Camilla Brueton
Cynhyrchydd
Mae Camilla yn ymuno â Common Wealth gyda chefndir mewn cynhyrchu prosiectau creadigol ar draws y sectorau celfyddydol, treftadaeth, elusennau, awdurdodau lleol ac addysg uwch. Mae’n dod ag amrywiaeth o brofiad o reoli prosiectau ac angerdd dros weithio gyda phobl i wneud i bethau dychmygus ddigwydd.
A hithau hefyd yn artist ac yn awdur gweledol, mae Camilla yn chwilfrydig am leoliadau; sut mae emosiwn a dyhead yn cael eu hymgorffori gan dirwedd a phensaernïaeth, a sut rydyn ni’n dod ar draws hyn yn ein bywydau bob dydd. Yn wreiddiol o Lundain, Caerdydd yw ei chartref erbyn hyn.