Ddydd Iau 7 Hydref 2023 gwahoddwyd yr academydd Jenny Hughes, Rhiannon White o Common Wealth a Ffion Wyn Morris (cydweithredwr ar Dydyn ni Ddim yn Siarad Dim Mwy) i gyflwyno araith yng nghynhadledd Class Concerns dan arweiniad Liz Tomlinson. Dyma’r trawsgrifiad (:
Ffion: Sector gelyniaethus ac anhygyrch. Sownd mewn swyddi lefel mynediad am flynyddoedd tra bod y rhai o’ch cwmpas a oedd yn dod o gefndiroedd cyfoethocach yn gallu codi lefelau oherwydd eu bod yn gallu fforddio interniaethau a phrofiadau a roddodd gyfoeth o ddulliau dysgu iddynt nad oedden nhw ar gael i chi. Symud i’r ochr a throi mewn cylchoedd mewn rolau rydych chi’n gwybod y gallech chi ffynnu ynddynt, sut allwch chi feithrin profiad heb gael y cyfle i gael profiad? Camu i’r ochr, camu i’r ochr, camu i’r ochr. A beth os ydych chi’ch hun eisiau gwneud? Beth os ydych chi eisiau creu? Sut ydych chi’n dianc?
Rhiannon: Sector gelyniaethus ac anhygyrch. Mae’r systemau, sut rydyn ni’n byw, ble rydyn ni’n byw, a’r hyn y mae gennym ni fynediad iddo mor bell oddi wrth y sector diwylliannol – mae’n rhaid i ni fargeinio, brwydro, a negodi’n barhaus – mae’r cyfan yn gweithio yn ein herbyn. Nid yw’r sector hwn wedi’i sefydlu ar gyfer pobl dosbarth gweithiol/dosbarth budd-daliadau/dosbarth isel/dosbarth troseddol.
Weithiau, mae ein profiadau yn rhoi sedd i ni wrth y bwrdd, weithiau mae’r sedd honno ar gyfer gweddill y bwrdd wedi’i dylanwadu gan y rhai cyfoethog. Dyna pryd mae syndrom y ffugiwr yn sleifio i mewn – yn ogystal â’ch bod chi’n teimlo bod eich profiadau’n amherthnasol, neu fod eich rhwydweithiau’n dda i ddim a bod eich profiadau yn drawma ar ôl trawma ar ôl trawma. Dydych chi ddim yn gallu dod o hyd i’r geiriau, a dydych chi ddim yn gwybod y lingo. Does gennych chi ddim ffrindiau yn y mannau iawn. Mae’n flinedig.
Pan ddechreuon ni Common Wealth doedden ni ddim yn gwybod bod Cyngor y Celfyddydau yn bodoli, ac y gallech chi gael eich talu i wneud celf. Er hynny, roedd yn dal i deimlo’n amhosibl. Rydych chi’n taro yn erbyn waliau brics – yn methu cael cyfrif banc oherwydd CCJ, ddim yn gwybod sut i sefydlu cwmni, dim arian i dalu cyfreithiwr i’n helpu. Yn y diwedd, derbyniodd yr undeb credyd ni. Newidiodd hynny bopeth. Y cyfan yr oeddem ei eisiau erioed oedd creu theatr a dod â phobl at ei gilydd. Yna, yr eiliad y byddwch yn sicrhau cyllid hirdymor mae rhywun uwch yn y sector yn dweud eich bod yn aelod o’r dosbarth canol nawr.
Jenny Hughes: Sector gelyniaethus ac anhygyrch. Cyfarfodydd – nid ydynt at ddant pawb. Lleoedd bygythiol sy’n ymddangos fel petaent yn gweithredu gyda set anweledig o reolau. Nhw yw’r brif ffordd o gael eich troed mewn proffesiynau sydd wedi’u llunio gan amgylcheddau dosbarth canol gan gynnwys y sector diwylliannol a’r celfyddydau a’r dyniaethau mewn prifysgolion. ‘Dydw i erioed wedi bod mewn cyfarfod yn fy mywyd’ dywedodd fy nhad yn ddiweddar, ‘beth ydych chi’n ei ddweud yn yr holl gyfarfodydd ’na’. A minnau’n gweithio fel artist llawrydd (yn y ganrif ddiwethaf) – ro’n i’n arfer osgoi cyfarfodydd fel y pla. Wnaeth pethau ddim gweithio yn rhy dda. Ceisio bod yn ddigon dewr i agor fy ngheg. Pethau ddim yn swnio’n iawn. Teimlad o fod wedi colli cyfle – o beidio â dweud y peth iawn – ddim wedi cyfleu eich pwynt yn y ffordd iawn. Teimlad bod y penderfyniadau mawr eisoes wedi’u gwneud. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi dysgu bod angen i mi baratoi gormod ar gyfer cyfarfodydd … Pethau ddim yn swnio’n iawn. Teimlad o fod wedi colli cyfle – o beidio â dweud y peth iawn – ddim wedi cyfleu eich pwynt yn y ffordd iawn. Teimlad bod y penderfyniadau mawr eisoes wedi’u gwneud. Dros y blynyddoedd, rydw i wedi dysgu bod angen i mi baratoi gormod ar gyfer cyfarfodydd …
Sut mae siarad â phobl. Dysgu math o gywair – caboledig, ffurf hir (gall rhai pobl siarad am amser hir; mae’n bwysig peidio â siarad yn rhy hir). Mae ‘Tyrd draw i gael sgwrs’ yn gyfle mawr ond pwy oedd yn gwybod mai dyma oedd y realiti.
Roedd y byrddau’n grwn – gweithdrefnau – dim torri ar draws, dim dadlau, dydy hynny ddim yn cael digwydd. Tôn benodol, lefel y sain. Cwrtais, sifil. Teimlo ychydig yn rhy fudr.
Materion o ran llais, iaith. Iaith newydd i’w dysgu – cenhadaeth, gweledigaeth, stori newid, cynllun 5 mlynedd, achos busnes, ymddiriedolwr, cadeirydd, cofnodion, camau gweithredu, gwerthuso, ymgynghorydd, egwyddorion buddsoddi. Mae’r geiriau hyn yn gweithredu fel rhwystrau – pwyntiau mynediad ac ymadael – defodau cychwyn. Ddim yn ddrwg ynddynt eu hunain, bob amser, ond byd cwbl newydd – rhyfedd, dieithr, daliwch eich gwynt a dod drwyddi.
Fe ddechreuais i hyn oherwydd fy mod yn meddwl bod y celfyddydau a’r dychymyg yn drawsnewidiol. Rwy’n meddwl fy mod yn dal i feddwl hynny.
Ffion: Mae ein profiad byw yn ased. Roedd barddoniaeth ysgrifenedig wastad yn meddwl bod gennych chi lyfr ynoch chi a’ch bod eisiau adrodd y straeon roeddech chi’n eu gweld o’ch cwmpas ac yn byw drwyddynt – ond roedd gweld yr awduron cyhoeddedig a oedd yn adrodd y straeon hynny yn dod o deulu crachach ac efallai mai nhw oedd yr unig rai oedd yn cael siarad ar eich rhan. Roedd y Brifysgol yr un fath, seminar o 20 o awduron awyddus a gallwch chi ddweud yn glir mai chi yw’r unig un o gefndir ‘difreintiedig’ – o waw, ti yw’r cyntaf yn dy deulu? ‘Ie dweud y gwir, ac mae pwysau hynny ynddo’i hun yn aruthrol’ ac rydych chi’n dechrau meddwl bod eich gwerth chi’n llai na phawb arall, chi yw’r unig un sy’n darllen budreddi ac yn rhegi yn eich sesiynau rhannu – ‘mae fy nhad yn gaeth i heroin ac mae fy mam yn boncyrs a threuliais fy ieuenctid yn cymryd cyffuriau ar ben mynydd i geisio dianc rhag y pwysau’. Rhannu gormod i greu delwedd neu efallai mai dim ond dweud eich gwir ydych chi, pwy a ŵyr. Maen nhw’n meddwl eich bod chi’n rhywbeth newydd oherwydd eich bod chi o ganol nunlle, beth ydych chi’n ei wybod am fywyd go iawn. Rydych chi’n rhoi’r gorau i ysgrifennu. Rydych chi’n rhoi’r gorau i feddwl. Rydych chi’n colli rhan fawr ohonoch chi eich hun.
Gweithio yn y celfyddydau? Allwch chi ddim bod yn artist gan eich bod chi eisoes wedi penderfynu nad ydych chi’n ddigon da, felly o leiaf mae bod yn agos yn rhywbeth. Bydd hynny’n ddigon da. Dim ond swyddi gweinyddol y gallwch chi eu cael, mae blynyddoedd yn mynd heibio, ac mae pobl yn meddwl eich bod chi’n ychwanegiad gwych i’r swyddfa gyda’ch bratiaith a’ch hanesion
Mae’n teimlo’n fraint aruthrol gwneud yr hyn rydych chi’n ei wneud heddiw ond nid yw celfyddydau cymunedol yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigon da – ac mae Cymru’n ynys ar ynys. Does dim llawer o gyfleoedd. Ewch i Loegr maen nhw’n dweud, ond dydych chi ddim yn gyfarwydd â’r iaith maen nhw’n ei siarad draw fan’na – gallwch chi addasu eich iaith ar gyfer y dosbarth canol Cymraeg ond rydych chi ymhell allan o’ch dyfnder gyda dosbarth canol Lloegr. Dydych chi dal ddim yn gwneud, dydych chi dal ddim yn creu. Beth mae sheepshagger o dŷ cyngor i fod i’w wneud.
Rhiannon: Mae ein profiad byw yn ased. Cefais fy magu mewn lle sy’n enwog am sylw John Redwood, cyn ysgrifennydd gwladol Cymru, pan ddywedodd y dylid tynnu plant oddi ar famau sengl gan eu bod yn beichiogi i gael tai cyngor. Deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ac mae’r naratif hwnnw’n dal yn gryf. Wrth dyfu ro’n i wrth fy modd yn adrodd straeon a chreu bydoedd – cynnal sioeau yn fy ngardd, gwisgo plant i fyny yn nillad fy mam. Yn fy nghymdogaeth roedd trawma, trais, salwch a diweithdra wedi’u plethu i wead ein cymuned ynghyd ag ysbryd, a chyfeillgarwch ac ymdeimlad cyffredin o gefnogi ein gilydd drwy amseroedd caled.
Dydw i ddim yn meddwl bod dosbarth yn cael ei ddiffinio gan faint o arian rydych chi’n ei ennill, beth rydych chi’n ei wisgo, sut rydych chi’n siarad na pha addysg rydych chi wedi llwyddo i’w chael. Mae’n ymwneud â phrofiad byw – beth rydych chi wedi’ch magu gyda nhw, gyda phwy rydych chi wedi’ch magu, beth rydych chi wedi gorfod delio ag ef, sut rydych chi wedi gorfod bargeinio, pa effaith mae hynny wedi’i chael arnoch chi, ansawdd eich bywyd chi, y bobl sydd wedi eich siapio chi, y pethau rydych chi wedi cael mynediad iddyn nhw neu ddim wedi cael mynediad iddyn nhw hefyd, ble rydych chi wedi byw, faint o leoedd rydych chi wedi byw ynddyn nhw, pwy rydych chi wedi gorfod gofalu amdanyn nhw, y swyddi rydych chi wedi gorfod eu cael, y ffyrdd rydych chi wedi gorfod cael arian, y pethau rydych chi wedi poeni amdanyn nhw, sut rydych chi wedi dysgu eich hun, yr hanes na wnaethoch chi ei ddysgu, straeon nad ydych chi’n eu gweld ar y newyddion – gwleidyddiaeth – ar y llwyfan – neu straeon rydych chi’n eu gwneud sydd wedi’u trwytho mewn stereoteipiau a fersiynau gwael o’r byd rydych chi’n ei adnabod. Gorfod colli dy acen gan dy fod di’n swnio’n rhy goman. Cael ei farnu, rhywun yn dweud wrthyt ti nad wyt ti’n ddigon da – prin y byddet ti’n crafu gradd C ac mai’r fflatiau fyddai dy le di yn y pen draw. Dy ffrindiau yn beichiogi ac yn dweud wrthyt ti yn dy ddosbarth gwyddoniaeth, cymdogion yn galw’r heddlu, teuluoedd ifanc, gwasanaethau cymdeithasol, trais, clybiau ieuenctid ar gau eto, cysgu ar soffas, salwch, straen, da-das ar ddydd Mawrth pan ddaw’r credyd teulu. Tlodi a gorfod llywio drwy systemau anaddas, anghyfiawn, diraddiol. Byw mewn lleoedd nad ydynt yn addas at y diben a gorfod gweithio gyda’r hyn a roddir i chi.
Jenny: Mae ein profiad byw yn ased. Es i mewn i ‘theatr gymhwysol’ tua diwedd fy ngradd israddedig (yn y ganrif ddiwethaf) – dilynais gwrs o’r enw ‘Theatre in Prisons’ – roedd carchardai a’r bobl ynddyn nhw’n teimlo’n fwy cyfarwydd na phrifysgolion a’r bobl ynddyn nhw. Nid bod unrhyw un o’m teulu wedi bod yn y carchar – roedd yn golygu cwrdd â phobl a oedd wedi dod o gefndiroedd a oedd ychydig yn debycach i mi. Ro’n i’n teimlo y gallwn weithio yno. Roedd y ddadl ar y pryd yn ymwneud â photensial radical theatr mewn sefydliadau caeedig – sut y gall theatr drawsnewid amser a gofod, gan greu egni ac ymdeimlad o botensial sy’n chwalu rhwystrau.
Cyn mynd i’r brifysgol ro’n i’n dewis rhwng drama a gwaith cymdeithasol. Ro’n i’n cael fy nghymell gan ymdeimlad o geisio helpu, bod yn ddefnyddiol – mae’r math o waith y mae gennyf ddiddordeb ynddo wedi’i leoli’n lletchwith rhwng rhyw fath o ethos cenhadol, naws hunangymorth Fictoraidd, a disgleirdeb y gweithgaredd celfyddydol Gwneud Pethau eich Hun y mae Ffion a Rhiannon am sôn mwy amdano mewn eiliad.
Rwyf bob amser wedi tueddu i ddifaru dweud unrhyw beth am fod o gefndir dosbarth gweithiol yn y cyd-destunau rwy’n gweithio ynddynt – y celfyddydau a’r dyniaethau mewn prifysgolion. Mae gan bobl dueddiad i fynegi amddiffyniad, camddealltwriaeth neu – yn waeth – cymeradwyo (‘da iawn – mi ddes di allan ohoni’). Felly wnes i ddim mynd amdani. Yna daeth dosbarth yn ôl i ffasiwn a gwelais bobl yn ei wneud, roedd yn anghyfforddus ond efallai ei fod wedi fy ysbrydoli. Yna dechreuon ni fanteisio ar hyn. Yn yr ymarfer REF diwethaf (rhyw fath o Ofsted ar gyfer unedau ymchwil prifysgol), fe wnaethom sôn fod gan ein hadran ym Manceinion niferoedd uchel o academyddion a oedd wedi cael addysg y wladwriaeth a/neu oedd yn genhedlaeth gyntaf i fynd i’r brifysgol. Peidiwch â chrafu wyneb y datganiad hwnnw’n rhy galed … gallem wneud llawer mwy petai fy sefydliad wir eisiau canolbwyntio ar sicrhau mynediad i blant o gefndiroedd cyffredin …
Rydym yn rhan o adeiladu mudiad. Pam ydw i’n gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud? Wel, mae’r brifysgol yn fy nhalu. Rwyf wedi bachu ac yn hongian ar gynffon cotiau diwylliant prifysgol elitaidd lle rydych chi’n cael eich talu am addysgu ac ymchwilio i’r hyn rydych chi’n meddwl sy’n bwysig.
Rydw i’n meddwl bod addysg gelfyddydol mewn prifysgol yn bwysig. Aeth y sgwrs groeso ar gyfer y blynyddoedd cyntaf newydd a roddais fel Pennaeth Adran rywbeth fel hyn – ‘llongyfarchiadau – rydych wedi gweithio’n galed iawn i fod yma, rydyn ni wrth ein bodd yn eich gweld ac yn edrych ymlaen at ddechrau arni. Rydych chi wedi dod i’r brifysgol ar adeg anodd (ffioedd, marchnata, streiciau, Covid – rhyw gyfuniad o hyn – yn dibynnu ar y flwyddyn!) ond mae ein busnes craidd yn parhau yr un fath – i ennyn eich diddordeb mewn profiad dysgu heriol, pleserus a gwerth chweil sy’n eich paratoi i wneud cyfraniad i theatr a drama tra byddwch yma ac fel rhan o fywyd gwaith wedyn. I ddefnyddio ein dychymyg a’n deallusrwydd, ac i weld sut mae eraill wedi defnyddio eu rhai nhw, yn awr ac mewn cyfnodau a lleoedd eraill, i wneud ac amddiffyn diwylliant cyhoeddus ac i’w helpu i ffynnu.”
Yn ddiweddar, mae fy ymchwil dilyn trywydd hanesyddol – pan oedd trefi’n cael eu gwneud a’u hail-wneud, cyn cael arian cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau, sut roedd pobl gyffredin defnyddio’r theatr a pherfformio i wasanaethu eu cymunedau? Gan edrych eto ar hanes goleuedigaeth o gelfyddyd ddefnyddiol i olrhain arbrofion perfformio radical, o ddramâu dirwest yn addysgu plant am beryglon diod i adloniant neuadd gerdd yn darparu rhyddhad mewn tlotai. Ond hefyd, sut y roedd yr arbrofion radical hyn yn gorgyffwrdd – nid oes modd eu gwahanu oddi wrthynt – â thrais clasurol a hiliol gwladychiaeth ac ymerodraeth. Sut yr aeth iaith hawliau, gan gynnwys hawliau diwylliannol, law yn llaw â phenderfyniadau ynghylch pwy sy’n gymwys fel bod dynol (dynol fel categori cymwysedig), pa bobl a thiroedd sy’n fwy – neu’n llai – agored i ‘ddiwylliant’ a ‘chyfnewid’. Sut mae’r alwad – am gelfyddydau, addysg, cyfleoedd – i bawb, yn gyffredin – wedi bod yn gyson fygythiol i’r bobl a chanddyn nhw’r pethau hynny eisoes.
Ffion: Rydym yn rhan o adeiladu mudiad. Roedd sioe ar yr orsaf radio gymunedol leol, yn arddangos artistiaid MOBO lleol – bob wythnos roedd un dyn ar ôl y llall yn dod drwy’r drysau am gyfweliad a sesiwn fyw. Roeddech chi’n eu sgorio nhw a’u hallbwn. Ond roeddech chi’n dal i ofyn ble mae’r merched, ble mae’r merched? Dechreuais holi o gwmpas ac roedd pobl yn dweud nad oedd rhai – celwydd noeth. Roeddech chi’n gwybod ym mêr eich esgyrn bod y merched yno, roedden nhw yn eu llofftydd, neu doedd ganddyn nhw ddim arian ar gyfer y stiwdio, neu fe wnaethon nhw grafu eu harian at ei gilydd ar gyfer un sesiwn stiwdio ond (stori wir) cafodd eu traciau eu dal yn ôl ar ôl eu recordio gan eu bod wedi gwrthod cysgu gyda’r cynhyrchydd.
Fedrwch chi ddim bod yr hyn na allwch chi ei weld – a doedd y merched hyn ddim yn gweld eu hunain ar lwyfan The Moon na Chlwb Ifor Bach – a doedd y rhaglenwyr ddim yn fodlon cyflwyno rapwyr oherwydd y polisïau trwyddedu o ran hiliaeth. Roedd yn rhaid i chi ddadlau gyda’r gymuned hiphop leol. Cawsant wybod am y sesiynau jamio misol yn y stiwdio – gosodiadau syml – meic agored, deciau agored – a 4 awr i jamio a bod o gwmpas merched eraill – ar gyfer unrhyw oedran ac unrhyw allu. Dywedodd y dynion hynny wrthych eich bod yn rhwygo’r llwyfan, fe ddywedon nhw wrthych fod croeso i fenywod yn eu sesiynau jamio ond beth oedden nhw’n ei wneud i sicrhau bod menywod yn teimlo’n ddiogel go iawn – ydych chi wedi meddwl sut deimlad yw bod yn un fenyw wedi’i hamgylchynu gan 8 dyn yn pasio’r meicroffon dros eich pen, yn siarad am bitches?
Fe wnaethoch chi ddal ati. Dechrau gofyn ar y cyfryngau cymdeithasol pwy oedd y merched oedd eisiau rapio, pwy oedd y DJs – ac ar ôl ychydig fisoedd o waith caled a holi roeddech chi wedi dod o hyd i’r grŵp craidd gorau i roi cychwyn ar bethau. Dim ond 6 mis oedd pethau i fod i bara – sesiwn stiwdio bob cwpl o wythnosau, digwyddiad ar y diwedd – roedd y digwyddiad hwnnw naill ai’n mynd i fod yn ddiwedd ar bopeth neu’n ddechrau rhywbeth.
Roedd yn anhygoel. Gweld rapiwr 17 oed o Drelái yn dysgu menyw yn ei 60au sut i ysgrifennu bariau – a’r anogaeth roedden nhw’n ei roi i’w gilydd nid yn unig yn gorfforol ond yn emosiynol. Roedd gwersi bywyd yn cael eu dysgu a’u haddysgu yn y jamiau hynny. Roedd pobl yn cael gwared ar emosiynau. Y dagrau, y trawma, rhannu’r holl elfennau negatif.
Ac yna roedd y digwyddiad cyntaf hwnnw – un mewn un allan yn y Moon – gair wedi lledu – roedd yn chwyldro ar y pwynt hwn. Y merched ar y llwyfan oedd y canolbwynt – roedd yn ymwneud â’r ferch 16 oed nad oedd erioed wedi perfformio, y canodd y dyrfa ‘YOU’VE GOT THIS, YOU’VE GOT THIS, YOU’VE GOT THIS’ nes iddi berfformio ei thrac cyntaf a gweld y to yn codi.
Roedd gennym ni ein gilydd nawr, roedd pethau’n mynd i newid.
Rhiannon: Rydym yn rhan o adeiladu mudiad. Roedden ni wedi diflasu ar fodolaeth theatr ar gyfer y dosbarth canol felly aethon ni ati i sefydlu Common Wealth. Dau air ar wahân – ein gwerthoedd wedi’u mynegi yn ein henw. Roeddem yn gwybod y byddai pobl fel ni, o gymunedau fel ein rhai ni, wrth eu bodd â pherfformiad arbrofol. Ym Mryste roedd y ddinas yn teimlo’n doreithiog, roedd gennym ni fynediad i adeiladau gwag y gallem ddal i sgwatio ynddyn nhw’n gyfreithlon, gallem fynd ar y dôl (a roddodd amser a chefnogaeth ariannol i ni fod yn greadigol) roedd llawer o bobl a oedd yn barod am ddod at ei gilydd i fod yn greadigol a gwneud i bethau ddigwydd. Roedd yr olygfa DIY, parti am ddim, actifyddion yn ffynnu. Fe wnaethon ni greu Common Wealth yn ei sgil – gan ddefnyddio’r holl werthoedd a theimladau a’r gwersi a gawsom gan ein cymunedau a’r mudiadau actifyddion yr oeddem wedi bod yn rhan ohonynt.
Yn ein sioe gyntaf a gafodd ei hariannu, Our Glass House – fe wnaethom ni feddiannu tŷ ar stryd gan ei drawsnewid yn ofod perfformio. Fe wnaethon ni greu sioe am gam-drin domestig, gan gyfweld â phobl. Y cyntaf i gael ei chyfweld oedd fy mam gan ei bod mor berthnasol, gonest a gwir i’r profiad hwnnw. Datblygu’r sioe gyda phobl o’r cam cyfweld – dyna pryd y cawsom ni’r crychdonnau. Roedd y bobl y buom yn eu cyfweld yn siapio/golygu ac yn dod ar daith gyda ni. Fe wnaethom anrhydeddu eu straeon ac yn gyfnewid am hynny fe wnaethant sefyll ochr yn ochr â ni – gan rannu’r stori a dod ar daith wedi’i seilio ar barch y naill at y llall.
Yn y sioe honno daeth cymydog yn ei 60au dair gwaith i wylio, nid oedd hi fel arfer yn mynd i’r theatr. Roeddem wedyn yn deall os ydym yn creu gwaith mewn cymdogaethau, gyda phobl, mewn mannau y byddent yn mynd iddyn nhw fel arfer neu’n teimlo’n gyfarwydd â nhw, y byddem yn cyrraedd y bobl yr oeddem am rannu ein gwaith â nhw. Nid oedd gennym erioed ddiddordeb mewn perfformio mewn theatr – rydym yn cael ein cyffroi gan adeiladau, ac mae gweithio sut y gallwn lwyfannu a dylunio ac ymateb iddynt a hynny ynghyd â’u llwyfannu yng nghanol cymdogaethau yn agor cymaint o bosibilrwydd.
Mae’r symudiad yn ymwneud â’r bobl. Ein Seinfwrdd o ddeg o bobl rydyn ni’n eu cefnogi ac yn rhwydweithio ac yn tyfu gyda nhw. Speakers Corner yw ein gofod cymdeithasol ar gyfer merched ifanc yn Bradford sydd wedi sefydlu ymgyrchoedd. Yr artistiaid, a’r perfformwyr rydyn ni’n gweithio gyda nhw – rhai yn perfformio ac yn adrodd eu straeon am y tro cyntaf. Y ffaith ein bod ni wedi ein lleoli mewn dwy wlad, mewn dau gyd-destun, yn ein trefi genedigol – cyd-destunau sy’n gyfarwydd i ni ac rydyn ni’n eu deall yn iawn ac yn teimlo’n angerddol amdanyn nhw. Mae’n cydnabod bod ein cyd-destunau yn y 6ed wlad gyfoethocaf yn y byd – bod gennym ysgolion, llyfrgelloedd, system gofal iechyd a budd-daliadau – a’r pethau hynny y mae’n rhaid i ni barhau i frwydro drostynt.
Dychmygwch petai gan ein cymunedau amser, egni, adnoddau a mynediad i gyfleoedd – a digon ohonynt. Nad oedd yn rhaid i ni boeni am arian, iechyd, bwyd, trais, teimlo ein bod yn cael ein defnyddio, heb ddigon o adnoddau. Bod incwm sylfaenol cyffredinol yn bodoli. Bod gennym amser. Ein bod yn gweld ein hunain yn well, yn ein holl harddwch croestoriadol. Ein bod yn credu ei bod yn bosibl i ni wneud a chreu, a bod ein dychymyg yn cael ei werthfawrogi a’i hyrwyddo a bod ganddo ddigon o adnoddau. Nad ydyn ni’n cael ein gwawdio, na’n defnyddio fel straeon i’w hystyried yn adloniant. Dychmygwch pe baem yn cael ein gwerthfawrogi a’n straeon yn cael eu trin â pharch. Dychmygwch pe byddem yn cael maeth, ym mhob ystyr o’r gair. Bod addysg yn gweithio o’n plaid – a’n bod yn cael gwersi bywyd.x Petai yna ganolfannau ieuenctid, canolfannau cymunedol, bwyd, lleoedd i gysgu, tai heb leithder, dyletswyddau gofalu yn cael eu cefnogi a lle byddem yn teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi. Pe na bai ein henoed yn ynysig ac yn unig – a’n pobl ifanc ddim wedi diflasu a heb bwrpas ond wedi cysylltu ac yn mwynhau eu hamser gyda’i gilydd. Pe gallem gasglu gyda’n gilydd, petai gennym leoedd i ymgasglu. Dychmygwch petai gan ein cymunedau amser, egni, adnoddau a mynediad i gyfleoedd – a digon ohonynt.