GWYBODAETH

Yng Nghaerdydd, mae swyddfa Common Wealth yn Neuadd Llanrhymni, hen dafarn sydd wedi cael ei hadfer a’i hailddatblygu fel adnodd mawr ei angen yn Nwyrain Caerdydd, ardal heb fawr o le ac adnoddau i’r gymuned. 

Dwyrain Caerdydd yw ein cartref oherwydd dyna lle rydyn ni’n dod. Rydyn ni’n teimlo bod gennym anfeidredd gyda thrigolion lleol ac rydyn ni eisiau cynnig cyfleoedd artistig i’r gymuned yr ydyn ni’n ei hadnabod ac yn gofalu amdani. Rydyn ni wrth ein bodd yn cynnal digwyddiadau fel ein gweithdai Mae Pawb yn Artist, gan gynnig cyfle i drigolion lleol greu gydag artistiaid anhygoel, ac annog pobl o rannau eraill o’r ddinas i deithio i Ddwyrain Caerdydd. Roedd prosiectau fel Reclaim The Space yn ein galluogi i danio dychymyg a sbarduno llawenydd yn Llaneirwg gyda murlun pwerus o dros 50 o bobl leol go iawn yn adennill eu lle. 

Mae ein gweithgareddau yn Nwyrain Caerdydd yn cael eu datblygu a’u cefnogi gan ein Seinfwrdd lleol sy’n cyfarfod â ni’n rheolaidd i gynllunio a darparu gweithgareddau ar gyfer pob oedran. Rydyn ni’n gwybod mai’r bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon sy’n gwybod orau beth sydd ei angen arnynt. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod gan theatr, y celfyddydau a bod yn greadigol lawer o fuddion y gellir eu trosglwyddo – i ni mae’n ymwneud â chyfnewid, gweithredu a gwneud i bethau ddigwydd.

Rydyn ni’n mwynhau dysgu ac archwilio; roedd ein dull oedd yn cael ei arwain gan chwilfrydedd yn ein galluogi i gynhyrchu ein ffilm Llais y Lle, am yr iaith a’r dosbarth Cymraeg. Arweiniodd hyn at greu ein clwb llyfrau Cymraeg, gan roi cyfle i bobl yn Nwyrain Caerdydd ymarfer defnyddio’r Gymraeg a chryfhau eu cysylltiad â’r iaith. 

Gall ein sioeau ddigwydd yn unrhyw le, mewn unrhyw adeilad, gydag unrhyw un. Yng Nghymru rydyn ni wedi creu gwaith ym Mhort Talbot gyda grŵp o weithwyr dur, gyda menywod dros 50 oed ym Merthyr a gyda phobl ifanc yn y Coed Duon.

Rydyn ni wrth ein bodd yn cydweithio, ac rydyn ni’n falch o fod wedi bod yn rhan o Rwydwaith Teithio Moving Roots, a alluogodd i ni greu perthnasoedd gydag artistiaid clodwiw ac i fynd â’n sioe Payday Party i Gaeredin.