Authors of the Estate
Troi tai cyngor yn dai cyhoeddi: Dangosiad o raglen ddogfen sy’n dathlu cymuned yn adhawlio ei stori.
Ym mis Chwefror cynhaliodd Common/Wealth ddangosiad ffilm arbennig iawn o The Authors of the Estate gan ddilyn gyda sgwrs gyda’r awduron, Nabil Al-Kinani, Abdou Cisse, ac André Anderson. Fe wnaethon ni hefyd ddangos From 19 to 19 – Terfysgoedd Hiliol/Gwrthwynebiad Cymunedol Caerdydd.
Mae Authors of the Estate yn rhaglen ddogfen newydd, bwerus, sy’n dathlu cymuned sy’n adhawlio ei stori. Mae’r rhaglen ddogfen yn dilyn prosiect lle mae trigolion ystâd cyngor yn ysgrifennu eu straeon, gan droi tai cyngor yn dai cyhoeddi.
Dim ond 1 o bob 10 awdur ym Mhrydain sy’n perthyn i’r dosbarth gweithiol. Yn aml, mae cymdogaethau dosbarth gweithiol yn dod yn estheteg i frandiau, yn fwch dihangol i wleidyddion, ac yn darged i ddatblygwyr – mae Authors of the Estate yn newid hynny i gyd. Mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect cyhoeddi ar lawr gwlad wedi esblygu’n rhaglen ddogfen sy’n rhoi llais i’r lleisiau hynny, gan ddod â’u geiriau’n fyw ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o awduron o ystadau ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r hyn a ddechreuodd fel syniad syml i helpu cymdogion Ystad St. Raphael ac Ystad Chalkhill yng Ngogledd-orllewin Llundain, oedd wedi’u cysylltu yn sgil y straeon yr oeddent yn eu hadrodd, wedi tyfu i fod yn fudiad ers hynny. Mudiad nid yn unig i ysgrifennu eu straeon ond i fod yn berchen arnynt. Mae’r llyfrau hyn wedi chwalu’r stereoteipiau ac wedi caniatáu i drigolion a arferai gael eu hystyried fel ystadegau neu wynebau dienw ddod i’r amlwg fel awduron, fel lleisiau awdurdodol dros eu bywydau eu hunain.
Mae’r ffilm yn dathlu pŵer iaith fel ffordd o wrthwynebu, fel ffordd o wella, ac fel cartref.
Mae’r rhaglen ddogfen yn archwilio sut y gwelodd dau breswylydd o ystadau cyfagos y tu hwnt i’r naratifau ffug oedd yn eu diffinio. Drwy ailddatblygu, stigma ac adnewyddu, fe ddewison nhw adrodd eu straeon cyn i rywun arall wneud hynny.
Y canlyniad yw casgliad o lyfrau cignoeth a phwerus sy’n ailddiffinio beth all bywyd ar ystad ei olygu. Mae pŵer mewn gweld eich geiriau mewn print, pŵer mewn darllen eich gwirionedd yn uchel i’ch cymdogion, a phŵer mewn gwrthod bod yn anweledig. Dywed André Anderson, sylfaenydd y gyfres lyfrau
“Mewn ardaloedd fel ein rhai ni, mae gennym hanes hir o’n straeon yn cael eu hadrodd ar ein rhan ni. Fe wnaeth ein llyfrau hanes ein cyfleu o safbwynt anthropolegol, sgil effeithiau goddefol amgylchiadau gwael, yn hytrach na chyfranogwyr gweithredol yn nyfodol y DU. Drwy’r deunydd maen nhw’n ei ysgrifennu, mae’r awduron hyn yn adhawlio eu hiaith eu hunain, maen nhw’n cydio yn y naratif, gan drawsnewid y syniad o’r preswylwyr ystad a gaiff eu cyfleu gan drosiadau’r tabloidau yn ddelwedd o wydnwch, llawenydd, a phobl sy’n diffinio eu hunain. Roedden ni eisiau gwneud ffilm yn anfarwoli ein proses a’n rhesymeg”
Mae Nabil, yr awdur a’r prif reswm pam y gwnaeth Andres ehangu’r gyfres lyfrau i ystad arall, yn hynod ddiolchgar i’r gyfres lyfrau am ei yrfa newydd fel awdur. Dyfodiad Nabil fel awdur yw’r grym y tu ôl i ehangu’r gyfres lyfrau i gynnwys ystad ychwanegol, penderfyniad a ddylanwadwyd gan André.
“Rwy’n credu mai’r rhwystr mwyaf o ran ein cymunedau yw’r canfyddiadau sydd gennym ohonom ein hunain. Ar ôl dod ar draws ‘Authors of the Estate: written by St. Raphaels Estate’ am y tro cyntaf yn 2015, dysgodd i mi nad oes yn rhaid i chi fod yn awdur i ysgrifennu. Rydych chi’n dod yn awdur pan fyddwch chi’n ysgrifennu ac yn creu eich cyhoeddiad eich hun. Does neb yn cael ei eni’n awdur. Dydy’r ffaith na wnaethoch chi astudio gradd Saesneg ddim yn golygu nad oes gennych chi hawl i ysgrifennu. Dysgodd St Raphael i mi fod y gair awdur yn rhan o’r gair awdurdod; pan fyddwch chi’n meddwl am arweinyddiaeth neu’r polisïau sydd wedi’u creu yn y wlad hon neu mewn unrhyw wlad arall, roedd y cyfan wedi’i ysgrifennu mewn du a gwyn ar ddarn o bapur. Yn oes ddigidol heddiw, rydyn ni’n anghofio pŵer yr hyn y gall darn go iawn o bapur ei wneud mewn gwirionedd.”
Mae’r ffilm, sydd wedi’i hysbrydoli gan ddiwylliant fideos cerddoriaeth a’n parch at rapwyr, yn cyfleu’r egni hwnnw ac yn dangos sut mae gweithredoedd bach fel adrodd straeon yn lledaenu drwy gymuned, gan newid sut mae pobl yn gweld eu hunain a sut mae Prydain yn eu gweld nhw. Nid yw’n dilyn fformat arferol rhaglen ddogfen: does dim ystadegau crafog, bachog, dim delweddau o dlodi. Dim ond realaeth hudolus.
Yn wreiddiol gwahoddwyd Abdou Cissé, gwneuthurwr ffilmiau o Dde Llundain a enwebwyd am wobr BAFTA, i gofnodi’r prosiect y tu ôl i’r llyfrau. Ond fel rhywun a fagwyd ar ystad ac sy’n byw gyda dyslecsia, cafodd y prosiect hwn fwy o effaith nag yr oedd wedi’i ddisgwyl.
“Roedd y prosiect yma’n teimlo fel un oedd angen mynd i’r afael arno ar frys ac yn bwysicach na’r holl raglenni teledu mawr rydw i wedi gweithio arnyn nhw,” meddai Cissé. “Rydw i wedi symud i ffwrdd erbyn hyn, ond wrth weithio ar y ffilm hon sylweddolais faint roeddwn i’n colli cael cymuned, faint roeddwn i wedi’i gymryd yn ganiataol. Dechreuais ofyn i mi fy hun, pryd y rhoddais y gorau i edrych ar fy ystad am ysbrydoliaeth? Pam y dechreuais ei hesgeuluso tra bod y byd yn ei defnyddio i werthu’r union ddiwylliant y gwnaethon nhw ei ddefnyddio i fy stigmateiddio i?…Felly roeddwn i eisiau gwneud ffilm a fyddai’n chwalu’r hyn yr oedd pobl yn ei ddisgwyl gan drigolion ystad. I adhawlio’r fagwrfa artistig sy’n deillio o’n cartrefi mewn gwirionedd. Fel Chalkhill a St Raph, mae fy ystad i’n llawn talentau anhygoel, rhyfeddodau, doniau a hanes heb eu dathlu, ond yn rhy aml mae’n cyrraedd y penawdau am y rhesymau anghywir. Mae’r ffilm hon yn llythyr cariad at y bobl hynny, at y lleoedd hynny, ac at yr ysbryd hwnnw.
I Cissé, daeth Authors of the Estate yn fwy na ffilm. Daeth yn arweiniad ac yn alwad i weithredu.
“Y tu hwnt i greadigrwydd a rhyddhad, mae’n ymwneud â dangos bod André a Nabil wedi llwyddo i wneud rhywbeth y gall eraill ei wneud eto. Yn yr un modd ag y mae gan y gyfres lyfrau benodau rhwng pob stori sy’n dysgu pobl sut i ysgrifennu, roeddwn i eisiau i’r ffilm ddysgu pobl sut i fynnu eu llais yn ôl, dyna pam y gwnaethom hi’n ddigon byr i ffitio i unrhyw ran o’ch diwrnod, fel bod modd ei gwylio lle bynnag, pryd bynnag.”
Ar adeg pan mae lleisiau’r dosbarth gweithiol yn cael eu gwyrdroi a’u gwthio o’r neilltu’n rheolaidd, mae Authors of the Estate yn brawf nad yw creadigrwydd yn llifo i lawr. Mae’n codi.
Nid dim ond papur ac inc yw’r llyfrau hyn. Maen nhw’n herio’r myth bod celf yn perthyn i bobl freintiedig neu sefydliadau. Maen nhw’n dangos bod dychymyg yn ffynnu YMA.
Mae Nabil wedi ymuno â ni yn Chapter yn y gorffennol i gynnal gweithdy am ei lyfr Privatise the Mandem, gan fynd i’r afael â boneddigeiddio ac ymladd dros berchnogaeth gymunedol a chyfunol. Os nad ydych wedi’i ddarllen, dilynwch y ddolen hon.
Bydd Authors of the Estate cael ei dangos ar 27 Chwefror rhwng 6pm ac 8pm ym Mhafiliwn Grange. Mae tocynnau am ddim, ond rhaid eu harchebu drwy Eventbrite.