Stephanie Rees
Aelod o’r Bwrdd Seinio
Cefais fy magu yn Llaneirwg, a oedd yn llawer llai bryd hynny. Roeddwn yn teimlo’n ddiogel yno, roedd pawb yn fy adnabod. Nid oedd gennym incwm gwario fel teulu. Mae fy rhieni yn weithwyr caled, roedd gennym do uwch ein pennau a bwyd yn ein stumogau.
Fi yw cyfarwyddwr sefydlu Ysgol Celfyddydau Perfformio Dwyrain Caerdydd C.I.C. Rydyn ni’n hwyluso ein myfyrwyr i fod yn adnoddau creadigol perfformiadau. Nhw yw’r gweledyddion, y cyfarwyddwyr a’r dylunwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd greadigol i ddyfeisio eu darnau theatr eu hunain. Nhw sy’n goresgyn y rhwystrau ymddangosiadol.
Mae wedi bod yn anhygoel cydweithio â Common Wealth a’r Seinfwrdd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae Dwyrain Caerdydd yn llawn o bobl anhygoel, arbennig, hael, uchelgeisiol a dawnus.