Lisa Bradford
Aelod o’r Bwrdd Seinio
Fy enw i yw Lisa, rwy’n fam i 2 ferch wych, egnïol. Rwy’n mwynhau bod yn rhan weithgar o’r gymuned, yn wirfoddolwr yn y ganolfan gymunedol leol a’r Homestart lleol, yn rhan o Fwrdd Seinio Common Wealth ac yn fam bêl-droed angerddol. Rwy’n gwerthfawrogi’r gymuned o’m cwmpas ar ôl symud yma o dros y ffin. Rwyf wedi cael croeso cynnes ac mae pawb bob amser wedi bod yn hynod gyfeillgar. Rwy’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’r ardal a gallu cynnig cyfleoedd i’m merched a minnau ddatblygu sgiliau a chryfhau cyfeillgarwch.