Public Interest
Ydyn ni wir i gyd yn ddieuog nes ein bod ni’n cael ein profi’n euog?
Gydag elfennau cerddoriaeth ac elfennau theatr wleidyddol, roedd Public Interest yn sioe drochol ar raddfa fawr a oedd yn gofyn sut rydyn ni’n herio’r naratifau sy’n cael eu cyfleu am bobl ifanc dosbarth gweithiol.
Archwiliodd Public Interest achosion go iawn o Fenter ar y Cyd i herio gwahaniaethu hiliol a dosbarthiadol o fewn y system gyfiawnder. Cafwyd perfformiadau gan gast o rapwyr a DJs gyda cherddoriaeth dril, grime, a llinell fas – y gerddoriaeth a ddefnyddiwyd yn eu herbyn – i adrodd eu straeon ar eu telerau eu hunain.
Wedi’i lwyfannu mewn seler warws gyda thafluniad fideo, goleuadau sinematig, a llinell fas y gallech chi ei theimlo ym mêr eich esgyrn, crëwyd Public Interest mewn partneriaeth â JENGbA (Joint Enterprise Not Guilty by Association) fel galwad i weithredu.
Pecyn Tystiolaeth Public Interest 2025
Ymunwch â ni yn yr ymgyrch yn erbyn y defnydd annheg o Fentrau ar y Cyd.
“Mae’r hyn a allai fod wedi teimlo fel dadl bregethwrol yn cael ei gyfleu mewn modd perswadiol iawn – cynhyrchiad hynod ddiddorol sy’n rhoi’r gynulleidfa wrth wraidd y cyfan. Mae’r cast i gyd yn rhagori” The Stage



















