PECYN CYMORTH RADICAL ACTS
(Hyblyg – gallai fod yn bythefnos, 3 diwrnod, 3 awr)
Ar gyfer rhwng 5 a 25 o bobl
Wedi’i anelu at bob oed
Mae’r gweithdy hwn yn dwyn ynghyd grwpiau o bobl ac yn edrych ar yr anghenion sydd gennym a’r camau radical y gallwn eu cymryd i sicrhau newid yn ein cymunedau mewn ffyrdd creadigol. Rydyn ni wedi cyflwyno’r gweithdy hwn yng Nghanolfan Gelfyddydau Battersea fel rhan o symposiwm Collectiva Youth Activism gyda phobl ifanc a gweithwyr ieuenctid ac rydyn ni’n gweithio gydag Arcade yn Scarborough i gyflwyno gweithdy wythnos o hyd gydag artistiaid ac ymgyrchwyr o Scarborough i ddatgelu pa weithredoedd radical all ddigwydd yno. Ganed y broses yn sgil ein drama Radical Acts a welsom ni’n creu The Wedding of the Year, rali ceir Peaceophobia ac ymyriad ar drên o Leeds i Lundain am dlodi bwyd dros wyliau’r haf.
“Dydw i erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen…dw i’n teimlo os gallwn ni wneud hyn, fe allwn ni wneud mwy – unrhyw beth!”
“Mae wedi fy helpu i deimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi ac wedi fy helpu i deimlo’n bwerus”.
“Ar y dechrau, mae’n symud gam wrth gam, mae’n rhaid i chi ganolbwyntio, ond pan fyddwch chi’n ei roi at ei gilydd neu pan fyddwch chi’n gwybod beth rydych chi’n ei wneud, rydych chi’n mynd mor hyblyg, ac mae’n dod yn rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau bryd hynny.”