Performer Liv Ello in front of a plain blue background. The text reads Common/Wealth and DIY ART LAB

LAB CELF GWNEUD PETHAU EICH HUN

mwy

LAB CELF GWNEUD PETHAU EICH HUN

Mae’n anodd iawn dod o hyd i le pwrpasol i wneud a chreu fel gwneuthurwr theatr ac artist.

Mae LAB CELF GWNEUD PETHAU EICH HUN Common/Wealth yn gwahodd unrhyw un sy’n teimlo’n chwilfrydig ynghylch datblygu ei greadigrwydd i ymuno â ni. Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn cynnal gweithdai arbrofol dan arweiniad artistiaid arloesol o’r DU a thu hwnt. Cwmni theatr ydyn ni ond rydyn ni’n cynnal gweithdai celf, ysgrifennu a pherfformio—gwaith sy’n amrywio ar draws pob math o feysydd. 

Rydyn ni’n credu bod pawb yn artist. P’un ai a ydych chi’n artist profiadol, yn dychwelyd at awch plentyndod neu’n archwilio hyn i gyd am y tro cyntaf – mae croeso i bopeth ac mae popeth yn cael ei ganiatáu.  

Bydd LAB CELF GWNEUD PETHAU EICH HUN yn datgloi potensial, yn cyflwyno ffurfiau celf newydd, ac yn ail-ddychmygu beth sy’n bosibl – ynom ni ein hunain ac yng Nghymru.

Mae Common/Wealth yn gwneud gwaith arbrofol, gwleidyddol sy’n dathlu’r bobl rydyn ni’n eu hadnabod a’r lleoedd rydyn ni’n dod ohonyn nhw. Mae’n waith sy’n cysylltu, yn adrodd ein straeon, ac yn gwthio perfformiadau er mwyn ymdrochi cynulleidfaoedd mewn bydoedd eraill.

Rydyn ni’n eich gwahodd i roi cynnig arni, cael blas arni, a gweld beth rydych chi’n ei greu. 

Mae angen cadw eich lle yn y gweithdai ymlaen llaw, a gallwch ddewis talu £2 neu £5. 

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad, rhowch wybod i ni – mae gennym gyllideb i dalu costau ychwanegol a gallwn eich cefnogi i ddod draw. Gallwn eich helpu gyda threfniadau teithio, gofal plant, neu ddiwallu eich anghenion corfforol. E-bostiwch [email protected].

Gwneud pethau wrth fynd yn ein blaenau: gweithdy creu perfformiadau i lunio syniadau a thanio eich creadigrwydd

Mae ein gweithdai LAB CELF GWNEUD PETHAU EICH HUN yn cychwyn gyda Liv Ello, awdur, perfformiwr, gwneuthurwr theatr ac artist byw sy’n byw yn Llundain. Mae Liv yn canolbwyntio ar greu gwaith mewn ffordd cwiar – gan fanteisio ar ddull anarchaidd o ymdrin â ffurf ac iaith, a chymysgu ffurfiau fel geiriau llafar, clownio, amlgyfrwng, cabaret a chomedi corfforol.

Bydd Liv yn cefnogi cyfranogwyr i archwilio eu harferion creadigol, gan dynnu sylw at yr hyn sy’n gwneud pob artist yn unigryw ac yn wych, a rhoi cynnig ar rai ffyrdd newydd o ddatblygu ein syniadau.

Mae LAB CELF GWNEUD PETHAU EICH HUN Common/Wealth yn gwahodd unrhyw un sy’n teimlo’n chwilfrydig ynghylch datblygu ei greadigrwydd i ymuno â ni. Rydyn ni’n credu bod pawb yn artist. P’un ai a ydych chi’n artist profiadol, yn dychwelyd at awch plentyndod neu’n archwilio hyn i gyd am y tro cyntaf – mae croeso i bopeth ac mae popeth yn cael ei ganiatáu.  

‘Gwneud pethau wrth fynd yn ein blaenau: gweithdy creu perfformiadau i lunio syniadau a thanio eich creadigrwydd’ yn cael ei gynnal ar 23 Gorffennaf, rhwng 2pm a 5pm yn Hyb Llaneirwg, CF3 0EF. Talwch £2 neu £5 ac archebu ymlaen llaw drwy ddilyn Eventbrite.