
MAE PAWB YN ARTISTS: Manteisiwch ar eich creadigrwydd gyda’r Artist Riham Isaac
Ymunwch â’r artist perfformio clodwiw Riham Isaac mewn gweithdy deinamig, agored, ar ffurf labordy sy’n gwahodd pobl chwilfrydig i ystyried eu creadigrwydd. Mae Riham yn cyfuno symudiad, deunyddiau, sain, fideo, sgriptiau, a sefyllfaoedd bywyd go iawn i lunio campwaith celf perfformio pwerus sy’n procio’r meddwl. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn defnyddio’r offer a’r technegau sy’n ysbrydoli gwaith Riham – gan ddysgu ffyrdd o ryddhau eu llais creadigol eu hunain.
Drwy gymysgedd o brosesau archwilio unigol a chreu cydweithredol, mae’r gweithdy hwn yn annog arbrofi a’r rhyddid i chwarae gyda gwahanol ffyrdd o greu celf.
P’un ai a ydych chi’n gweld eich hun fel artist ai peidio, bydd y sesiwn drochi hon yn siŵr o’ch ysbrydoli a chreu cysylltiadau.
PWY: Unrhyw un 16 oed a hŷn.
PRYD: I’w gadarnhau
AMSER: 1pm tan 5pm
BLE: Neuadd Llanrhymni
Mae angen blaendal o £5, a bydd hwn yn cael ei ad-dalu wrth ddod i’r gweithdy.
Artist perfformio a gwneuthurwr theatr yw Riham Isaac sy’n dod ag ystod o arferion ynghyd — actio, canu, dawnsio, fideo ac archwilio cyfryngau newydd perfformio byw a chelfyddydau amlddisgyblaethol. Mae prosesau Riham yn myfyrio ar yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn rhywun sy’n cynhyrchu gwaith artistig arloesol ym Mhalestina ar hyn o bryd. Mae ei gwaith yn chwareus ac yn sylwebaeth ddwys ar ystod eang o faterion dybryd yn ymwneud â rhywedd, gwleidyddiaeth, a’r celfyddydau.
Mae gan Riham brofiad helaeth yn arwain a chreu prosiectau artistig. Mae hi wedi gweithio gyda Danny Boyle a Banksy, ac wedi mynd â’i gwaith ar daith ym Mhalestina, Sweden a Denmarc. Mae gan Riham Radd Meistr mewn Perfformio o Brifysgol Goldsmiths, ac ar hyn o bryd mae’n gwneud PhD mewn Ymarfer Perfformio ym Mhrifysgol Caerwysg.
Mae ymchwil Riham yn canolbwyntio ar groestoriad perfformiad, rhyddhau tir, ymwrthedd, a gweithredaeth ddiwylliannol. Mae ganddi ddiddordeb brwd yn y modd y gall arferion perfformio ddyfnhau ein dealltwriaeth o anghyfiawnder o ran tir a phontio gweithredaeth â grym trawsnewidiol perfformiad.