Rwy’n falch iawn o ymuno â Common Wealth. Rwyf wedi edmygu’r cwmni ers gwylio No Guts, No Heart, No Glory, sioe yn fy marn i oedd i mi wedi symud naratifau traddodiadol, wedi cael gwared ar stereoteipiau, ac wedi cynrychioli pobl sydd wedi’u gwthio i’r ymylon yn hanesyddol mewn ffordd fywiog. Mae gwaith Rhiannon ac Evie wedi ysbrydoli fy newisiadau a’m dull cyfarwyddo fy hun ac rwyf wrth fy modd yn ymuno â’r tîm, i gefnogi a chynnal y gwaith yng Nghaerdydd wrth i Rhiannon gymryd absenoldeb mamolaeth.
Mae gennyf lawer iawn o egni creadigol ac rwy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth drwy ein gwaith yn Nwyrain Caerdydd, cydweithio a chyd-greu, a gwneud gwaith gwleidyddol mewn safleoedd penodol. Mae gennym brosiectau cyffrous iawn ar y gweill gan gynnwys gwaith gyda’r rhwydwaith teithiol Moving Roots, gyda’n bwrdd seinio, a rôl Cyfarwyddwr Cyswllt newydd mewn partneriaeth â National Theatre Wales. Ar 15 Ionawr byddaf yn rhan o’r ŵyl The Future is Here yn trafod y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt, ac yn cyd-greu newid cymdeithasol. Byddwn wrth fy modd petaech yn ymuno â ni, bydd y ddolen hon yn mynd yn fyw am 10am ddydd Sadwrn 19 Rhagfyr: https://www.eventbrite.co.uk/e/the-future-is-here-festival-tickets-133089483227
Rwy’n dechrau’r rôl fel cyd-gyfarwyddwr artistig (dros absenoldeb mamolaeth) wedi fy nghymell yn llwyr gan ddatganiad Common Wealth: “Rydyn ni’n ystyried ein dramâu fel ymgyrchoedd, fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd a gwneud i newid deimlo’n bosibl.” Rwyf mor barod i weithredu a byw yn ôl yr uchelgais hwn; gadewch i ni wneud hyn, gyda’n gilydd!