SEFYLL AR EICH TRAED EICH HUN

mwy

SEFYLL AR EICH TRAED EICH HUN

(Hyblyg – gweithdy 3 diwrnod, gallai fod yn 1 diwrnod)

Ar gyfer rhwng 5 a 15 o bobl

Wedi’i anelu at fenywod dosbarth gweithiol

Gweithdy hunanddatblygiad ar gyfer menywod dosbarth gweithiol sy’n archwilio pwy ydyn ni, o ble rydyn ni’n dod a beth hoffem ni ei sicrhau ar gyfer ein dyfodol. Gan weithio fel grŵp byddwn yn darganfod ffyrdd o siarad am y pethau sy’n bwysig i’n cymunedau, i ni a sut y gallwn ail-ddychmygu’r dyfodol yr ydym am ei gael. Rydyn ni’n gweithio gydag ymarferion theatr sy’n rhyddhau ein lleisiau, ein cyrff a’n hyder. Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n benodol ar yr hunan ac mae’n archwilio pwysigrwydd bod yn berchen ar bwy ydym ni a’r hyn sydd gennym i’w ddweud am y byd a phwysigrwydd gofalu amdanom ein hunain. Rydyn ni wedi cyflwyno’r gweithdy hwn yng Nghaerdydd a Byker, Newcastle.

“Gadewais y gweithdy yn cofio pa mor bwysig yw cael dwy droed ar y ddaear. Mor syml â hynny.”

“Nid ynysoedd ydyn ni. Mae cysylltiad rhwng pob un ohonom. Nid ydym byth ar ein pen ein hunain. Nid oes rhaid i ni ofni gwneud pethau newydd oherwydd rydyn ni bob amser yn mynd i gwrdd â rhywun sy’n ein helpu.”

“Nid cwmni sy’n barnu yw Common Wealth. Nid oedd unrhyw stigma ynghlwm wrth fy nghefndir na’m hacen wrth i ni gael gwahoddiad i siarad am ble rydyn ni’n dod a sut y mae hynny wedi ein gwneud yn pwy ydyn ni heddiw. Roedd hyn yn braf oherwydd yn y gorffennol rwyf wedi cael fy annog i ddatgysylltu fy ngyrfa yn y celfyddydau gyda’m hacen Hartlepool. Yn y sesiwn gyntaf, gwrandawyd arnaf yn astud wrth i mi siarad am fy nhref enedigol a’m Mam, ac ar yr adeg honno fe wnes i grio wrth sylweddoli nad oeddwn wedi sôn llawer am fy nghefndir wrth lawer o bobl, gan ailadrodd pa mor bwysig yw hyn i mi a dangos i mi pa mor hawdd oedd cyrraedd yr emosiynau dwfn hynny. Fe wnaethon nhw greu man diogel lle roeddwn i’n gallu siarad am bethau na fyddwn i erioed wedi sôn amdanynt cyn hyn.”