Ffasiwn Cyflym a Gweithredu Araf: Myfyrdodau Alison Jefferson ar Fast Fast Slow Common Wealthyn y British Textile Biennial 2023, Blackburn.
Rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2023, llwyfannodd Common Wealth Fast, Fast, Slow, digwyddiad oedd yn archwilio ein perthynas bersonol â ffasiwn cyflym a’r effaith y mae’n ei chael yn fyd-eang. Perfformiwyd y sioe fel rhan o The British Textile Biennial yn Blackburn a BD is LIT Festival yn Bradford. Alison Jeffers: academydd, awdur a darlithydd mewn Theatr Gymhwysol a Pherfformio Cyfoes ym Mhrifysgol Manceinion, a ymunodd â ni drwy gydol y broses greadigol a’r sioeau terfynol, yn myfyrio ar Fast, Fast, Slow a’r hyn a wnaeth y sioe iddi, yn bersonol ac yn wleidyddol.
Pan fydda i’n teimlo ychydig yn isel ac eisiau rhoi hwb i’m hwyliau, mi fydda i’n mynd i brynu rhywbeth. Yn aml iawn, y ‘peth’ hwnnw yw dilledyn. Does dim rhaid iddo fod yn unrhyw beth drud, crys-T efallai, neu siwmper rad. Rwy’n hoffi prynu dillad ac rwy’n hoffi meddwl am yr hyn rwy’n ei wisgo. Rwy’n cynllunio gwisgoedd ar gyfer gwaith ac ar gyfer fy amser hamdden. Rwy’n edrych ar fy wardrob i asesu pa liwiau yw’r rhai mwyaf amlwg – beth mae angen mwy ohono arna i? Rwy’n cynllunio beth i’w wneud pan fydd gen i amser i fynd yn ôl at wnïo. Rwyf wrth fy modd gyda dillad. Wastad wedi bod.
Tan yn ddiweddar ro’n i’n meddwl bod fy arferion o ran dillad yn ddiniwed i raddau helaeth. Roedd gen i incwm, ro’n i’n prynu dillad ac yn cael gwared ar yr hyn nad o’n i ei eisiau mwyach mewn modd yr o’n i’n ei ystyried yn ffordd foesegol. Drwy roi fy hen ddillad i siopau elusen lleol ro’n i hyd yn oed yn credu fy mod yn rhan o ryw fath o gylch economaidd anhunanol. Ro’n i ddim ond yn rhoi dillad oedd mewn cyflwr da. Ro’n i hyd yn oed yn pacio fy magiau du’n ofalus, gan blygu pob eitem, gwneud yn siŵr bod pethau’n cael eu paru os oedd angen. Yna dechreuais glywed y sibrydion: ‘ti’n gwybod bod y rhan fwyaf o dy stwff di ddim yn mynd i siopau elusen? Mae’n mynd i domen sbwriel. Maen nhw’n cael eu cyfnewid dramor mewn gwledydd tlotach’. Surely not, I reasoned, but I did wonder why I never saw any of my stuff on the Does bosib, wnes i resymu, ond ro’n i wedi meddwl pam na welais i ddim o fy mhethau ar y rheiliau yn fy siopau lleol.rails in my local shops.
Yn anffodus, profodd fy ymwneud â British Textile Biennial 2023 (BTB23) yn Swydd Gaerhirfryn y sibrydion hynny’n wir. Comisiynwyd Common Wealth gan BTB i greu perfformiad o amgylch dillad a’n perthynas â’n dillad. Fast Fast Slow oedd y perfformiad byw cyntaf yn y BTB sydd wedi digwydd ddwywaith o’r blaen. Cyn hynny, roedd y rhan fwyaf o’r gwaith wedi canolbwyntio ar y celfyddydau gweledol. Cynhaliwyd y perfformiad yn The Exchange yn Blackburn, lle enfawr ar lawr cyntaf adeilad rhestredig Gradd 2 segur. Fe’i llwyfannwyd ar bompren hir gyda chymorth bêls o ddefnyddiau fel y rhai sydd fel arfer yn cael eu dosbarthu i leoedd fel Ghana. Mae’r safle’n arwyddocaol oherwydd fe’i hagorwyd ym 1865 fel Cyfnewidfa Gotwm yng nghanol diwydiant gwehyddu cotwm Prydain (ewch i https://exchangeblackburn.org.uk/ https://exchangeblackburn.org.uk i gael mwy o wybodaeth am hanes yr adeilad a’r broses o’i adfer). Atgyfnerthwyd naws y sioe ffasiwn gan oleuadau ar nenbontydd enfawr, system sain lawn a mynedfa ddwyffordd ar y naill ochr i’r bompren lle byddai’r perfformwyr yn dod allan.
Mewn sawl ffordd cyflwynodd Fast Fast Slow Yma roedd pobl Blackburn yr 21 ain ganrif yn siarad am eu perthynas â dillad mewn perfformiad a oedd yn digwydd yn yr hyn a fu’n ganolbwynt i’r fasnach tecstilau (a’r Chwyldro Diwydiannol) gan gerdded ar draws bêls o ddillad wedi’u taflu a oedd fod i farchnadoedd Affrica. Cafodd y cylch ei gau yn iawn gan bresenoldeb Kwamene Boison yn sioe, actifydd sy’n rhedeg The Revival, prosiect dillad yn y farchnad ddillad ail-law fwyaf yn y byd, Kantamanto yn Ghana. Byddaf yn dod yn ôl at y cylch diddorol hwn mewn munud ond yn gyntaf hoffwn roi blas i chi o’r straeon y mae Fast Fast Slow yn eu rhoi ar y bompren/llwyfan.
Gweithiodd artistiaid Common Wealth gyda chwe chyd-grëwr, pobl leol o Blackburn a’r cyffiniau, dros sawl mis yn y cyfnod cyn y sioe. Buont yn siarad â nhw am eu perthynas â dillad, a gan ddefnyddio’r syniadau hyn, eu helpu i greu chwe stori unigol, neu ‘gasgliadau cysyniad’ a ddaeth yn asgwrn cefn Fast Fast Slow. Roedd rhai o’r cyd-grewyr ychydig fel fi – roedden nhw’n caru dillad ac yn berchen ar lawer! I rai roedd eu perthynas â dillad wedi newid dros bandemig Covid pan dim ond cerdded a bod yn yr awyr agored y gallai’r rhan fwyaf ohonom ei wneud yng nghanol cyfnod clo cenedlaethol. Roedd gan rai berthynas anodd gyda dillad gan gwympo i mewn ac allan o gariad â nhw wrth i’w hiechyd meddwl a delwedd y corff newid. Ymunodd tua 15 model arall â’r cyd-grewyr hyn ar y bompren, gan symud, sefyll a dawnsio i helpu pob un ohonynt i adrodd eu straeon. Roedd yn deimladwy ac yn heriol, yn uchel ac yn weledol gyffrous. Mae’n cyd-fynd â nod Common Wealth i wneud i gynulleidfaoedd deimlo’n rymus. Esboniodd y Cyfarwyddwr Evie Manning wrtha i ‘Rwy’n credu nad ydych chi’n gwneud i bobl fod eisiau gweithredu os ydych chi’n gwneud iddyn nhw deimlo’n dwp, neu os ydych chi’n gwneud iddyn nhw deimlo’n oddefol ac yn dawel. Os ydych chi’n dweud, na, rydych chi’n eistedd yn y tywyllwch ac rydyn ni’n bobl bwysig yma.’ Eglurodd fod 70% o’r gynulleidfa wedi aros ar ôl y sioe i drafod bob nos. Synhwyrodd Evie fod ‘pobl yn awyddus nid yn unig am atebion ond i ofyn y cwestiynau a dweud pethau yn uchel.’
Roedden ni wedi gweld Kwamena a’i gydweithiwr Yayra Agbofa ar y sgrin yn cael eu ffilmio yn Ghana. Fe wnaethon nhw egluro am y bêls o ddillad yn cyrraedd Kantamanto a faint ohonyn nhw oedd wedi’u difrodi neu’n anaddas. Fe wnaethant ddweud wrthym am eu hymdrechion i ailgylchu ac ailddefnyddio cymaint o’r gwastraff hwn â phosibl drwy eu prosiect, The Revival (ewch i https://www.therevival.earth/). Mewn moment ddramatig tua diwedd y sioe aeth Kwamena ei hun ar y bompren i gyflwyno rhai syniadau pwysig gan y rheini sy’n derbyn ein gwastraff dillad yn Ghana. Gwnaeth hyn i mi feddwl am raddfa’r problemau gwastraff dillad y mae Kwamena a miloedd tebyg iddo yn eu hwynebu a pha mor fach yw rhai gweithredoedd y gallwn eu gwneud i wrthwynebu hyn. Mae gwnïo botwm yn ôl ar rywbeth, pwytho hem neu roi clwtyn ar bâr o jîns yn bethau bach. Ond yr Fast Fast Slow i ni yw bod gweithredoedd bach yn bwysig. Nid yn unig maen nhw’n ymwneud â thrwsio ond hefyd am arafu. Mae’n cymryd amser i wneud y pethau hyn ond wrth i ni arafu i’w cyflawni, rydyn ni hefyd yn herio cyflymder ffasiwn cyflym a diwylliant gwastraffus. Rydyn ni’n herio neges ffasiwn cyflym bod angen mwy arnom; na allwn gael ein gweld ddwywaith yn yr un dillad; y bydd prynu eitem rad o ddillad yn gyflym yn rhoi hwb i’n hwyliau oherwydd ein bod yn ei haeddu.
Dywedodd Kwamena wrthyf fod teiliwr bob amser mewn cymunedau yn Ghana, hyd at 5 teiliwr hyd yn oed, mewn cymuned yn gwnïo pethau i’w hunain eu gwerthu. Ond yn bennaf maen nhw’n gweithio ar y cyd â phobl yn y cymdogaethau i wneud a thrwsio pethau. Mae’n gweld posibiliadau wrth ‘roi’r cysyniad hwn yn erbyn neu o amgylch y cysyniad o ffasiwn cyflym, nawr’. Cydweithio ar lawr gwlad, rhannu sgiliau, arafu i drwsio dillad yw’r hyn mae Kwamena yn ei alw’n ‘fodel hardd y gellid ei ailadrodd ar lefel fyd-eang’. Kwamena added that the collection Denim Juice which was part of The Revivals collection presented at the show is an appropriate example of the power of community and collaboration as the collection was a collaborative design initiative with pineapple farmers to produce an estimated 3000 protective gear annually with discarded denim from Kantamanto. Rydw i wedi dysgu llawer gan BTB23 ac yn enwedig o’m hymwneud â Fast Fast Slow a’r artistiaid a’r actifyddion a fu’n gweithio ar y sioe. Rwy’n ceisio gweld manteision trwsio a phrynu llai o ddillad a rhannu’r neges hon pryd bynnag y bo modd.