Because We’re Women
Gydag ASeTTs (The Association for Services to Trauma and Torture Survivors) yn Perth, Awstralia
Ochr yn ochr â thaith No Guts, No Heart, No Glory i PIAF (Gŵyl Gelf Ryngwladol Perth) yng Ngorllewin Awstralia, fe wnaethom dreulio wythnos yn gweithio gyda deuddeg menyw o ddeg gwlad wahanol yn siarad 8 iaith wahanol i archwilio cyffredinrwydd a chryfder. Buom yn gweithio gyda symudiadau, y syniad o roi anrhegion a sain i greu darn aml-iaith byr i deulu a ffrindiau a oedd yn bwerus ac yn gofiadwy dros ben. Roedd PIAF yn anhygoel, gan ddarparu crèche a bwyd bob dydd. Fe wnaethom orffen yr wythnos gyda thaith fawr i’r traeth gyda’r plant i gyd.