
Grenfell: We Stand With You
Bydd rhaglen bedwar diwrnod o sgyrsiau, gweithdai a pherfformiadau wedi’i churadu gan Common/Wealth, mewn ymateb i Grenfell gan Steve McQueen, yn mynd i’r afael â’r frwydr dros gyfiawnder i Grenfell a phwysigrwydd ymgyrchu cymunedol.
Ymhlith y digwyddiadau, bydd trafodaeth rhwng goroeswyr a’r rhai mewn profedigaeth yn dilyn Grenfell ac Aberfan, yn ogystal ag ymgyrchydd cymunedol o Butetown, Caerdydd. Yn cadeirio bydd Peter Apps, awdur Show Me the Bodies: How We Let the Grenfell Tower Fire Happen.
Bydd Forensic Architecture yn dangos Situated Testimonies of Grenfell, ffilm sy’n plethu straeon rhyng-gysylltiedig o noson y tân, o safbwynt y goroeswyr, teuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, a llygad-dystion. I ddilyn y dangosiad bydd trafodaeth rhwng Edward Daffarn o Grenfell United a Samaneh Moafi o Forensic Architecture.
Yn yr oriel, bydd gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan Gaerdydd a’i chymunedau i’w gweld. Ymhlith yr artistiaid mae Ophelia Dos Santos, Kyle Legall, Vanja Garaj, Gavin Porter a Jon Pountney. Gan ymateb i thema cymuned, mae’r gwaith yma’n ysbrydoli cryfder ac undod yn y frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol.