Emma Robinson
Cyd-gadeirydd
Emma yw’r Rheolwr Datblygu ar gyfer YHA (Cymdeithas Hostelau Ieuenctid) Cymru ac mae’n byw yn y Sblot, Caerdydd.
Mae Emma wedi gweithio fel Rheolwr Portffolio’r DU yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol; wedi arwain rhaglenni creadigol Age Cymru, Gŵyl y Gwanwyn a phrosiect cARTefu – prosiect celfyddydau mewn cartrefi gofal; mae wedi gweithio fel Rheolwr Teithiau yn Theatr Hijinx ac fel gwirfoddolwr / perfformiwr gyda’r grŵp cymunedol Odyssey Theatre.
Mae ganddi ddiddordeb mewn perfformio a phobl a’r hyn sy’n digwydd pan ddaw’r ddau at ei gilydd.
Yn wreiddiol o Swydd Lincoln, symudodd Emma i Gymru i astudio Perfformio (a chafodd ei haddysg gan yr Athro Mike Pearson, y mae colled fawr ar ei ôl), a syrthiodd mewn cariad â Chymru ac nid yw wedi gadael.