US HERE NOW – CYFWELIAD GYDA’R FAM A’R FFOTOGRAFFYDD, RHIAN GREGORY

Rhian a'i thri phlentyn wedi gwisgo fel 'The Incredibles'. Mae Rhian yn eistedd mewn cadair olwyn, yn dal ei phlentyn ieuengaf ar ei glin.

 

Allwch chi gyflwyno eich hun? Pwy ydych chi, ble rydych chi’n byw, beth ydych chi’n teimlo’n angerddol amdanynt?

Shwmae! Helo! Fi yw Rhian Gregory ac rwy’n byw yn Llaneirwg, Caerdydd. Rwy’n fam i dri o blant ifanc, a hefyd yn cael fy adnabod fel ‘mam ar olwynion’ gan fy mod yn defnyddio cadair olwyn. Dwi’n mwynhau tipyn o bopeth, yn amrywio o chwaraeon wedi’u haddasu fel hwylio, i ddarllen, treulio amser gyda ffrindiau a theulu, chwarae’r ffliwt a’r piano, a chymaint mwy! Weithiau rwy’n nodi’r hyn rydym yn ei wneud ar fy mlog neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Fy nod yw byw bywyd i’r eithaf hyd eithaf fy ngallu.

Beth a’ch denodd at Common Wealth, a’r prosiect Us Here Now?

Deuthum ar draws ffotograffau Jon Pountney ar y cyfryngau cymdeithasol, a soniodd ei fod yn gweithio gyda’r prosiect Us Here Now. Penderfynais e-bostio Jon a rhoddodd fi mewn cysylltiad â Common Wealth. . Roedd gen i ddiddordeb arbennig gan fod y prosiect yn ymwneud â dathlu pobl a chymuned Dwyrain Caerdydd. Gyda phob ardal, yn enwedig rhai, mae tuedd i ganolbwyntio’n ystrydebol ar fwy o’r pethau negyddol yn hytrach na’r pethau cadarnhaol. Rwyf bob amser wedi teimlo’n angerddol am yr ardal rydyn ni’n byw ynddi. Mae enghreifftiau’n cynnwys Cadw Llaneirwg yn Daclus, casglu sbwriel, a chwarae’r ffliwt mewn cartrefi nyrsio preswyl.

Allwch chi ddweud wrthym am eich ffotograffiaeth? Beth wnaeth eich denu i dynnu lluniau?

I mi, mae ffotograffau’n cyfleu eiliad mewn amser. Cipolwg i edrych yn ôl arno, gan ddod ag atgof yn fyw. P’un ai a yw’n ddarn o laswellt wedi’i orchuddio â rhew, yn lluniau tirwedd o hoff draeth, neu’n llun teuluol. Rhannu harddwch ein byd gydag eraill, ysbrydoli, ei agor i rywbeth nad ydynt wedi’i weld o’r blaen, neu rywbeth y gallent uniaethu ag ef. Mae gweld sut mae ffotograffiaeth yn gweithio hefyd yn ddiddorol iawn.

Beth allwch chi ei ddweud wrthym am Ddwyrain Caerdydd nad oes neb arall yn ei wybod?

Rwy’n siŵr bod llawer o bobl leol yn gwybod am Lynnoedd Hendre. Mae’n un o fy hoff lefydd. Rwyf wedi tynnu cryn dipyn o luniau o’r fan hon a phan fyddaf yn eu postio mae llawer o bobl wedi gofyn ble mae’r lle hardd hwn! Rwy’n arbennig o hoff o ymweld â’r lle gyda’r nos, naill ai dim ond i ymlacio a meddwl ar fy mhen fy hun neu drwy fynd â’m plant allan am dro a gwylio’r machlud anhygoel. Beth allwch chi ei ddweud wrthym amdanoch eich hun na fyddai neb yn ei wybod? Byddwn yn hoffi dysgu iaith newydd, Japaneg mae’n debyg gan fy mod wrth fy modd gyda diwylliant a chysyniad bywyd y wlad.

Beth yw eich prif awgrymiadau ar gyfer goroesi’r cyfyngiadau symud?

Mae gen i lawer o awgrymiadau! Beth am droi at eich ochr greadigol? P’un ai a yw’n golygu gwneud cardiau, lliwio, neu’n rhywbeth hollol newydd fel gwneud gemwaith gyda resin. Gwnewch yn siŵr bod eich cymdogion yn iawn, sgwrsiwch â nhw dros y ffens. Dewch yn nes at natur! Boed hynny yn eich gardd eich hun, neu ar eich dro cerdded dyddiol, lleol. Rydyn ni wedi rhoi teclyn bwydo adar clir ar ein ffenestr ac wedi gweld cymaint o adar. Roedd yn ddiddorol iawn i’r plant hefyd ddysgu a nodi’r gwahanol rai. Ar ddechrau’r cyfyngiadau symud roeddwn i mor frwdfrydig nes i mi hyd yn oed wneud fy fideo ymarfer corff eistedd i lawr fy hun ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu sefyll ac ymarfer corff. Siopa ar-lein oedd y ffordd ymlaen i gael bwyd ac anrhegion pen-blwydd! Atgoffwch eich hun mai dim ond eich gorau y gallwch ei wneud! Peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi’ch hun! Mwynhewch y dyddiau hynny lle mae pawb yn aros yn eu pyjamas ac yn gwylio ffilmiau!

Beth ydych chi wedi’i ddysgu amdanoch eich hun yn ystod y cyfyngiadau symud?

Mae wedi fy atgoffa y dylwn werthfawrogi’r hyn sydd gennyf a bod yn ddiolchgar amdanynt. Wrth gwrs, mae llawer o bethau rwyf wedi colli eu gwneud, ac wedi cael fy siomi, ond fe wnes i’r gorau o’r hyn oedd ar gael i ni ar y pryd.

Beth ydych chi am i bobl ei wybod?

Mae llawer o heriau’n cael eu taflu at bob un ohonom. Nid ydym byth yn gwybod beth mae neb yn mynd drwyddo. Ni ddylem farnu, dylem fod yn garedig wrth ein gilydd, gan estyn allan at eraill yn ein cymuned. Rhannu syniadau, gwrando ar ein gilydd a chefnogi ein gilydd.

Lluniau gan Rhian Gregory

 

Machlud haul dros lyn Babi'n cysgu ar groen dafad Blodau haul Llun agos o fefus, ar erwyddLlun dan y dŵr o forlo