My Real Feeling, by Hayat Mohamed

Yn Common/Wealth rydyn ni’n ffodus i weithio gydag ystod eang o bobl yng Nghaerdydd a Bradford, ac rydyn ni’n elwa’n fawr o’u mewnwelediadau a’u safbwyntiau. Mae Hayat Mohamed yn un o Aelodau ein Seinfwrdd ac yn un o’r cenhadon Swdanaidd yng Nghaerdydd. Mae Hayat wedi ysgrifennu blog cignoeth, pwerus am y gwrthdaro yn Sudan, o’r enw My Real Feeling. Mae Hayat yn gynorthwyydd addysgu yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain ac yn gweithio gyda’r Together Trust a’r Gymuned Swdanaidd yn Nwyrain Caerdydd, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc a mynd i’r afael ag anghenion y gymuned.

Yn 2023 dechreuodd rhyfel cartref yn Sudan rhwng byddin Sudan a grŵp parafilwrol o’r enw’r RSF. Mae mwy na 150,000 o bobl wedi marw yn y gwrthdaro, ac mae 12 miliwn wedi gadael eu cartrefi. Mae newyn a chlefydau fel colera wedi lledu yn sgil y gwrthdaro. Credir bod yr RSF yn cyflawni troseddau rhyfel, fel trais rhywiol, a hil-laddiad yn erbyn pobl Masalit a chymunedau eraill nad ydynt yn rhai Arabaidd. 

Mae Amnesty International wedi dweud yn ddiweddar fod  yr RSF yn defnyddio offer milwrol gan y DU. RSF yw’r grŵp sy’n cael ei gyhuddo o hil-laddiad a throseddau rhyfel yn Sudan. Mae’n hanfodol nad ydym yn anwybyddu’r hyn sy’n digwydd yn Sudan, a’n bod yn cefnogi aelodau Swdanaidd ein cymuned. 

Dyma beth ysgrifennodd Hayat am ei phrofiad personol hi:

Ers 15 Ebrill 2023, rydw i wedi bod yn ceisio dal ati – aros yn gryf, yn gadarn, ac yn “normal,” fel mae pobl wedi fy adnabod erioed.

Fi yw’r fenyw honno sy’n cael ei hadnabod fel yr un gref: yr un sy’n gallu codi uwchlaw ei phoen ei hun i gario eraill; yr un sy’n gofalu am glwyfau pawb arall hyd yn oed tra bod ei chlwyfau ei hun yn dal i waedu.

Fi oedd y fenyw a frwydrodd dros ei phobl, a frwydrodd dros ei gwlad — yr un oedd yn cael ei galw’n ymladdwr, er fy mod i hefyd yn feddal, yn fregus, ac yn boenus o ddynol.

Ond ers bron i dair blynedd bellach, mae fy mhobl — fy mhobl i gyd — wedi bod yn rhedeg o le i le, yn chwilio’n daer am ddiogelwch. Mae fy nheulu agos wedi gorfod codi eu gwreiddiau dro ar ôl tro, gan golli popeth: eu cartrefi, eu cyfoeth, eu sefydlogrwydd, a hyd yn oed eu hiechyd. Mae ofn wedi eu bwyta nhw’n fyw. Mae ansefydlogrwydd wedi eu llethu. Mae hiraeth am adref wedi eu gadael nhw’n wag. Mae diffyg gofal iechyd wedi gwneud i bob salwch bach deimlo fel dedfryd marwolaeth.

Mae mis wedi mynd heibio bellach ers y tro diwethaf i mi gael cysylltiad arferol â fy nheulu.

Rydw i’n dal i anfon negeseuon atynt, ac maen nhw’n ateb – ond yn fyr yn unig, mewn ffordd heb swnio’n debyg iddyn nhw o gwbl. Yna, yn sydyn, fe stopiodd galwadau WhatsApp weithio. Dim cysylltiad. Dim lleisiau. Dim ond distawrwydd.

Ac yn y distawrwydd hwnnw, dechreuodd fy ofn dyfu.

Roeddwn i’n teimlo bod rhywbeth o’i le.

Ffoniais fy nghefnder, yn chwilio am y gwir.
Cadarnhaodd ei eiriau’r hyn yr oeddwn i eisoes yn ei deimlo yn fy nghalon: mae’r pentref cyfan, gan gynnwys fy nheulu, yn byw mewn ofn. Dydyn nhw ddim eisiau i mi wybod pa mor ddrwg yw pethau. Maen nhw’n ceisio fy amddiffyn i rhag eu hofnau nhw.

Yna dywedodd rywbeth wrthyf a wnaeth i ias lithro i lawr fy nghefn: daeth tair menyw anghyfarwydd i’r pentref yn gofyn ble mae fy nheulu’n byw.

Sut fath o hunllef yw hyn?

Yn yr eiliad honno, roeddwn i’n teimlo fel petawn i’n colli mhen – fel pe bai’r ddaear wedi diflannu oddi tanaf. Doeddwn i ddim yn gallu anadlu. Doeddwn i ddim yn gallu meddwl. Y cyfan y gallwn i ei deimlo oedd yr arswyd o golli fy nheulu cyfan… ar ôl colli fy mam yn 2024, ac eraill cyn ac ar ôl i mi adael cartref.

Ac yna daeth yr euogrwydd.

Oeddwn i’n hunanol am adael?
A wnes i achub fy hun a’u gadael nhw mewn perygl?
A oedd fy llais gwleidyddol i, fy marn, fy mrwydr dros gyfiawnder yn eu rhoi nhw mewn perygl?

Mae’n beth creulon i feddwl amdano, ond mae’n byw y tu mewn i mi:
Ai fi yw’r rheswm eu bod nhw’n cael eu targedu?
Ai fi yw’r un sydd wedi methu eu hamddiffyn?

Weithiau mae’r boen yn sibrwd:

“Beth yw ystyr byw’n ddiogel, yn saff, ar dy ben dy hun… pan allai dy deulu cyfan gael ei ladd?”

Mae’r hyn sy’n digwydd gartref yn fwy na rhyfel. Mae’n greulondeb heb derfyn.

Mae pobl yn cael eu targedu, eu tawelu, eu dileu — dim ond am fodoli, am siarad, am fod yn gysylltiedig ag achos, cred, neu lais. Maen nhw wedi cael gwared ar bob elfen o ddyngarwch.

A bellach, rwy’n ofni bod yr un bobl yn fy ystyried i fel rhywun sydd angen “teimlo’r boen”, yn rhywun maen nhw eisiau ei gyrraedd drwy fy nheulu.

Mae meddwl am yr hyn y gallen nhw ei wneud yn gwneud i’m corff ysgwyd.

Does dim y gallaf ei wneud i helpu.
Rydw i’n bell i ffwrdd.
Dydw i ddim yn gwybod beth sydd gan yfory i’w gynnig.
Rydw i’n gwybod nad oes gan fy nheulu unrhyw ffordd o ddianc, dim lle diogel i redeg iddo.
Rydw i’n gwybod pa mor ffyrnig yw’r grwpiau arfog … a pha mor fregus yw fy nheulu.

A dydw i ddim yn gwybod sut i faddau i mi fy hun.

Sut alla i barhau i fyw bob dydd mewn gwlad ddiogel a heddychlon tra bod fy nheulu mewn perygl?

Sut alla i fwynhau unrhyw beth tra eu bod nhw’n byw mewn ofn?

Beth allwn ni ei wneud nawr?

  • Mae Elbashir Idris yn ymgyrchydd hawliau dynol o Sudan sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n ymroddedig i ddogfennu troseddau a throseddau rhyfel, gan ddefnyddio gwybodaeth ffynhonnell agored. Edrychwch ar ei newyddiaduraeth driwyr cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy’n digwydd yn El Fasher, Sudan, ar hyn o bryd.
  • Mae Cardiff4Sudan yn gyfrif Instagram ar gyfer y gymuned Swdanaidd yng Nghaerdydd. Dilynwch nhw i gael gwybod am brotestiadau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y ddinas. 
  • Mae’r elusen genedlaethol Islamic Relief yn cynnal ymgyrch o’r enw Keep Eyes On Sudan. Mae’r ymgyrch hon yn cynnwys adnoddau, digwyddiadau, a digwyddiadau codi arian ar gyfer eu gwaith ar lawr gwlad.