Who we are

Fahadi Muluku

Cyd-gadeirydd

Mae Fahadi, brodor o Lanrhymni, yn teimlo’n angerddol am fynegi lleisiau pobl ifanc dosbarth gweithiol yng Nghymru, gan ddefnyddio’r celfyddydau creadigol fel arf i greu newid diriaethol cadarnhaol. 

 

Dechreuodd Fahadi weithio yn y theatr yn 2021 fel Cyfarwyddwr Cyswllt, gan weithio i National Theatre Wales a Common Wealth Theatre o dan Gymrodoriaeth Weston Jerwood am 12 mis. Yn ystod ei gyfnod gyda’r ddau gwmni theatr, cefnogodd Fahadi nifer o brosiectau creadigol a chynyrchiadau fel Ysgol Haf Radical Grime a Kidstown, gan ddysgu am theatr ac wedi’i chyd-greu ac ymgysylltu cymunedol cadarnhaol.

 

Mae Fahadi hefyd wedi helpu i wreiddio lleisiau ieuenctid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru pan gafodd ei gyflogi i greu Cydweithfa Ieuenctid Canolfan Mileniwm Cymru, bwrdd cynghori pobl ifanc sy’n eiriol dros bobl ifanc yng nghanolfan gelfyddydau fwyaf Cymru a’r cyffiniau. Fel gweithiwr llawrydd, mae Fahadi hefyd wedi cael cyfle i gyfarwyddo a chynhyrchu ei gynhyrchiad ei hun ar gynaliadwyedd amgylcheddol gyda Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn haf 2023. 

 

Mae wastad wedi bod â diddordeb yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ac mae wedi cyflwyno sawl gweithdy a darlith ar hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cwblhaodd Fahadi hefyd radd yn y gyfraith o Brifysgol Caerwysg yn 2024, ac mae’n gobeithio defnyddio’r cyfan y mae wedi’i ddysgu i barhau i gefnogi eraill. 

 

Mae Fahadi wedi dychwelyd i Common Wealth fel Ymddiriedolwr ac mae’n gobeithio cael effaith gadarnhaol ar waith y cwmni yn y blynyddoedd i ddod.