gallwn adeiladu ar hud y cyfan neu os nad yw’n gweithio o gwbl. Fel pobl greadigol; y perfformwyr, Speakers Corner, y tîm, rwy’n gwybod ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at adeiladu rhywbeth o ddim byd, arbrofi a gweld beth sy’n digwydd, rhoi cynnig ar bethau a gadael iddyn nhw fynd, mynegi sut rydyn ni’n cyfleu’r islamoffobia cynyddol yn y byd. Os yw gwaith yn ymwneud â sicrhau pwrpas yna mae hyn wir yn teimlo fel gwaith – hyd yn oed os yw’n golygu chwarae (;