Who we are

A photographic headshot of a man standing against a brick wall, wearing an orange jumper. He's smiling,

Gavin Porter

Ffilmiau/rhaglenni dogfen/theatr

Mae Gavin Porter yn gynhyrchydd ffilmiau/rhaglenni dogfen/theatr o Butetown yng Nghaerdydd. Mae Gavin yn Gymrawd Clore ac wedi ennill BAFTA Cymru. Yn fwyaf diweddar cyfarwyddodd Gavin ddarn theatr o’r enw Circle Of Fifths sy’n archwilio’r cysylltiad rhwng galar, colled, cerddoriaeth, ac sy’n dathlu traddodiad angladdau Butetown. Bu Circle Of Fifths ar daith o amgylch Cymru a Llundain.

Mae Gavin wedi cyfarwyddo, cynhyrchu a gweithio ar raglenni dogfen ar gyfer y teledu fel Glenn Webbe – Rugby Rebel, Steve Robinson – Cinderella Man, Black Welsh Music, A Killing In Tiger Bay. Cyn hynny, creodd Gavin brosiect theatr cyfranogol o’r enw The Big Democracy Project gyda National Theatre Wales yn gweithio ledled Cymru, gan orffen mewn ‘gŵyl ddemocratiaeth’ yn y Senedd.