Chantal Williams
Cynhyrchydd Cymunedol
Mae taith Chantal drwy’r prosiect hip hop cyfunol ‘The Underdogs’ wedi ei harwain at gyd-sefydlu Cymdeithas Dawnsio Stryd Cymru a llywyddu dros sector Gymreig y Sefydliad Dawns Rhyngwladol. Roedd gweithio a llunio partneriaeth ryngwladol yn ymgorffori angerdd dwfn am gyfle a phŵer cyfnewid; mae pwysigrwydd dilyniant yn amlwg drwy ei gwaith.
Mae’n gynhyrchydd i Common Wealth ar y Rhwydwaith Teithio Moving Roots ers 2020. Roedd Chantal yn rhan o raglen Hadu’r Dyfodol Cyngor Celfyddydau Cymru 2019, yn un o Gynhyrchwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru 2020 ac mae’n aelod o dîm cynhyrchu Common Wealth, rhan o arddangosfa Cymru yng Ngŵyl Fringe Caeredin 2022.