Saoirse Teale
Cynhyrchydd Cymunedol
Mae Saoirse yn gynhyrchydd theatr, hwylusydd a chydgysylltydd prosiect a anwyd yn Bradford sydd â diddordeb brwd mewn creu theatr sy’n ysgogi newid cymdeithasol a defnyddio’r celfyddydau fel adnodd i rymuso cymunedau. Bu Saoirse yn gweithio gyda Common Wealth ar I Have Met the Enemy, cyn ymuno’n ffurfiol â’r tîm yn 2021 fel Cynhyrchydd Cymunedol yn Common Space.
Hyfforddodd Saoirse fel cynhyrchydd theatr yng Ngholeg Rose Bruford, ac yma y dechreuodd ei theimladau angerddol dros theatr amgen a gwleidyddol. Mae wedi cydweithio â chwmnïau ac artistiaid theatr amrywiol ledled y DU ac Ewrop gan gynnwys Red Ladder Theatre Company, Sleepwalk Collective, Clean Break Theatre Company, Awake Projects a Stereo Akt – fel cyfarwyddwr a pherfformiwr. Hi hefyd yw sylfaenydd a chyd-gyfarwyddwr artistig ei chwmni theatr ei hun, Crash & Bairn.