Who we are

Maxine

Maxine Mccaffrey

Aelod o’r Bwrdd Seinio

Fy enw i yw Maxine, rwy’n 30 oed ac mae gennyf ferch 10 oed ac rwyf wedi byw yn ardal Llaneirwg yng Nghaerdydd y rhan fwyaf o’m bywyd.

Pan oeddwn i’n iau, byddai fy ffrindiau a minnau yn defnyddio’r ganolfan ieuenctid a’r ganolfan gymunedol leol yn rheolaidd gan ddefnyddio’r gwahanol wasanaethau a’r gweithgareddau oedd ar gael. Byddwn i’n bersonol yn mynd i gynifer o ddosbarthiadau dawns â phosibl – o ddawnsio stryd i hip hop a dawnsio tap i fale, roedd bob amser rhywbeth i mi gymryd rhan ynddo. Mae gen i lawer o atgofion melys o gael fy magu yn Llaneirwg, ond rwyf wedi gweld dros y blynyddoedd sut mae parciau wedi diflannu, canolfannau ieuenctid yn cael eu bwrw i lawr, gwasanaethau dan bwysau sy’n golygu bod ein plant yn wynebu llawer o anfanteision felly mae gallu ymwneud â theatr Common Wealth yn rhywbeth rwy’n teimlo’n angerddol iawn amdano.